Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n gadarn i gydraddoldeb a chynhwysiant a diogelu urddas a hawliau dynol pawb yng Nghymru.
Ar 16 Ebrill 2025, rhoddodd y Goruchaf Lys ei ddyfarniad ar ystyr rhyw wrth gymhwyso Deddf Cydraddoldeb 2010.
Eglurodd y Llys fod ystyr menyw yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn seiliedig ar gyfeiriad Senedd y DU at ryw biolegol yn Neddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975.
Roedd y llys yn glir ei fod ond yn dyfarnu ar y diffiniad o ddyn, menyw a rhyw fel y’u defnyddir yn darpariaethau Deddf Cydraddoldeb 2010.
Byddwn yn cymryd yr amser i ystyried y dyfarniad a'r diweddariad interim gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ofalus ac yn cymryd y camau sy'n ofynnol i fodloni ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 fel yr eglurwyd gan y dyfarniad.
Yn ôl y dyfarniad, gellir ond dehongli darpariaethau Deddf Cydraddoldeb 2010 sy'n ymwneud â nodwedd warchodedig rhyw fel rhai sy'n cyfeirio at ryw biolegol. Bydd y dyfarniad hefyd yn effeithio ar y ddarpariaeth o fannau un rhyw fel y nodir yn y Ddeddf.
Wrth roi’r dyfarniad, cynghorodd yr Arglwydd Hodge yn erbyn darllen y dyfarniad fel buddugoliaeth un neu fwy o grwpiau yn ein cymdeithas ar draul un arall – nid dyna ydyw.
Dylem fod yn glir nad yw'r dehongliad hwn o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn dileu'r amddiffyniad sydd gan bobl draws, gyda neu heb Dystysgrif Cydnabod Rhywedd.
Mae parchu hawliau pobl draws yn allweddol i sicrhau'r amddiffyniad hwn.
Mae'r dyfarniad yn ei gwneud hi'n glir bod mae pobl draws yn parhau i gael eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu ac aflonyddu yn seiliedig ar nodwedd warchodedig ailbennu rhywedd.
Nid yw gwahaniaethu ac aflonyddu yn erbyn pob person ag un neu fwy o nodweddion gwarchodedig yn gyfreithlon, nac yn dderbyniol mewn unrhyw ffordd.
Rydym yn cydnabod yr ofn a'r ansicrwydd y mae pobl draws ledled Cymru yn ei brofi ac yn eich sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi parch, tosturi a charedigrwydd wrth ryngweithio â phobl draws a chymunedau traws.