Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig yn cadw'r hawl i bennu dyddiadau tymhorau ar gyfer eu hysgolion. Fodd bynnag, mae ganddynt ddyletswydd i gydweithredu a chydlynu â'i gilydd er mwyn sicrhau bod dyddiadau tymhorau’r un fath, neu mor debyg â phosibl (adran 32A o Ddeddf Addysg 2002).

Mae'r trefniadau’n ymateb i bryderon am y problemau mae rhieni brodyr a chwiorydd yn eu hwynebu wrth gael gafael ar ofal plant a thalu amdano lle mae eu plant yn mynychu ysgolion gyda gwahanol ddyddiadau tymhorau.

Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol hysbysu Llywodraeth Cymru o'r dyddiadau tymhorau y bwriadant eu pennu erbyn diwrnod gwaith olaf mis Awst, ddwy flynedd lawn cyn y dyddiadau dan sylw.

Mae pob un o'r 22 awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiadau o’r dyddiadau tymhorau y bwriadant eu pennu ar gyfer 2018/19. Derbyniwyd gwybodaeth hefyd ar ran 101 o ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig.

Mae gwaith caled awdurdodau lleol ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig i sicrhau bod dyddiadau tymhorau’r un fath, neu mor debyg â phosibl yn 2018/19, wedi creu argraff arnaf.

Oherwydd eu gwaith caled bu modd iddynt gytuno ar ddyddiadau cyson ledled Cymru ar gyfer pob gwyliau ysgol ac eithrio hanner tymor y Gwanwyn ym 2019. Mae un set o awdurdodau lleol (17) a’u hysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig wedi dewis 25 Chwefror i 1 Mawrth 2019, tra bod yr awdurdodau eraill, o’r consortiwm Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn Ne-ddwyrain Cymru, wedi dewis wythnos yn gynharach, sef 18 Chwefror i 22 Chwefror.

Roedd yn galonogol iawn gweld bod mwy o dystiolaeth o gysoni nag a fu ar gyfer y ddau ymarfer blaenorol ar gyfer dyddiadau tymhorau 2016/17 a 2017/18. Roedd tystiolaeth arwyddocaol hefyd o gytundeb rhwng awdurdodau lleol a'u hysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig wrth i 83 o’r 86 hysbysiad wedi'i lofnodi gan yr ysgolion hyn gytuno i gyd-fynd â'u hawdurdod, gyda'r tair ysgol arall sy’n ysgolion Catholig yn dewis aros ar agor yn ystod yr Wythnos Fawr.

Lle na cheir consensws dywed y gyfraith y caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol ac ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ar y dyddiadau a bennir (adran 32B o Ddeddf 2002). Cyn penderfynu defnyddio'r pwerau hyn mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori.

Ymgynghorais ar y dyddiadau tymhorau a ddewiswyd gan y mwyafrif. Cyhoeddir crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar wefan Llywodraeth Cymru:

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/cysoni-dyddiadau-tymhorau-ysgolion-ar-gyfer-2018-i-2019

O ystyried y gwaith a wnaed gan awdurdodau lleol i symud tuag at gysoni dyddiadau tymhorau, rwyf wedi penderfynu peidio â defnyddio fy mhwerau i roi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig ynghylch pa ddyddiadau y dylent eu pennu. Mae’r rhan fwyaf o’r awdurdodau lleol yng Nghymru wedi alinio eu trefniadau ar gyfer pob set o ddyddiadau ond un – Hanner Tymor y Gwanwyn 2019 ac yn yr achos yma mae wythnos o wahaniaeth.

Yr hyn yr wyf yn ei ddisgwyl felly yw bod awdurdodau lleol ac ysgolion sefydledig a rhai gwirfoddol a gynorthwyir yn sicrhau bod eu dyddiadau ar gyfer tymhorau 2018/19 yn cael eu pennu yn unol â'r dyddiadau hynny yr oeddent wedi hysbysu Gweinidogion Cymru amdanynt yn y lle cyntaf.

Ni fydd fy mhenderfyniad i beidio â chyhoeddi cyfarwyddyd ar ddyddiadau tymhorau 2018/19 yn effeithio ar drefniadau i bennu dyddiadau tymhorau yn y dyfodol. Mae gan awdurdodau lleol ac ysgolion perthnasol ddyletswydd statudol i gydweithio a chydgysylltu â’i gilydd i sicrhau bod y dyddiadau hynny’r un fath neu mor debyg ag y gallant fod ar gyfer 2018/19.

Bydd fy swyddogion yn ysgrifennu i'r awdurdodau lleol a'r ysgolion cyn hir, i'w hatgoffa i gyflwyno hysbysiadau i Lywodraeth Cymru am y dyddiadau y maent yn cynnig eu pennu ar gyfer tymhorau 2019/20 erbyn diwedd diwrnod gwaith olaf mis Awst 2017.