Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth i'r dysgu ailddechrau yn dilyn gwyliau'r Nadolig, rwyf am roi diweddariad am y sefyllfa ddiweddaraf gyda'n canllawiau cenedlaethol ar y trefniadau gweithredol ar gyfer ysgolion a cholegau. Ein prif flaenoriaeth o hyd yw gwneud y mwyaf o ddysgu wyneb yn wyneb a lleihau aflonyddwch i ddysgwyr.

Mae'n ymddangos bod y don bresennol o bandemig COVID-19 yn datblygu fel y rhagwelwyd yn y modelu. Mae nifer yr achosion yn cynyddu, ac mae lefelau uchel o drosglwyddo cymunedol. Bydd hyn, ochr yn ochr ag absenoldebau staff oherwydd salwch arall, yn parhau i effeithio ar ddarpariaeth ysgolion dros yr wythnosau nesaf. Er bod data gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyhoeddwyd ychydig cyn y Nadolig yn dangos bod achosion o coronafeirws ymhlith plant a phobl ifanc 5-16 oed wedi gostwng yn yr wythnosau cyn gwyliau'r Nadolig, rhaid trin y wybodaeth hon, yn ogystal â data dros gyfnod y gwyliau, gyda gofal. Byddwn yn parhau i fonitro'r data'n ofalus wrth i ddysgwyr ddychwelyd i'r ysgol.

Cyn y Nadolig, nodais y byddai dau ddiwrnod cynllunio ar ddechrau'r tymor hwn ar gael i bob ysgol, gyda cholegau'n cael cymorth i wneud penderfyniadau unigol. Roedd hyn yn cydnabod lefel yr ansicrwydd a pha mor gyflym yr ydym wedi gorfod addasu polisi cenedlaethol. Ar ôl cydweithio â'n partneriaid yn y sector addysg dros wyliau'r Nadolig, diweddarwyd ein canllawiau cenedlaethol ymhellach cyn y diwrnodau cynllunio hyn i helpu ysgolion a cholegau i sicrhau bod cynlluniau cadarn ar waith cyn i ddysgwyr ddychwelyd dros y dyddiau nesaf. Mae'r canllawiau sy'n ei gwneud yn ofynnol i staff a dysgwyr ysgolion uwchradd wisgo gorchuddion wyneb yn yr ysgol, gan gynnwys mewn ystafelloedd dosbarth, wedi parhau i'r tymor newydd a gofynnwyd i ysgolion a cholegau gynllunio ar gyfer y mesurau mwyaf amddiffynnol yn unol â'r fframwaith a ddefnyddir mewn ysgolion a cholegau. Gallai'r rhain gynnwys:

  • defnyddio systemau unffordd; 
  • cynlluniau eistedd cyson lle bo hynny'n ymarferol;
  • defnyddio mannau awyr agored addas;
  • defnyddio grwpiau cyswllt lle bo hynny'n ymarferol;
  • peidio dod â grŵpiau mawr ynghyd, fel gwasanaethau;

Rydym yn rhoi'r dewis i ysgolion i amrywio amseriadau cychwyn a gorffen fel cam lliniaru ychwanegol pe bai eu hasesiad risg yn cefnogi hyn.

Yn ogystal, yr ydym yn cyhoeddi heddiw gyllid pellach o dros £100m i gefnogi ysgolion a cholegau.  Mae'r pecyn ariannu hwn yn cynnwys:

  • Bydd £50m yn cael ei ddarparu drwy'r awdurdodau lleol drwy'r rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Bydd yr arian yn helpu ysgolion i wneud gwaith atgyweirio a gwella cyfalaf, gan ganolbwyntio ar fesurau iechyd a diogelwch, fel gwella awyru;
  • £45m o gyllid refeniw yn helpu i gefnogi cyllidebau ysgolion, gan gynorthwyo ysgolion wrth iddynt barhau i ddelio ag effeithiau parhaus y pandemig a pharatoi ar gyfer gofynion y cwricwlwm newydd; a
  • Bydd £8m ychwanegol yn cael ei ddarparu i golegau addysg bellach, er mwyn sicrhau bod dysgu’n gallu parhau'n ddiogel a sicrhau nad yw'r pandemig yn effeithio ymhellach ar y dysgwyr mwyaf difreintiedig.

