Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae hybu Cymru dramor yn flaenoriaeth bwysig i’r Llywodraeth hon, ac mae dydd ein nawddsant, Dydd Gŵyl Dewi, yn gyfle pwysig i hybu Cymru o safbwynt busnes, twristiaeth a chydweithredu rhyngwladol.  

Ar 28 Chwefror roeddwn i ym Mrwsel mewn derbyniad yn arddangos cynnyrch o Gymru i’n cysylltiadau yn yr Undeb Ewropeaidd. Manteisiais ar y cyfle yn fy anerchiad i bwysleisio pa mor bwysig yw hi i Gymru, ac yn arbennig i’n rhagolygon busnes, fod y DU yn parhau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd. Hefyd, cefais gyfarfodydd yn Senedd Ewrop, ynghyd â chyfle defnyddiol i gwrdd â Llysgennad Ei Mawrhydi i Wlad Belg i drafod rôl Cymru mewn digwyddiadau i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf. 

Wedi hynny, teithiais i Barcelona i roi cyflwyniad ar arlwy Cymru i fusnesau mewn cyfarfod a derbyniad i fusnesau Catalanaidd, a drefnwyd ar y cyd â Masnach a Diwydiant y DU. Roedd rhai o’r cwmnïau oedd yn bresennol eisoes yn buddsoddi yng Nghymru, ac efallai y bydd eraill yn ystyried buddsoddi yma yn y dyfodol.

Ddydd Gŵyl Dewi ei hun, fe’m derbyniwyd gan Weinidog-Arlywydd y Generalitat de Catalunya, Artur Mas. Roedd ein trafodaeth yn ymdrin ag amryw faterion masnachol a gwleidyddol. Cawsom gynhadledd i’r wasg ar y cyd, a manteisiais ar y cyfle hwn i hybu Cymru eto.

Cynhaliais dderbyniad Dydd Gŵyl Dewi ehangach i gynulleidfa o bobl fusnes, y gymuned wleidyddol a newyddiadurwyr. Hefyd hyrwyddais ymgyrch farchnata ar y teledu ar gyfer Cymru fel cyrchfan i ymwelwyr. Daeth Llysgennad Ei Mawrhydi i Sbaen a’r Conswl Prydeinig yn Barcelona gyda mi i’r digwyddiadau hyn, a chefais gefnogaeth rhagorol drwyddi draw gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad a Masnach a Buddsoddi y DU.  

Er mwyn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd Dydd Gŵyl Dewi, anfonwyd Gweinidogion i bedwar ban byd. Aeth y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth ar daith fasnachol i Los Angeles; cynhaliodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau dderbyniad i gynulleidfa lysgenhadol a busnes yn Llundain; a chynhaliodd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth raglen yn Chongqing, ein partner ranbarth yn Tsieina.

At ei gilydd, rwy’n teimlo bod y gweithgarwch hwn yn adlewyrchu ymdrech sylweddol i hybu proffil rhyngwladol Cymru. Rydyn ni’n gweithredu mewn amgylchedd byd-eang hynod o gystadleuol, ac mae’r Llywodraeth hon yn benderfynol o wneud popeth posibl i hybu Cymru fel lleoliad busnes a phartner dethol.