Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw rwy'n cyhoeddi canlyniad yr ymgynghoriad ar ddyddiadau tymhorau ysgol ar gyfer 2026 i 2027.

Rwy’n ddiolchgar i'r nifer o unigolion a sefydliadau a roddodd o'u hamser i ymateb i'r ymgynghoriad hwn. Rwy'n gwybod y gall amrywiadau o ran dyddiadau tymhorau a gwyliau ysgol achosi anawsterau i lawer o deuluoedd a busnesau ledled Cymru. Rwyf hefyd yn llwyr gydnabod bod manteision yn ogystal ag anfanteision i gysoni dyddiadau tymhorau ysgol.

Mae Rheoliadau Addysg (Hysbysu am Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014 yn darparu bod rhaid i awdurdodau lleol hysbysu Gweinidogion Cymru am y dyddiadau tymor a bennir ar gyfer pob ysgol a gynhelir yn eu hardaloedd erbyn y diwrnod gwaith olaf ym mis Awst ddwy flynedd cyn y flwyddyn ysgol y maent yn berthnasol iddi.

Roeddwn o'r farn nad oedd y dyddiadau tymor a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer 2026-27 yr un fath neu mor debyg â phosibl i'w gilydd. Felly, ystyriais ddefnyddio'r pwerau cyfarwyddo o dan Ddeddf Addysg 2002 i sicrhau bod dyddiadau tymhorau mor debyg â phosibl ledled Cymru.

Fe wnaeth ymgynghoriad 12 wythnos, a ddaeth i ben ar 25 Mai 2025, geisio barn ar y dyddiadau arfaethedig ar gyfer 2026-27 a'r cyfarwyddyd cysylltiedig. Rwy'n falch o roi gwybod bod y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cefnogi'r dyddiadau tymor ysgol arfaethedig ar gyfer 2026 i 2027, yn ogystal â'r cyfarwyddyd drafft.

O ganlyniad, rwyf wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r dyddiadau arfaethedig a byddaf heddiw yn dyroddi'r cyfarwyddyd i awdurdodau lleol i gadarnhau'r dyddiadau a gwneud y trefniadau angenrheidiol gyda'u hysgolion.

Ceir crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad drwy'r ddolen hon: https://www.llyw.cymru/cysoni-dyddiadau-tymhorau-ysgol-ar-gyfer-2026-i-2027.