Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Tachwedd 2021 rhoddais ddatganiad llafar yn cadarnhau'r flaenoriaeth lwyr rwy'n ei roi ar ddarllen ac llafaredd a'r camau yr wyf yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni safonau uchel yn y sgiliau hyn. Rwy'n falch o roi diweddariad i'r aelodau.

Mae gwella safonau llafaredd a darllen yn hanfodol er mwyn i bob dysgwr, waeth beth yw eu cefndir economaidd-gymdeithasol, gael eu harfogi â'r sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad i gyrraedd eu potensial. Rwy'n falch bod effaith y £5 miliwn ychwanegol a fuddsoddais mewn llyfrau a rhaglenni darllen i'w deimlo ledled Cymru. Mae hyn wedi arwain at roi dros 350,000 o lyfrau ychwanegol a 169,070 o docynnau llyfrau yn rhodd i'n dysgwyr mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.  

Mae ymchwil yn dangos bod darllen mwy a datblygu cariad at ddarllen a llenyddiaeth yn cael effaith gadarnhaol ar lwyddiant addysg. Eleni, rwy'n treialu rhaglen fentora darllen lle bydd myfyrwyr prifysgol yn cael eu partneru gydag ysgolion cynradd mewn ardaloedd o amddifadedd i weithio gyda grwpiau penodol o ddysgwyr er mwyn annog mwynhad a chymhelliant i ddarllen. Mae'r peilot hwn hefyd yn gyfle i ehangu ymwybyddiaeth dysgwyr o gyfleoedd addysg uwch o oedran cynnar ynghyd â’u dyhead i ddilyn cyfleoedd o’r fath yn y dyfodol.

Gyda'n partneriaid, rydym wedi datblygu pecyn cymorth i gynnal safonau uchel o ran llafaredd a darllen mewn ysgolion a lleoliadau, sef Dull ysgol gyfan ar gyfer llafaredd a darllen: Pecyn cymorth i gynnal safonau uchel mewn llafaredd a darllen mewn ysgolion a lleoliadau. Mae'r pecyn cymorth yn cydnabod cymhlethdod codi safonau yn y sgiliau hyn, a’i bod yn bwysig i gymuned yr ysgol gyfan weithio gyda'i gilydd mewn ffordd gydgysylltiedig, cyson, a pharhaus lle mae siarad, gwrando, a darllen yn rhan o bob agwedd ar fywyd yr ysgol neu’r lleoliad. Mae'r pecyn cymorth yn darparu ystod o wybodaeth ac adnoddau a fydd yn galluogi ysgolion a lleoliadau i ddatblygu a gwreiddio eu dull ysgol gyfan eu hunain ar gyfer darllen a llafaredd.

Rwy'n gwybod bod nifer o ysgolion a lleoliadau wedi bod yn gweithio fel hyn ers blynyddoedd lawer. Mae'r pecyn cymorth yn atgyfnerthu'r diwylliant a'r dyhead hwn i bawb o fewn lleoliadau gyda gwaith partneriaeth rhwng staff, rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach, a thrwy hynny gyfrannu at fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol.

Yn olaf, mae'n hanfodol ein bod yn cynnal y momentwm wrth barhau i wella ein dull o ymdrin â sgiliau llythrennedd. I gefnogi hyn, mae Estyn yn cynnal adolygiad thematig ar hyn o bryd ar ddatblygu sgiliau darllen Saesneg mewn ysgolion yng Nghymru, a fydd yn adrodd ym mis Mai. Yn ddiweddarach eleni, bydd Estyn hefyd yn cynnal adolygiad thematig pellach ar ddatblygu sgiliau darllen Cymraeg. Gyda'i gilydd, bydd yr adroddiadau hyn yn llywio’r cam nesaf yn y  maes gwaith hanfodol hwn.