Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf yn ymateb heddiw i’r 31ain Adroddiad gan Gorff Adolygu Cyflogau’r GIG a osodwyd gerbron Senedd y DU ddydd Mercher 27 Mehefin. Rwyf yn ddiolchgar i’r Cadeirydd ac aelodau o’r Corff Adolygu am eu hadroddiad, ac yn croesawu’r ffaith eu bod wedi cymeradwyo’r cytundeb o ran cyflogau a diwygio’r contract dros sawl blwyddyn (2018/2019 i 2020/2021) o dan Agenda ar gyfer Newid, sydd eisoes wedi cael ei dderbyn gan yr undebau llafur yn Lloegr.

Rwyf yn gwerthfawrogi ymroddiad gweithlu GIG Cymru, ac rwyf wedi rhoi cryn dipyn o bwysau ar Lywodraeth y DU i ddiddymu’r cap ar gyflogau yn y sector cyhoeddus, er mwyn sicrhau bod staff y GIG yn cael eu talu’n briodol am y gwaith y maent yn ei wneud. Mae’n bleser gennyf gyhoeddi heddiw fy mod wedi cymeradwyo cynigion sydd wedi cael eu negodi mewn partneriaeth rhwng y cyflogwyr a’r undebau llafur ym maes iechyd, i greu cytundeb cyflog am dair blynedd ar gyfer staff GIG Cymru sydd wedi eu cyflogi o dan delerau ac amodau Agenda ar gyfer Newid. Mae’r cytundeb sydd wedi ei negodi yn golygu y bydd staff GIG Cymru yn cael yr un cyfraddau tâl â’u cydweithwyr yn Lloegr dros gyfnod y cytundeb cyflog tair blynedd. Nid yw’r cytundeb drafft hwn yn cynnwys meddygon a deintyddion a gyflogir, sy’n destun proses adolygu cyflogau annibynnol ar wahân, na’r rheini sydd mewn swyddi gweithredol a swyddi uwch.

Mae’r cytundeb drafft yn targedu recriwtio a chadw staff, ac yn sicrhau y gall y GIG barhau i recriwtio’r gweithlu medrus a thosturiol y mae ei angen drwy:

  • Gynnig yr un cyfraddau tâl uwch i staff y GIG yng Nghymru â’u cydweithwyr yn y GIG yn Lloegr.
  • Mynd y tu hwnt i’n hymrwymiad i argymhellion y Living Wage Foundation gan gyflwyno cyfradd newydd o £17,460 o 1 Ebrill 2018 ymlaen fel yr isafswm cyfradd dâl sylfaenol yn y GIG a chynyddu’r cyflog cychwynnol isaf yn y GIG i £18,005 yn 2020/21.
  • Buddsoddi mewn cyflogau cychwynnol uwch ar gyfer staff ym mhob band cyflog drwy ddiwygio’r system dâl i ddileu pwyntiau cyflog sy’n gorgyffwrdd.
  • Gwarantu dyfarniadau teg o ran cyflogau sylfaenol am y tair blynedd nesaf ar gyfer staff sydd ar frig eu bandiau cyflog.
  • Datblygiad cyflog cyflymach am y tair blynedd nesaf ar gyfer y staff hynny nad ydynt eto ar frig eu bandiau cyflog.
  • Ochr yn ochr â’r gwelliannau hyn yng Nghymru, byddaf yn parhau i ystyried argymhellion blynyddol y Living Wage Foundation er mwyn sicrhau bod y cynnig i staff GIG Cymru o ran cyflogau yn parhau i fod yn deg yn y blynyddoedd i ddod.
Mae’r undebau llafur a’r cyflogwyr wedi cytuno ar ddiwygiadau i’r drefn datblygiad cyflog er mwyn helpu pob aelod staff i arddangos yr wybodaeth a’r sgiliau fydd yn eu galluogi i wneud y cyfraniad gorau posibl i ofal cleifion.

