Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae strategaeth iechyd pum mlynedd Llywodraeth Cymru, Law yn Llaw at Iechyd, a gyhoeddwyd yn 2011, yn amlinellu'r weledigaeth ar gyfer GIG Cymru a'i bartneriaid ac wedi arwain at greu cynlluniau cyflawni ar gyfer cyflyrau difrifol.

Mae gan bob cyflwr iechyd difrifol ei gynllun cyflawni ei hun, sydd wedi cael ei ddatblygu gan glinigwyr, cleifion ac eiriolwyr dros ofal rhagorol. Maent yn amlinellu'r camau gweithredu a gaiff eu cymryd i wella canlyniadau a phrofiad cleifion, a gwasanaethau.

Mae'r cynlluniau hyn yn rhoi ffocws ar gamau i’w cymryd mewn perthynas â chyflyrau difrifol. Mae'r llwyddiant sy'n deillio o'r gwaith hwn i'w weld yn y canlynol:

  • Mae mwy o bobl yn goroesi canser nag erioed o'r blaen; 
  • Mae cyfraddau goroesi ar gyfer clefyd y galon yn gwella ac mae llai o bobl yn marw cyn amser o glefyd coronaidd y galon oherwydd bod mwy o achosion yn cael eu canfod;
  • Mae nifer y bobl sy'n marw o strôc wedi disgyn 1,000 y flwyddyn;
  • Mae mwy o bobl yn goroesi anafiadau a salwch sy'n peryglu bywyd, o ganlyniad i'r gofal arbenigol y maent yn ei gael mewn unedau gofal critigol yn ysbytai Cymru;
  • Mae nifer y derbyniadau brys i'r ysbyty ar gyfer strôc, clefyd y galon a diabetes yn disgyn oherwydd eu bod yn cael eu rheoli'n well yn y gymuned;
  • Cymru yw'r unig wlad i ddarparu cyngor a chymorth am ofal lliniarol arbenigol dan arweiniad ymgynghorwyr 24 awr y dydd i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gofalu am bobl sy'n nesáu at ddiwedd eu hoes;
  • Roedd naw deg tri y cant o'r ymatebion i werthusiad iWantGreatCare, sy'n dangos profiad cleifion o ofal lliniarol arbenigol, yn gadarnhaol. Rhoddwyd sgôr o 9.5 allan o 10, ar gyfartaledd.

Mae disgwyl i ran fwyaf o'r cynlluniau cyflawni ddod i ben yn 2016. Bydd y cynlluniau nawr yn cael eu hymestyn tan fis Mawrth 2020 i ganolbwyntio ar wella gwasanaethau, canlyniadau a phrofiad cleifion. Nid yw hyn yn golygu ein bod yn ymestyn y dyddiad ar gyfer cyflawni - mae'n golygu adeiladu ar y llwyddiannau pwysig rydym wedi'u cyflawni hyd yma i sicrhau bod y gofal cywir yn cael ei ddarparu ar yr adeg gywir yn y lle cywir. Mae pob un o'r cynlluniau yn cynnwys cerrig milltir clir a byddwn yn parhau i ddisgwyl bod yr holl gamau’n cael eu cyflawni yn yr amser a nodir yn y cynlluniau.

Caiff pob cynllun ei adolygu a'i adnewyddu ar ddiwedd y cylch presennol gan grwpiau gweithredu y cynllun cyflawni perthnasol. Bydd hyn yn galluogi’r cynlluniau i adlewyrchu Cynllun Gofal Iechyd Darbodus newydd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddir ym mis Ionawr 2016, ac unrhyw flaenoriaethau cenedlaethol newydd a bennir ar ôl etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai 2016.

Yn 2016, bydd y cynlluniau cyflawni ar gyfer canser, clefyd y galon, diabetes, gofal diwedd oes, strôc a'r rheini sy'n ddifrifol wael i gyd yn cael eu hadolygu a'u hadnewyddu. Caiff y cynlluniau ar gyfer cyflyrau anadlol a niwrolegol eu hadolygu yn 2017, a bydd cynlluniau gofal sylfaenol, iechyd y geg ac iechyd y llygaid yn dilyn yn 2018. Mae disgwyl i gynllun gweithredu clefyd yr afu ddod i ben yn 2020.

Mae'r penderfyniad i ymestyn y cynlluniau cyflawni fel ffordd o sicrhau gwelliannau i wasanaethau a chanlyniadau i bobl â chyflyrau difrifol yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi £10m yn y cynlluniau cyflawni. Mae'r cynlluniau cyflawni ar gyfer canser, diabetes, strôc, cyflyrau niwrolegol, diwedd oes, iechyd meddwl, yr afu, clefyd y galon a gofal critigol wedi cael £1m i fuddsoddi mewn blaenoriaethau allweddol, a fydd yn sicrhau gwelliannau amlwg i ganlyniadau cleifion.

Mae Cylchlythyr Iechyd Cymru sy’n nodi bod y cynlluniau yn ymestyn ac yn amlinellu'r broses newydd, wedi cael ei gyhoeddi, ac mae ar gael yma:

http://gov.wales/docs/dhss/publications/150917whc046cy.pdf