Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae manteision dysgu iaith arall yn niferus ac mae astudio ieithoedd tramor modern yn parhau'n agwedd bwysig ar y system addysg yng Nghymru. Yn ogystal â rhoi sgiliau ieithyddol ychwanegol i'n pobl ifanc, mae hefyd yn rhoi addysg a gwybodaeth ddiwylliannol iddynt na fyddent fel arall yn eu profi.

Ym mis Hydref 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y ddogfen 'Dyfodol Byd-eang: Cynllun i wella a hyrwyddo ieithoedd tramor modern yng Nghymru 2015 – 2020'.

Y cynllun hwn oedd ein hymateb i'r dirywiad yn y nifer sy'n astudio ieithoedd tramor modern yng Nghymru dros y 10 mlynedd diwethaf, ac mae'n nodi ein hamcanion a'n strategaeth i fynd i'r afael â'r mater hwn ar y cyd â'n partneriaid allweddol ar hyd a lled y sector. Mae hefyd yn amlinellu sut mae'r cynllun a'r nodau sy'n sail iddo yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu Maes Dysgu a Phrofiad newydd ar gyfer 'Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu' fel rhan o'r rhaglen i ddiwygio'r Cwricwlwm.

Ers cael fy mhenodi'n Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, rwyf wedi cefnogi'r weledigaeth hon ar gyfer ieithoedd yng Nghymru. Rydym wedi cydweithio â'n partneriaid allweddol, gan gynnwys; y pedwar consortia addysg rhanbarthol, sefydliadau iaith, prifysgolion yng Nghymru, Estyn, y British Council, y Brifysgol Agored, Sefydliadau Confucius, BBC Cymru, Llwybrau at Ieithoedd Cymru a'r proffesiwn addysgu i ddatblygu ein hagenda o wrthdroi’r dirywiad yn y nifer sy'n astudio ieithoedd a chyflawni ein nodau o dan dri amcan strategol.

Y rhain yw:

  • Hyrwyddo a chodi proffil ieithoedd tramor modern fel pwnc pwysig a all arwain at gyfleoedd gyrfa cyffrous a gwerthfawr 
  • Meithrin gallu’r gweithlu addysg a'u cynorthwyo i ddatblygu'n broffesiynol er mwyn darparu ieithoedd tramor modern yn effeithiol o flwyddyn 5 ymlaen, a galluogi pob dysgwr i fanteisio ar y strategaeth ‘Dwyieithog a Mwy’ drwy'r ffyrdd canlynol: datblygiad proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg, adolygu hyfforddiant ac addysg gychwynnol athrawon a’r rhwydwaith ysgolion arloesi 
  • Cynnig gwell cyfleoedd dysgu i ddenu a chyffroi dysgwyr.    

Heddiw, rwy'n cyhoeddi adroddiad ar flwyddyn gyntaf y cynllun sy'n mesur cynnydd, yn tynnu sylw at ein llwyddiannau hyd yn hyn ac yn amlinellu'r camau nesaf. Gan weithio gyda phartneriaid o bob rhan o'r sector, mae nifer o gamau gweithredu allweddol wedi'u cymryd i gefnogi ein gweledigaeth. Rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae'r rhain wedi'u cyflawni ac o'r ymateb gan ysgolion yn y sector. Fodd bynnag, effaith y mentrau hyn ar ein dysgwyr yw'r prawf hollbwysig. Mae'r canlyniadau TGAU a Safon Uwch diweddar yn dangos bod gennym lawer i'w wneud eto. Er hyn, mae'r adroddiad yn dangos yn glir bod y sylfeini'n cael eu gosod i sicrhau ein bod yn gweld cynnydd yn y nifer sy'n astudio ieithoedd tramor modern yn y blynyddoedd i ddod.

Mae'r uchafbwyntiau penodol o'r flwyddyn gyntaf yn cynnwys:

  • datblygu adnoddau iaith newydd i ysgolion a oedd yn canolbwyntio ar lwyddiant tîm pêl-droed Cymru yng nghystadleuaeth yr Ewros 
  • sefydlu 'Canolfannau Rhagoriaeth' mewn ysgolion ym mhob un o'r pedwar consortia addysg 
  • y cynllun mentora myfyrwyr a ddarperir gan brifysgolion Cymru 
  • Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth addysg â Llywodraeth Sbaen, sydd eto'n dangos ein hymrwymiad i gynyddu'r nifer sy'n astudio ieithoedd tramor modern. 


Mae copi o'r cynllun Dyfodol Byd-eang a'r adroddiad blynyddol ar gael yma:

http://gov.wales/topics/educationandskills/publications/guidance/global-futures-a-plan-to-improve-and-promote-modern-foreign-languages-in-wales/?skip=1&lang=cy