Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhaglen allweddol a ariennir gan yr UE i helpu i ysbrydoli unigolion i fod yn entrepreneuraidd, a sicrhau bod microfusnesau a busnesau bach a chanolig (BBaChau) yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wybodaeth, canllawiau a chymorth priodol ac amserol. Arferai dderbyn cymorth gan gronfeydd yr UE. Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth y DU wedi lleihau’n sylweddol gyfanswm y cyllid ar gyfer Cymru a fydd yn cymryd lle cronfeydd yr UE.

Rwyf yn cyhoeddi heddiw fy mod wedi penderfynu darparu £20.9m y flwyddyn, hyd at fis Mawrth 2025, i ymestyn gwasanaeth asgwrn cefn Busnes Cymru ar ôl i gyllid yr UE ddod i ben yn 2023. Golyga hyn y bydd y gwasanaeth hefyd yn gallu darparu cyngor a chymorth penodol i'r sector mentrau cymdeithasol yma yng Nghymru.

Roedd gan Lywodraeth y DU addewid maniffesto clir yn etholiad 2019 i ddisodli a “man lleiaf ddarparu yr un faint o gyllid” ag a ddarparwyd ynghynt gan yr UE ar gyfer pob gwlad yn y DU. Golyga’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi torri eu haddewid fod cyllideb Cymru dros £1 biliwn yn llai. Yn ogystal mae wedi dewis mabwysiadu’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, a hynny’n annibynnol ar Lywodraeth Cymru, gan ei gwneud hi’n ofynnol i lywodraeth leol ei gweinyddu. 

Golyga hyn fod gan Gymru lai o lais dros arian. Bydd gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â sefydliadau eraill ar draws byd busnes, addysg uwch ac addysg bellach, a'r trydydd sector benderfyniadau anodd i’w gwneud gan eu bod wedi defnyddio arian yr UE i gefnogi buddsoddiadau hanfodol yn economi a phobl Cymru.

Er gwaethaf methiant Llywodraeth y DU i gadw ei haddewid i ddisodli cyllid yr UE, byddwn yn adeiladu ar ddyfodol Busnes Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru. Byddwn hefyd yn parhau i ddarparu system gymorth syml, gysylltiedig a gweladwy i entrepreneuriaid a BBaChau lle bynnag y maent yng Nghymru.

Gan adeiladu ar lwyddiant yr hyn a gyflawnwyd hyd yma, bydd tri nod allweddol yn sail i wasanaeth Busnes Cymru, sef:

  1. Meithrin hyder ac ysbrydoli unigolion, entrepreneuriaid a microfusnesau/BBaChau i gyrraedd eu llawn botensial. I weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu ecosystem gydlynol sy'n weladwy, yn syml ac yn gysylltiedig i sicrhau bod Cymru yn lle gwych i ddechrau a thyfu busnes yn yr economïau sylfaenol neu dwf.
  2. Mynd i'r afael â bwlch allweddol drwy greu'r amodau i fusnesau ddechrau, cynnal a thyfu drwy'r canol coll mewn modd cynhwysol a chynaliadwy.
  3. Cefnogi cynhyrchiant, gwydnwch, twf, datgarboneiddio a chynaliadwyedd microfusnesau a BBaChau. Sicrhau eu perchnogaeth hirdymor yng Nghymru yn y dyfodol, a chadarnhau eu cyfraniad parhaus i economi Cymru.

Bydd y gwasanaeth cyffredinol yn gyfuniad o gaffael agored a darparu mewnol, gan ddechrau o 2023. Bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu o dan bum maes cyflawni allweddol a fydd yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • platfform digidol a llinell gymorth Busnes Cymru, a fydd yn bwynt cyswllt cwbl ddwyieithog a hygyrch i bob entrepreneur a busnes sefydledig; cynnig ystod lawn o wybodaeth, canllawiau a chymorth gydag ymateb digidol yn gyntaf.
  • datblygu diwylliant o entrepreneuriaeth a dechrau busnes yng Nghymru. Ysbrydoli a datblygu gallu busnes entrepreneuriaid, gan ganolbwyntio ar dri phrif grŵp: pobl ifanc o dan 25 oed, oedolion sy'n ystyried dod yn hunangyflogedig neu ddechrau eu busnes eu hunain, ac allgymorth wedi'i dargedu ar gyfer unigolion sy'n cael eu tangynrychioli mewn busnesau newydd a chymdeithas.
  • meithrin hyder a gwydnwch y gymuned fusnes yng Nghymru gyda chyngor a chymorth penodol. Eu helpu i greu cyfleoedd ar gyfer gwaith, i sbarduno twf cynaliadwy a chynhwysol ac i wella arferion a chynhyrchiant.
  • adeiladu ar y Rhaglen Cyflymu Twf bresennol i ddarparu cymorth wedi'i deilwra ar gyfer busnesau newydd dethol a busnesau sy'n bodoli eisoes sydd â’r dyhead a'r potensial i gyflawni twf uchel.

Yn ogystal â'r uchod, byddaf yn buddsoddi £1.7m o’r cyllid yn y sector mentrau cymdeithasol i ddarparu cyngor busnes arbenigol i gefnogi gweledigaeth ‘Trawsnewid Cymru trwy Fenter Gymdeithasol’ i roi mentrau cymdeithasol wrth wraidd Cymru decach, fwy cynaliadwy a mwy ffyniannus.

Rwy’n cydnabod na all Busnes Cymru gyflawni'r holl ddarpariaeth cymorth busnes lleol sy'n ofynnol gan entrepreneuriaid, microfusnesau a BBaChau ledled Cymru. Mae'r gwasanaeth wedi'i gynllunio i adeiladu ar ei gryfder fel gwasanaeth a ddarperir yn genedlaethol, a gweithio mewn partneriaeth i ategu darpariaeth leol a'r cyfleoedd ariannu ehangach sydd ar gael i'r trydydd sector a'r sector cyhoeddus yng Nghymru.