Er ein bod yn rhagweld cyfnodau o darfu ar ddysgu wyneb yn wyneb i rai dros yr wythnosau nesaf, rydym wedi ailadrodd i ysgolion a cholegau y dylid cadw unrhyw gyfnodau o ddysgu o bell i’r hyd lleiaf posib. Bydd ysgolion hefyd yn canolbwyntio'n benodol ar gefnogi dysgwyr mewn blynyddoedd arholiadau, plant gweithwyr hanfodol a phlant sy'n agored i niwed wrth adolygu a diwygio eu cynlluniau wrth gefn.

Bydd colegau'n parhau i weithio gyda dull dysgu cyfunol i sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu cael mynediad at ddysgu wyneb yn wyneb, gan gydnabod gwahanol anghenion dysgwyr ac amrywiaeth y cyrsiau, asesiadau a chymwysterau sy'n cael eu cymryd yn y coleg, gan gynnwys cymwysterau galwedigaethol a dysgwyr sy'n agored i niwed. Rwyf wedi cymeradwyo £1m ychwanegol i gefnogi colegau gyda recriwtio staff ac i helpu i ddenu ymarferwyr i weithio yn ein colegau.

Rydym yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau cyflenwi i helpu i leddfu'r pwysau staffio y mae ysgolion wedi'u profi. Mae'r fenter newydd a roddodd 400 o athrawon newydd gymhwyso mewn swyddi cyflogedig mewn ysgolion yn ystod tymor yr hydref hefyd wedi creu capasiti mewn ysgolion ac wedi galluogi'r unigolion hyn i gael profiad pellach. Rydym wedi ymestyn y cynllun a bydd yr athrawon hyn yn parhau yn eu swyddi ar gyfer y tymor sydd i ddod. Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i geisio adnabod ymarferwyr a allai fod yn barod i gefnogi ysgolion sy'n wynebu pwysau dwys.

Gwnaed nifer o newidiadau i drefniadau profi, olrhain cysylltiadau a hunan-ynysu rheolaidd dros yr wythnosau diwethaf a fydd yn helpu i gefnogi dysgu mewn ysgolion a cholegau.

  • Bellach cynghorir pob aelod o staff a dysgwyr uwchradd a hŷn i ddefnyddio (ac i adrodd ar ganlyniadau) Prawf Llif Unffordd deirgwaith yr wythnos fel dull o nodi achosion asymptomatig. Mae hefyd yn bwysig i staff a dysgwyr wneud hynny cyn iddynt ddychwelyd i'r ysgol neu goleg yr wythnos hon.
  • Gofynnir i blant a phobl ifanc 5-17 oed ac oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn gymryd profion llif unffordd bob dydd am saith diwrnod os cânt eu nodi fel cyswllt o achos COVID-19 cadarnhaol. Gelwir hyn yn 'Profion Cyswllt Dyddiol'. Rydym wedi sicrhau bod pecynnau prawf llif unffordd ychwanegol ar gael i ysgolion cynradd ledled Cymru'r wythnos hon i helpu i gefnogi'r newid hwn.
  • Rhaid i'r rhai sy'n profi'n bositif hunan-ynysu am saith diwrnod. Ar ddiwrnod ynysu chwech, dylent gymryd prawf llif unffordd a phrawf arall 24 awr yn ddiweddarach. Os yw'r ddau ganlyniad yn negyddol, mae'n debygol nad ydynt yn heintus.
  • Gall ysgolion a cholegau archebu a dosbarthu un pecyn o 7 prawf llif unffordd i bob aelod o staff a dysgwr oed uwchradd neu'n hŷn yn wythnosol felly ni ddylai'r unigolion hyn gael trafferth cael profion.
  • Y tymor hwn rydym wedi symud i brawf llif unffordd trwynol yn unig i'w ddefnyddio mewn ysgolion.  Rydym hefyd wedi lleihau'r fiwrocratiaeth a'r weinyddiaeth sy'n gysylltiedig â dosbarthu profion i'w gwneud yn haws i unigolion gael profion ac i ysgolion a cholegau eu gweinyddu.

