Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ers i mi gael fy mhenodi yn Weinidog Addysg a Sgiliau rwyf wedi bod yn ymwybodol o’r anawsterau a’r costau cynyddol sy’n wynebu nifer o deuluoedd wrth orfod talu am ofal plant ychwanegol yn sgil amrywiadau yn nyddiadau tymhorau ysgolion a gwyliau ysgolion oherwydd hynny.

Newidiodd Deddf Addysg (Cymru) 2014 y trefniadau ar gyfer pennu dyddiadau tymhorau yng Nghymru drwy gynnwys darpariaethau newydd ar gyfer Cymru yn unig yn Neddf Addysg 2002. O ganlyniad, tra bod awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig (“cyrff llywodraethu perthnasol”) yn cadw’r hawl i bennu dyddiadau tymhorau eu hysgolion, mae ganddynt ddyletswydd bellach hefyd i gydweithio i sicrhau bod y dyddiadau hynny’r un fath neu mor debyg â phosibl.

Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol hysbysu Gweinidogion Cymru o ddyddiadau’r tymhorau a bennir ar gyfer pob ysgol a gynhelir (gan gynnwys ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig) yn eu hardaloedd erbyn diwrnod gwaith olaf mis Awst. Os na ellir cytuno, er gwaethaf pob ymdrech i wneud hynny, mae Deddf Addysg 2002 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu perthnasol ar ddyddiadau eu tymhorau, er mwyn cysoni dyddiadau tymhorau ledled Cymru.

Cyn defnyddio eu pwerau cyfarwyddo i bennu dyddiadau tymhorau, mae’n ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynnal ymgynghoriad priodol.
Wrth bennu pa ddyddiadau tymhorau i’w pennu ar gyfer 2016/17, rwyf wedi rhoi ystyriaeth ofalus i’r holl hysbysiadau wedi’u llofnodi a ddaeth i law gan 21 awdurdod lleol ac ar gyfer 70 o ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig ynghyd â gwybodaeth heb ei dilysu a ddaeth i law, gan gynnwys hysbysiadau heb eu llofnodi. Rwyf hefyd wedi ystyried ymatebion i ymgynghoriad 12 wythnos ar y dyddiadau tymhorau y cynigiais i eu pennu.

Y dyddiadau tymhorau yr wyf yn bwriadu eu pennu yw’r rhai yr ymgynghorais arnynt. Maent yn ystyried rhai elfennau o’r dyddiadau tymhorau a dderbyniwyd gan bob prif ranbarth yng Nghymru. Er fy mod yn ymwybodol o’r pryderon a godwyd am ddigwyddiadau a dathliadau amrywiol yr Eglwys Babyddol a dyddiadau tymor y Pasg, rwyf wedi ystyried y ffaith bod y dyddiadau’n adlewyrchu barn y rhan fwyaf o ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig a fynegodd farn mewn perthynas â gwyliau’r Pasg fel rhan o’r broses gysoni.

Felly, rwyf o’r farn ei bod yn rhesymol pennu dyddiadau tymhorau ar gyfer 2016/17 a fyddai’n gweld ysgolion yn torri am y Pasg cyn dechrau Wythnos y Pasg. Ar y sail hon, rwyf wedi penderfynu mai dyma’r dyddiadau tymhorau ar gyfer yr holl ysgolion a gynhelir yng Nghymru ar gyfer 2016/17.

Diwrnod cyntaf y flwyddyn ysgol: Dydd Iau, 1 Medi 2016

Gwyliau hanner tymor yr Hydref:  Dydd Llun, 24 Hydref 2016 i ddydd Gwener, 28 Hydref 2016

Gwyliau’r Nadolig: Dydd Llun, 19 Rhagfyr 2016 i ddydd Llun, 2 Ionawr 2017 (h.y. dychwelyd i’r ysgol ar ddydd Mawrth 3 Ionawr 2017)

Hanner tymor y Gwanwyn: Dydd Llun, 20 Chwefror 2017 i ddydd Gwener, 24 Chwefror 2017

Gwyliau’r Pasg: Dydd Llun, 10 Ebrill 2017 i ddydd Gwener, 21 Ebrill 2017

Hanner tymor yr Haf: Dydd Llun, 29 Mai 2017 i ddydd Gwener, 2 Mehefin 2017

Diwrnod olaf yr ysgol: Dydd Gwener, 21 Gorffennaf 2017

Bydd y dyddiadau tymhorau ysgol a gyhoeddwyd ar gyfer 2016/17 a’r cyfarwyddyd i’r holl awdurdodau lleol a holl gyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.