Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gallaf gyhoeddi heddiw y bydd codiad cyflog i’n hathrawon hynod fedrus a gweithgar yng Nghymru.

Ar 21 Gorffennaf cytunais mewn egwyddor, yn ddibynnol ar ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol, i dderbyn holl argymhellion Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ar gyfer 2022/23 yn cynnwys codiad cyflog o 5% i bob pwynt cyflog statudol ar bob graddfa gyflog ac ar gyfer pob lwfans o fis Medi 2022 ymlaen. Heddiw gallaf gadarnhau y byddwn yn derbyn argymhellion y Corff Adolygu.

Felly y cyflog cychwynnol newydd ar gyfer athrawon fydd £28,866, a bydd cyflogau athrawon dosbarth mwy profiadol yn cynyddu £2,117 i £44,450. Yn ogystal â hyn, bydd yr holl lwfansau yn cael eu cynyddu 5%.

Rwy’n derbyn y gallai rhai pobl fod yn siomedig na ellir darparu cynnydd uwch ac yn cydnabod hawl gyfreithiol pob gweithiwr i geisio codiad cyflog teg a gweddus yn ystod y cyfnod heriol hwn o chwyddiant a chynnydd mewn costau byw.

Fodd bynnag, gan na chafwyd cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU, nid ydym mewn sefyllfa i fynd i’r afael ymhellach â’r materion hyn y tu hwnt i’r hyn sydd eisoes wedi ei ystyried. Bydd cyllideb Llywodraeth Cymru werth £4 biliwn yn llai dros dair blynedd y setliad cyfredol - £1.5 biliwn yn is y flwyddyn nesaf. Mae hyn cyn ystyried y toriadau pellach i gyllidebau y bu cymaint o sôn amdanynt ac y disgwylir i Lywodraeth y DU eu cyflwyno cyn hir. O fewn y cyd-destun hwn, yn syml ni ellir fforddio cynnig cynnydd uwch mewn cyflogau, a byddai’n anghyfrifol gwneud hynny. Rydym yn galw eto ar Lywodraeth y DU i wneud y peth iawn o’r diwedd ac i weithredu ar unwaith i adfer cyllideb Cymru fel y gallwn gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus.

Bydd yr Aelodau’n cydnabod bod ansicrwydd ariannol sylweddol o hyd. Mewn perthynas â dyfarniadau cyflog yn y dyfodol o fis Medi 2023 ymlaen, ni ddarparwyd tystiolaeth gymhellol i addasu fy nghynnig blaenorol i adolygu argymhellion Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru yn barhaus a’u defnyddio fel rhagdybiaeth cynllunio, yn ddibynnol ar adolygiad o’r fath.

Fe wnes i hefyd groesawu argymhellion Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ar welliannau i rai o delerau ac amodau allweddol athrawon, yn benodol mewn perthynas â thaliadau cydnabyddiaeth athrawon rhan-amser am lwfansau cyfrifoldeb addysgu ac arweinyddiaeth (CAD); a’r angen i adolygu taliadau cydnabyddiaeth cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol. Hoffwn ddiolch i gyflogwyr ac i undebau athrawon am gydweithio â ni ar y materion hyn er mwyn gwella telerau ac amodau ymhellach i athrawon yng Nghymru. Yn benodol, rwy’n croesawu’r diwygiadau y cytunwyd arnynt i’r fethodoleg angenrheidiol ar gyfer cyfrifo lwfansau CAD ar gyfer athrawon rhan-amser, a fydd yn gwella tryloywder a thegwch i’r athrawon rhan-amser hynny sydd yn cyflawni’r rolau hynny o hyn ymlaen.

O ganlyniad, byddaf heddiw yn gwneud Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022 sy’n rhoi effaith i Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022.

Bydd y dyfarniad cyflog yn cael ei ôl-ddyddio i 1 Medi 2022. Mater i gyflogwyr fydd amseru’r dyfarniad. Mae trafodaethau cychwynnol ag awdurdodau lleol wedi bod yn gadarnhaol, gyda’r nod o drefnu bod ôl-daliadau’n cael eu gwneud cyn gynted â phosibl, cyn diwedd mis Rhagfyr gobeithio.

Wrth symud ymlaen, rwy’n croesawu’r cyfle hwn i barhau i gydweithio â rhanddeiliaid ar adolygiad cynhwysfawr o strwythur cyflog ac amodau athrawon ac arweinyddion. Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd pellach inni wella’r system, a’i gwneud yn decach ac yn fwy tryloyw i bob athro, ble bo’n bosibl. Bydd gweithio mewn partneriaeth yn y fath fodd hefyd o gymorth i hyrwyddo addysgu fel gyrfa o ddewis i raddedigion a phobl sydd am newid gyrfa.