Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Heddiw, mae'n bleser cael rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y Dull Strategol ar gyfer mynd i'r afael â Physgodfeydd a Dyframaethu yng Nghymru a gyflwynwyd ychydig dros 12 mis yn ôl.
Ar ôl ymgynghori â'm Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Bysgodfeydd Cymru (MAGWF), cyflwynais Ddull Strategol Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2024, a oedd yn canolbwyntio ar:
- Gyhoeddi a gweithredu'r Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd (FMPs) a ddisgrifir yn y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd;
- Gwneud ein dyletswyddau pysgodfeydd statudol gan gynnwys rheoli, gorfodi a monitro pysgodfeydd o ddydd i ddydd;
- Bodloni ein rhwymedigaethau cenedlaethol a rhyngwladol fel awdurdod polisi pysgodfeydd.
Mae'r adolygiad 12 mis yn nodi'r gwaith sylweddol sydd wedi'i wneud ym mhob un o'r meysydd blaenoriaeth hyn. Cefais gyfarfod gyda MAGWF unwaith eto yr wythnos hon ac fe wnaethom ystyried ein llwyddiannau, a gyflawnwyd trwy gydweithio. Mae'n bleser cael cyfeirio at rai o'r llwyddiannau hynny.
Rydym wedi cymryd camau breision o ran datblygu FMPs a'u rhoi ar waith. Dw i am gydnabod yn arbennig rôl ein grwpiau cynghori o randdeiliaid sydd wedi'n helpu i ddatblygu cynlluniau a mesurau gweithredu i wneud ein stociau'n gynaliadwy yn y tymor hir.
Cyn bo hir byddwn yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar yr FMP Cymreig cyntaf, ar Grancod a Chimychiaid, ac rydym wedi cyfrannu at ddatblygu 5 FMP ar y cyd â'r DU.
O ran rhoi FMPs ar waith, rydym wrthi'n ceisio barn ar gynigion i wella mesurau rheoli pysgodfeydd cregyn bylchog, yn dilyn cyhoeddi'r FMP Cregyn y Brenin yn 2023. Daw'r ymgynghoriad cyhoeddus i ben ar 31 Ionawr.
Ar lefel Cymru, i sicrhau bod ein hadnoddau naturiol gwerthfawr yn rhoi i ni fanteision economaidd cynaliadwy, rydym wedi parhau i reoli'n pysgodfeydd ar sail y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf. Roedd hyn yn cynnwys cyflwyno system newydd ar gyfer rheoli cocos, cynllun rheoli ar gyfer y bysgodfa cregyn y moch a lansio pysgodfa hamdden ar gyfer y tiwna asgell glas.
Rydym yn parhau i sicrhau bod llongau domestig a rhyngwladol yn pysgota'n gynaliadwy. Gwnaethom gynnal 8 erlyniad llwyddiannus am gamgofnodi lledod chwythig, casglu cyfanswm o £950,000 mewn dirwyon a chostau, ynghyd â chyhoeddi 20 o hysbysiadau cosb benodedig am droseddau eraill. Fe wnaethom hefyd gydweithio â sawl asiantaeth ledled y DU i ymateb i dramgwyddau posibl eraill mewn pysgodfeydd. Mae'r rhain yn fuddugoliaethau pwysig a fydd yn helpu i ddiogelu dyfodol ein pysgodfeydd a'r amgylchedd yng Nghymru.
Drwy gydol 2025 fe wnaethom barhau i weithio ar y cyd ag awdurdodau pysgodfeydd eraill y DU i reoli stociau a rennir mewn ffordd gynaliadwy. Roeddwn yn arbennig o falch o weld y Comisiwn Rhyngwladol Gwarchod Tiwna'r Iwerydd yn eu cyfarfod blynyddol yn cynyddu'n cyfleoedd i bysgota'n fasnachol am y tiwna asgell glas ar gyfer 2026 i 2028.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yn nyfodol cynaliadwy pysgota Cymru. Yn 2025, dyfarnwyd £1,146,984 o dan Rownd 5 Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru (WMFS), a £430,132 drwy'r Gronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol. Mae £1.29 miliwn yn cael ei ychwanegu at y BEL Pysgodfeydd yn 2026/27 i gefnogi a gwella'r sector pysgodfeydd pwysig a'n cymunedau arfordirol ledled Cymru. Bu cynnydd yn y gyllideb ar gyfer Rownd 6 yr WMFS, a agorodd ar gyfer ceisiadau ar 7 Ionawr, gan roi'r cyfle cyntaf i'r sector pysgodfeydd a'n cymunedau arfordirol fanteisio ar y cyllid ychwanegol hwn. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n pysgotwyr a rhanddeiliaid eraill i adnabod a chyflwyno mecanweithiau cymorth eraill.
Ymhlith y pethau eraill a wnaethom y llynedd oedd dyfarnu £194,000 i bysgotwyr ar gyfer gosod Systemau Monitro Llongau'r Glannau, lansio contractau gwyddoniaeth aml-flwyddyn a chomisiynu ymchwil economaidd-gymdeithasol ac archwiliad carbon o fflyd Cymru.
I gryfhau'r sector, mae mentrau yn y gadwyn cyflenwi bwyd môr, prosiectau lles, a chynlluniau ariannu yn cael eu cynnal. Mae gan Seafit Cymru saith digwyddiad ar y gweill ym mis Chwefror a mis Mawrth, a fydd yn cynnig archwiliadau corfforol, iechyd meddwl a deintyddol am ddim i bysgotwyr a'u teuluoedd.
Trwy'r Dull Strategol roeddem am gael y pethau sylfaenol yn iawn, gan sicrhau bod gennym sylfaen gref ar gyfer rheoli pysgodfeydd a dyframaethu'n gynaliadwy i'n cario i'r dyfodol. Rydym wedi cadw ein haddewidion, gyda sylfaen gryfach i adeiladu arni ar gyfer y dyfodol.
