Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn roi diweddariad i Aelodau’r Senedd ynghylch penderfyniad yr Uchel Lys heddiw.

Rwy’n croesawu penderfyniad y Llys, a ganfu o blaid Gweinidogion Cymru ar bob sail.

Gwrthododd y Llys y disgrifiad o’r cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb  a roddwyd gan yr hawlwyr. Canfu’r Llys bod “…the content of the Code and the Guidance is consistent with the requirement to take care to ensure that RSE teaching is conveyed in an objective critical and pluralistic manner, and does not breach the prohibition on indoctrination.

“There is nothing in the Code or the Guidance that authorises or positively approves teaching that advocates or promotes any particular identity or sexual lifestyle over another, or that encourages children to self-identify in a particular way.

“…In my judgment, both the Code and the Guidance reflect the general spirit of the Convention as an instrument designed to maintain and promote the ideals and values of a modern liberal democracy, including the values of tolerance, respect and equality.”

Rydym wedi bod yn glir mai bwriad Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yw diogelu plant a hyrwyddo parch a chydberthnasau iach.

Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen help ar ein plant i’w hamddiffyn rhag cynnwys  a phobl niweidiol ar-lein. Dylai Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb roi hyder i bobl ifanc ddweud ‘na’ wrth y bwlis, codi llais yn erbyn aflonyddu a deall bod teuluoedd o bob lliw a llun yn bodoli.

Gall rhieni ddisgwyl bod eu plant yn cael addysg sy’n briodol i’w hoedran a’u lefelau aeddfedrwydd: bydd hyn yn ofyniad cyfreithiol.

Rwyf am i rieni ddeall yr hyn sy’n cael ei addysgu a pha adnoddau a ddefnyddir; ac rwyf am i’r ysgolion gymryd yr amser i drafod hyn oll gyda’r rhieni. Bydd hyn yn gofyn am amser, amynedd a meithrin hyder. 

Gall rhieni ddisgwyl i ysgolion gyfathrebu â nhw am eu cynlluniau ar gyfer addysgu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, a dylai rhieni allu codi unrhyw gwestiynau adeiladol neu bryderon am y cynlluniau. Byddwn  yn cydweithio’n agos â’r ysgolion a chymunedau i sicrhau eu bod y cael eu clywed, a’u bod yn gwybod yn iawn beth fydd, a beth na fydd, yn cael ei addysgu i’w plant.

Hoffwn nodi yn gyhoeddus bod y gamwybodaeth a ledaenwyd gan rai ymgyrchwyr yn gwbl waradwyddus. Mae wedi rhoi rhai ysgolion a’r gweithlu dan bwysau ychwanegol. Hoffwn ddweud wrth ein gweithlu addysg y byddwn yn eich cefnogi, a’n bod yn diolch i chi am eich cyfraniad at fywydau’r plant yr ydym yn addysgu.

Byddwn yn parhau i weithio gyda’r awdurdodau lleol ac ysgolion i’w cefnogi yn y gwaith o gyflwyno’r cwricwlwm newydd ac yn eu helpu i gyfathrebu gyda rhieni, gofalwyr a chymunedau, gan gynnwys darparu adnoddau newydd ar gyfer addysgu a dysgu.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.