Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, Y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym bob amser wedi dweud fel Llywodraeth mai safleoedd ysgolion a cholegau fyddai'r olaf i gau a'r cyntaf i agor.

Roeddwn wrth fy modd o weld lluniau o rai o'n dysgwyr ieuengaf yn ein gwisg genedlaethol yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi mewn ysgolion ledled Cymru. A dwi’n gwybod pa mor falch roedd y dychweliad i fyfyrwyr hŷn a oedd yn ymgymryd ag asesiadau ymarferol yn ein colegau.

Mae'r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau i wella.

  • Mae'r gyfradd saith diwrnod wedi gostwng i 60 achos i bob 100,000 o bobl.
  • Ymhob rhan o Gymru, mae'r gyfradd yn is na 100 achos i bob 100,000 o bobl ac mewn chwe awdurdod lleol, mae'n is na 50 o achosion.
  • Mae'r gyfradd R yn parhau i fod yn is nag 1 yng Nghymru.
  • Mae cyfanswm y cleifion yn yr ysbyty yn gysylltiedig â coronafeirws wedi gostwng o dan 1,500 am y tro cyntaf ers dechrau mis Tachwedd.
  • Ac mae dros filiwn o frechiadau wedi cael eu darparu i bobl yng Nghymru.

Rydym eisoes wedi cyhoeddi y bydd holl blant ysgolion cynradd sy'n weddill yn medru bod nol yn dysgu ar safle’r ysgol o 15 Mawrth ymlaen. O'r dyddiad hwnnw byddwn hefyd yn galluogi dysgwyr mewn blynyddoedd arholiad i ddychwelyd, a byddwn yn rhoi’r hyblygrwydd i ysgolion wahodd dysgwyr ym mlynyddoedd 10 a 12 i fynychu. Byddwn hefyd yn galluogi mwy o ddysgwyr mewn colegau AB a hyfforddiant, i ddychwelyd i ddysgu ar y safle. Mae hyn oll wrth gwrs yn amodol ar y ffigurau'n parhau i symud i'r cyfeiriad cywir.

Mae'r pandemig hwn wedi bod yn anodd i bawb, ond yn enwedig i blant a phobl ifanc, sydd wedi colli allan ar ddysgu a datblygu pwysig, rhyngweithio cymdeithasol a chanlyniad hyn ar eu lles.

Rwyf wedi dweud mai fy mwriad yw y bydd yr holl ddisgyblion ysgol, myfyrwyr AB, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn ôl ar eu safleoedd ar ôl y Pasg. Ond rydw i ac arweinwyr ysgolion yn bryderus iawn y bydd rhai dysgwyr wedi bod i ffwrdd o'r ysgol ers dechrau mis Rhagfyr.

Dyma pam o 15 Mawrth ymlaen bydd gan ysgolion uwchradd ac annibynnol nawr yr hyblygrwydd i roi cyfle i ddysgwyr ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 dderbyn sesiwn ailgydio sy'n canolbwyntio ar gefnogaeth ar gyfer lles a pharodrwydd i ddychwelyd i ddysgu ar safle'r ysgol ar ôl y Pasg.

Mae yna rai egwyddorion sy'n sail i'r dychweliad i ddysgu ar y safle mewn lleoliadau uwchradd o 15 Mawrth.

  • Dylid dyrannu'r mwyafrif o amser ac adnoddau i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 11 a 13.
  • Dylai'r amser a roddir i ddysgu wyneb yn wyneb ganolbwyntio ar weithgaredd sy'n anoddach ei gyflawni o bell.
  • Bydd dysgu o bell yn parhau yn ystod y cyfnod hwn pan nad yw dysgwyr ar safle’r ysgol.

Mae fy swyddogion yn gweithio gyda cholegau i gytuno ar y dull o ehangu mynediad i ddysgwyr cyn y Pasg, fel y gall y rhai sydd fwyaf angen mynychu ar gyfer dysgu ac i baratoi ar gyfer asesiadau wneud hynny. Gall dysgwyr sydd â phryderon lles penodol eisoes fynychu'r coleg am sesiynau ailgydio os oes angen iddynt wneud hynny.

Rydym yn cymryd diogelwch a lles ein dysgwyr a'n gweithlu o ddifrif. Nid oes tystiolaeth i awgrymu trosglwyddiad eang mewn ysgolion a cholegau. Mae trosglwyddo mewn ysgolion yn adlewyrchu lefelau trosglwyddo yn y gymuned.

Bydd canllawiau gweithredol i ysgolion diwygiedig yn cael eu cyhoeddi y bore yma, a byddaf yn ysgrifennu at bob ysgol i'w hysbysu o fy mhenderfyniad.

Byddwn yn cyhoeddi canllawiau ar gyfer colegau a darparwyr ôl-16 eraill yn fuan.

Mae'r mesurau rheoli yn parhau i fod yn bwysig wrth leihau trosglwyddiad a dylai ysgolion a lleoliadau barhau i sicrhau bod y rhain yn cael eu cyfathrebu'n glir.

  • Dwylo, wyneb, pellter yw'r mesurau pwysicaf o hyd i atal haint.
  • Dylid gwneud defnydd llawn o oedi amseroedd cychwyn a gorffen.
  • Mae profion dwywaith yr wythnos bellach ar gael i'r holl staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu ym mhob ysgol a choleg. Rydym hefyd yn gweithio gyda awdurdodau lleol er mwyn sefydlu dulliau i ddarparu profion i yrwyr cludiant ysgol a choleg, athrawon cyflenwi a staff peripatetig sy’n gweithio ar draws sawl ysgol.
  • Bydd profion dwywaith yr wythnos hefyd ar gael ar gyfer dysgwyr blwyddyn 10 a hŷn mewn ysgolion a cholegau.
  • Mewn ysgolion uwchradd a cholegau, dylai gorchuddion wyneb cael eu gwisgo ym mhob ardal gymunedol ac yn yr ystafell ddosbarth lle nad yw'n bosibl sicrhau pellter cymdeithasol.
  • Erbyn hyn dylai'r holl staff sy'n gyfrifol am ddarparu gofal personol agos ar gyfer rhai o’n dysgwyr mwyaf bregus sydd ag anghenion meddygol cymhleth fod wedi cael cynnig eu brechiad cyntaf. Ac rydym yn parhau i fod ar y trywydd cywir i gynnig brechlyn i bawb dros 50 oed erbyn canol mis Ebrill.
  • Byddwn hefyd yn ysgrifennu ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru at bob arweinydd ysgol yn eu hatgoffa o bwysigrwydd diweddaru’r asesiad risg ar gyfer eu hysgol nhw.

Diolch yn fawr iawn i holl aelodau’r gymuned addysg am gefnogi ein plant a'n pobl ifanc. Diolch hefyd i awdurdodau lleol ac undebau am bartneriaeth adeiladol.