Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddwyd manylion dyfarniad cyflog 2014-15 ar gyfer holl staff Agenda ar gyfer Newid y GIG. Cafodd y dyfarniad ei ddatblygu yn wyneb pwysau ariannol sylweddol sy'n parhau, ac yng nghyd-destun penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnig dyfarniad cyfystyr â hwnnw yn Lloegr.

Yn y misoedd ers hynny, mae trafodaethau wedi’u cynnal gyda chynrychiolwyr undebau llafur am ddyfarniad cyflog 2015-16. Dyma enghraifft wych o gydweithio a chydgynhyrchu, ac rwy'n falch bod Cymru wedi gallu osgoi gweithredu diwydiannol mawr drwy gytuno ar ffordd ymlaen - mae hyn yn glod i bawb oedd ynghlwm wrth y broses.

Ar ôl ystyried yn ofalus y cynigion a gyflwynwyd gan gynrychiolwyr yr undebau llafur a'r cyflogwyr, cafodd cynnig ei wneud, a bu hwnnw’n destun ymgynghoriad. Heddiw, mae'r cynnig wedi cael ei dderbyn.

  • Byddwn yn parhau i fynd i'r afael â’r broblem o gyflog isel drwy roi cyflog byw i staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG o 1 Ionawr, 2015 ymlaen:
  • Yn 2014-15, bydd cyfandaliad anghyfunol, amhensiynadwy, o £187 (cyfystyr ag amser llawn) yn daladwy i holl staff Agenda ar gyfer Newid sydd mewn swydd ar 1 Rhagfyr, 2014. Caiff hwn ei dalu ym mis Ionawr 2015. Yn ogystal â hyn, bydd staff cyflogedig yn parhau i dderbyn taliadau cynyddrannol;
  • Bydd anghysonder rhwng pwyntiau cyflog 15 a 16 yn cael ei gywiro, a fydd yn golygu bod taliadau cynyddrannol yn sicrhau codiad cyflog o 1% o leiaf;
  • Yn 2015-16, rhoddir codiad cyflog cyfunol o 1% i bob aelod o staff ar raddfeydd cyflog Agenda ar gyfer Newid o 1 Ebrill, 2015 ymlaen;
  • Caiff comisiwn gweithlu'r GIG ei sefydlu i ystyried ystod eang o faterion yn ymwneud â'r gweithlu, gan gynnwys trefniadau cyflog Agenda ar gyfer Newid a gweithlu'r GIG yn y dyfodol. Bydd yn gweithio o fewn ffiniau adroddiad Ymddiriedolaeth Nuffield Degawd o Galedi yng Nghymru? a edrychodd ar y rhagolygon  o ran ariannu’r GIG yng Nghymru yn y dyfodol. Mae'r syniad o gomisiwn annibynnol wedi cael ei drafod gydag undebau llafur, ac wedi cael ei groesawu mewn egwyddor.

Mae'r cytundeb cyflog dwy flynedd hwn ar gyfer Cymru yn dangos ein hymrwymiad parhaus i staff sy'n gweithio yn y GIG yn y cyfnod ariannol heriol hwn. Ein prif flaenoriaeth yw cadw swyddi ar rheng flaen y GIG yng Nghymru er gwaethaf toriadau mawr i'n cyllideb.

Bydd y cytundeb hefyd yn galluogi undebau llafur a chyflogwyr i wneud gwaith adeiladol pellach ar y cyd ac ymdrin â materion hollbwysig eraill gan gynnwys gofal iechyd darbodus, ad-drefnu gwasanaethau a thrawsnewid y gweithlu.  

Er mai am staff Agenda ar gyfer Newid y mae’r datganiad hwn yn sôn, y gobaith yw y bydd trefniadau cyflog 2015-16 ar gyfer staff meddygol a deintyddol yn cael eu datrys maes o law.