Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cymorth i Brynu - Cymru wedi cefnogi miloedd o bobl i wireddu eu breuddwyd o fod yn berchen ar dŷ, ers ei lansio ym mis Ionawr 2014, gyda mwy na 13,400 o gartrefi wedi cael eu darparu drwy’r cynllun.

Fe wnaeth Llywodraeth y DU gau ceisiadau ar gyfer Cymorth i Brynu yn Lloegr ddiwedd mis Hydref, ond yma yng Nghymru, mae’r cynllun wedi parhau i fod yn ffynhonnell gymorth bwysig i’r diwydiant tai a chadwyni cyflenwi.

Mae hefyd wedi cael ei ddefnyddio fel ffordd o gyflawni’r newid a ddymunir o fewn y diwydiant tai. Arweiniodd cam dau at roi’r gorau i gynnig tai ar sail lesddaliad. Mae cam tri wedi arwain at welliannau o ran ansawdd, band eang, rhenti tir am rent tir rhad a’r gofyniad i ffioedd rheoli ystadau, ac unrhyw daliadau eraill, gael eu darparu’n ysgrifenedig cyn y derbynnir blaendal am gartref.

Disgwylir i gam presennol y cynllun gau i geisiadau ddiwedd mis Mawrth 2023.

Heddiw, rwy’n cyhoeddi fy mwriad i estyn Cymorth i Brynu - Cymru am ddwy flynedd arall, tan fis Mawrth 2025.

Mae’n bwysig sicrhau bod yr estyniad i’r cynllun yn ystyried newidiadau yn y farchnad dai ac effaith yr hinsawdd economaidd sydd ohoni ar ddarpar berchnogion tai a’r diwydiant tai.

Byddaf, felly, yn cyflwyno cap newydd ar brisiau o £300,000 ar gyfer Cymorth i Brynu – Cymru, o fis Ebrill 2023 ymlaen, yn unol â’r cynnydd ym mhrisiau tai ar gyfartaledd yng Nghymru. Wrth weithio tuag at ein nodau o wella effeithlonrwydd ynni yn ein cartrefi, bydd angen i bob cartref a brynir gyda chymorth y cynllun gyrraedd Band B y Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) o leiaf.

Datblygwyd yr estyniad hwn gyda chefnogaeth UK Finance, Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr a Banc Datblygu Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau sicrhau bod cymorth i ddarpar berchnogion tai newydd yn parhau i fod yn berthnasol ac wedi’i dargedu at y rhai sydd ei angen fwyaf, yn enwedig yn y cyfnod heriol hwn yn economaidd.

Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gomisiynu ymchwil i anghenion prynwyr tai yn y dyfodol, a’r rôl y gall Cymorth i Brynu - Cymru ei chwarae wrth ddiwallu’r anghenion hynny. Bydd canfyddiadau’r ymchwil, a fydd ar gael yn yr haf, yn sail i gynllunio yn y dyfodol er mwyn cefnogi pobl sy’n dymuno prynu tŷ.

Wrth wneud y cyhoeddiad hwn heddiw, rwy’n rhoi sicrwydd i bobl sy’n gobeithio prynu tŷ, ac yn cynnig cymorth i fwy na 90 o ddatblygwyr a busnesau bach a chanolig sydd wedi cofrestru i ddarparu’r cynllun.