Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Un o uchelgeisiau’r Llywodraeth hwn yw sicrhau bod gan bawb yng Nghymru gartref diogel, fforddiadwy ac o ansawdd da. I fynd i’r afael ag anghenion gwahanol pobl yng Nghymru o ran tai, rydym yn cynnig cymorth ar draws amrediad o ddeiliadaethau. 

Mae Cymorth i Brynu – Cymru wedi gwneud cyfraniad pwysig at gefnogi pobl a hoffai berchen ar gartref a adeiladir o’r newydd, ond sydd angen cymorth i wneud hynny. Ers i’r cynllun ddechrau ym mis Ionawr 2014, mae mwy na 10,215 o gartrefi wedi’u cyflenwi drwy gamau un a dau o’r cynllun. Mae’r cynllun hefyd yn ffynhonnell bwysig o gymorth i’r diwydiant tai a chadwyni cyflenwi cysylltiedig.

Rwy’n falch i gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn estyn cyfnod cynllun Cymorth i Brynu yng Nghymru. Heddiw, rwy’n gwneud addewid y bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gam tri o gynllun Cymorth i Brynu yng Nghymru, am o leiaf 12 mis ychwanegol, hyd at fis Mawrth 2022. Yn dibynnu ar ganlyniad Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant Llywodraeth y DU yn yr hydref, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd ymhellach na hynny ac estyn cyfnod cynllun Cymorth i Brynu – Cymru hyd at fis Mawrth 2023.

Wrth gyhoeddi cam tri cynllun Cymorth i Brynu yng Nghymru, rwy’n bwriadu mynd i’r afael â rhai o’r pethau a gafodd eu beirniadu, gan barhau i gynnig cartrefi sy’n fforddiadwy fel bod perchen ar gartref o fewn cyrraedd prynwyr. I dargedu’r rheini sydd angen ein help fwyaf, bydd Cymorth i Brynu – Cymru yn lleihau cap y pris o £300k i £250k.  Ni fydd y cynllun yn cael ei gyfyngu i’r rheini sy’n prynu cartref am y tro cyntaf, fel sy’n cael ei gynnig yn Lloegr, gan fy mod i am sicrhau bod y cymorth ar gael i bawb sydd ei angen. I sicrhau ein bod yn bodloni disgwyliadau’r rheini sy’n berchen ar gartref newydd wrth iddynt brynu eitem fwyaf sylweddol eu hoes, bydd angen i’r cartrefi fod o ansawdd da ac yn barod ar gyfer band eang, fel bod gan y rheini sy’n berchen ar gartref fynediad parod at wasanaeth hanfodol. Caiff y newidiadau hyn eu cyflwyno o fis Ebrill 2021, a bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cydweithio â datblygwyr, a phawb sy’n ymwneud â’r cynllun, dros y misoedd nesaf i gyflawni hynny.

Bydd manylion pendant cam tri Cymorth i Brynu – Cymru ar gael maes o law. Fodd bynnag, cyn hynny roeddwn i o’r farn ei bod yn bwysig sicrhau bod y sector tai yn ymwybodol o’n cynnig i gynnal cam tri Cymorth i Brynu – Cymru, ni waeth a yw’r cyllid ar gael gan Lywodraeth y DU neu beidio. Rwy’n teimlo bod hynny’n arbennig o bwysig yn y cyfnod heriol hwn, fel y gall darpar berchnogion tai a datblygwyr gynllunio ar gyfer y dyfodol.