Er bod y trefniadau diwygiedig hyn yn golygu bod angen mwy o ddefnydd o brofion llif unffordd gan rai unigolion o bosib, mae'r newidiadau hyn yn lleihau ymhellach y risg o drosglwyddo coronafeirws gyda'r nod o gadw COVID allan o'n hysgolion a'n colegau a lleihau'r tarfu ar ddysgu.

Mae ein trafodaethau rheolaidd yn parhau i dynnu sylw at y pwysau eithafol y mae ysgolion yn eu hwynebu a'r angen i ni a phartneriaid eraill greu lle a lleihau biwrocratiaeth lle bynnag y bo modd. Rydym eisoes wedi cymryd camau i atal mesurau perfformiad, oedi cyn categoreiddio ysgolion, gohirio arolygiadau Estyn ac addasu'r amserlen ar gyfer gweithredu ADY yn y flwyddyn gyntaf. Gwnaethom hefyd benderfynu rhoi hyblygrwydd i ysgolion uwchradd gyflwyno'r cwricwlwm newydd yn 2023, os mai dyna sydd orau i'w disgyblion.

Mae fy swyddogion yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy gyfarfodydd y Grŵp Rheoli Llwyth Gwaith a Lleihau Biwrocratiaeth, i drafod a blaenoriaethu materion sy'n ymwneud â llwyth gwaith a biwrocratiaeth ar draws y system ysgolion yng Nghymru. Mae amrywiaeth o faterion nad ydynt yn ymwneud â COVID y mae'r Grŵp yn bwriadu eu hystyried yn fanylach gan gynnwys cynllunio gwersi, casglu data, arsylwadau gwersi, amser CPA ac ati. Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, fel Llywodraeth, rydym hefyd yn edrych yn ofalus ar ymgynghoriadau arfaethedig yn ystod 2022, gan flaenoriaethu dim ond y rhai sy'n gwbl angenrheidiol ac ystyried ffyrdd ysgafn o ymgysylltu ac ymgynghori. Yn ogystal, lle mae heriau ymarferol yn codi megis newidiadau i ddefnyddio Google Meets fel rhan o ddefnydd Hwb o 'Google Workspace for Education', rydym wedi bod gweithio’n gyflym i sicrhau atebion posibl gyda Google a ddylai alluogi unrhyw ysgol a gynhelir i gael mynediad at recordiadau Google Meet yn ôl y gofyn.

Yn olaf, rydym wedi ei gwneud yn glir i sefydliadau ein bod yn disgwyl iddynt fod yn hyblyg ac yn ymatebol i'r heriau sy'n wynebu ysgolion, gan chwilio am gyfleoedd i greu lle a lleddfu pwysau wrth barhau i gefnogi ein hymrwymiad cyffredin i wella. Er enghraifft, yng ngoleuni'r don bresennol bydd Estyn yn gohirio'r broses o dreialu trefniadau arolygu newydd gydag ysgolion ac UCDau a oedd fod i ddechrau gyda ysgolion sy’n gwirfoddoli yn ystod mis Ionawr.

Rydym yn ffodus yng Nghymru i gael gweithlu addysg broffesiynol ac ymroddedig ac rwyf am ddiolch iddynt ymlaen llaw am bopeth y byddant yn ei wneud dros yr wythnosau nesaf i sicrhau ein blaenoriaeth gyfunol o leihau'r tarfu ar addysg, a sicrhau, lle bo'n bosibl, bod dysgwyr yn parhau i dderbyn dysgu wyneb yn wyneb.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Pe bai'r aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.