  • Bydd y cytundeb yn rhoi’r broses arfarnu a datblygiad personol wrth galon datblygiad cyflog, a chyflwynir polisi datblygiad cyflog newydd ‘wedi ei wneud yng Nghymru’ a fydd yn cefnogi staff a rheolwyr drwy’r broses.
  • Bydd staff yn cael cymorth i ddatblygu eu sgiliau a’u cymwyseddau wrth iddynt wneud cynnydd drwy’r graddfeydd cyflog.
  • Bydd y system wedi’i seilio ar ymrwymiad gan gyflogwyr i ddefnyddio proses arfarnu effeithiol i’w photensial llawn.
Mae’r cytundeb drafft hefyd yn cadarnhau ein hymrwymiad ar draws y GIG yng Nghymru i ofalu am iechyd a llesiant y gweithlu cyfan. Mae’n rhoi ymrwymiad ar aelodau Fforwm Partneriaeth Cymru i weithredu’n ymarferol yn genedlaethol ac yn lleol i helpu unigolion i gadw’n iach, i fynd ati’n rhagweithiol i osgoi absenoldeb ac i alluogi’r rhai sy’n absennol i ddychwelyd i’r gwaith cyn gynted â phosibl. Rydym yn gweld mai dyma yw’r peth gorau i aelodau unigol o’r gweithlu ac i’r gwasanaethau y maent yn eu darparu i bobl Cymru.

Ar gyfer Cymru, mae’r Fforwm Partneriaeth wedi cytuno y bydd y gweithredu ymarferol ar y cyd ar iechyd a llesiant yn cynnwys:

  • Polisi Rheoli Presenoldeb newydd, ynghyd â gweithdrefnau a phecynnau hyfforddi cysylltiedig.
  • Ystyried Mynediad Cyflym ac atgyfeirio cynnar am driniaeth ar gyfer staff.
  • Pwyslais o’r newydd ar lesiant yn y gweithle, gan adeiladu ar becyn adnoddau Iechyd a Llesiant presennol GIG Cymru.
  • Cysoni’r dulliau gweithredu o ran gweithio’n hyblyg, adleoli a pholisïau eraill yn y gweithle i sicrhau eu bod yn hybu’r amcanion o gefnogi’r staff yn y gwaith.
  • Datblygu Polisi Menopos ar gyfer GIG Cymru
  • Ymrwymiad gan yr holl bartneriaid i roi blaenoriaeth i fynd ati i reoli presenoldeb ar lefel leol ac i ddileu unrhyw rwystrau i’r broses, drwy weithio mewn partneriaeth yn lleol ac yn genedlaethol yn ôl y gofyn.
Yng Nghymru, mae ymrwymiad penodol y Fforwm Partneriaeth i wella iechyd a llesiant staff GIG Cymru er mwyn gwella lefelau presenoldeb, ynghyd â mabwysiadu dull ataliol o ran absenoldeb oherwydd salwch, wedi galluogi staff y GIG yng Nghymru i barhau i elwa ar daliadau oriau anghymdeithasol yn ystod cyfnodau o absenoldeb oherwydd salwch. Yn ogystal, bydd yr undebau llafur a’r cyflogwyr yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi unigolion yn y gweithlu os byddant yn wynebu diagnosis o salwch angheuol, a byddant yn mabwysiadu ymgyrch “Dying to Work” y TUC.

Rwyf wedi datgan yn glir bod rhaid i gyllid o Drysorlys y DU ddod i Gymru er mwyn sicrhau y gallwn fforddio talu’r dyfarniadau cyflog heb danseilio gwasanaethau ar gyfer cleifion. Fodd bynnag, nid yw’r gyfran a ddaw yn sgil Barnett yn ddigon i dalu am gost lawn y cytundeb hwn. Rwyf wedi penderfynu buddsoddi cyllid ychwanegol er mwyn sicrhau y bydd y cytundeb hwn yn cael ei roi ar waith, gan gydnabod proffil gwahanol y gweithlu yng Nghymru, yn ogystal â pharodrwydd yr undebau a’r cyflogwyr i weithio mewn partneriaeth er mwyn cyflawni newidiadau ymarferol a fydd yn gwella iechyd a llesiant y gweithlu.

Yn gyffredinol, mae’r cytundeb hwn o ran cyflogau yn deg i staff ac i drethdalwyr. Bydd yn helpu i wella cynhyrchiant drwy ddefnyddio systemau arfarnu perfformiad cryfach sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Yn sgil hynny, bydd lefelau ymgysylltu â staff yn gwella ac rydym yn gwybod y gall hyn wella canlyniadau i gleifion. Os bydd cytundeb ar y cynnig, bydd y gwaith yn parhau heb oedi er mwyn sicrhau bod staff yn gweld y buddion yn eu pecynnau cyflog cyn y Nadolig.

Bydd yr undebau llafur perthnasol yn mynd ati yn awr i gychwyn y broses o ymgynghori â’u haelodau am y cytundeb arfaethedig. Byddaf yn rhoi gwybodaeth bellach ichi ar ôl i’r broses honno ddod i ben.