Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae'n bleser gennyf eich hysbysu bod dau adroddiad wedi'u cyhoeddi'n ddiweddar gan Gomisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau (UKES), a'r ddau'n benodol i Gymru:

Dyfodol Gwaith, 2010-2020: Adroddiad Cryno ar gyfer Cymru; ac
Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2011: Adroddiad Cymru.

Mae Dyfodol Gwaith, 2010-2020 yn rhoi amcanestyniadau ar gyfer allbwn, y galw am sgiliau a'r cyflenwad o sgiliau rhwng 2010 a 2020.  Mae'r adroddiad yn rhoi data manwl ar lefel genedlaethol ynghylch y patrymau cyflogaeth a ddisgwylir yn y sectorau yn ystod y cyfnod hwn. Rhai o'r prif batrymau a ddaeth i'r amlwg yw:

  • rhagwelir y bydd y cynnydd mwyaf mewn cyflogaeth mewn galwedigaethau sgiliau uchel;
  • proffwydir y bydd yr angen am lenwi swyddi gweithwyr sy'n gadael bron 8 gwaith yn uwch na'r angen am lenwi swyddi newydd;
  • disgwylir y bydd cynnydd yn y galw am bobl â chymwysterau Lefel 4 ac uwch; a
  • disgwylir y bydd gostyngiad yng nghyfran gweithwyr heb gymwysterau o gwbl.

Caiff yr wybodaeth yn Dyfodol Gwaith, 2010-2020: ei chyfuno â gwybodaeth leol a gwybodaeth am y farchnad lafur i sicrhau bod gwell cysylltiad rhwng y sgiliau a fydd ar gael yn y dyfodol ac anghenion busnesau/cyflogwyr ac unigolion yng Nghymru.  A minnau'n Ddirprwy Weinidog Sgiliau,  mae fy sylw ar ddarparu rhaglen sgiliau gydlynus a all gynnig cyfleoedd parhaus i gael cyflogaeth ac i ddatblygu.  Mae llwyddiant hyn yn dibynnu, i raddau, ar gael gwybodaeth o'r radd flaenaf am y farchnad lafur, sy'n cydnabod y galw a'r disgwyliadau presennol ac yn y dyfodol.  Mae Dyfodol Gwaith yn ffynhonnell allweddol o'r data hwnnw a bydd yn ein helpu i dargedu ein hadnoddau ar sail gwell tystiolaeth er mwyn diwallu'r galw a ragwelir am anghenion galwedigaethol yn y dyfodol.

Arolwg Sgiliau Cyflogwyr Comisiwn y DU 2011 yw'r brif ffynhonnell ddata yn y DU am y galw o du cyflogwyr am sgiliau a'r buddsoddiad sydd ei angen ynddynt.  Mae'n bleser gennyf ddweud fod 6,012 o gyfweliadau wedi'u cynnal yng Nghymru ym mhob sector a chan gyflogwyr o bob math a maint.  Golyga maint yr arolwg y gallwn fod yn hyderus yn y canlyniadau.  Roedd yr arolwg yn cwmpasu pynciau fel anawsterau recriwtio sy'n gysylltiedig â sgiliau, bylchau o ran sgiliau, buddsoddi mewn hyfforddiant a pha mor barod am fyd gwaith yw pobl sy'n gadael addysg.  Dyma rai o'r canfyddiadau pwysicaf:

  • er bod lle i wella o hyd, mae tystiolaeth fod y system addysg, gan mwyaf, yn paratoi pobl ar gyfer byd gwaith.  Canfu cyflogwyr, gan mwyaf, fod pobl ifanc sy'n gadael addysg wedi'u paratoi'n dda ar gyfer gwaith; dyma ganfyddiad 80% o'r rhai a recriwtiodd o Addysg Uwch.
  • dim ond pedwar y cant o sefydliadau a ddywedodd fod ganddynt swydd wag yr oeddynt yn cael anhawster i'w llenwi adeg yr arolwg (mis Mawrth i fis Gorffennaf 2011).  Yn bwysicach fyth, dywedodd y sefydliadau hyn fod hynny'n cael effaith ar eu busnes yn gyffredinol o ran materion fel morâl a bodloni amcanion gwasanaethau cwsmeriaid;
  • ledled Cymru, dywedodd chwech y cant o sefydliadau eu bod yn cael anhawster cadw staff, gan amlaf ymhlith galwedigaethau â chrefftau medrus a staff sylfaenol. Y rheswm mwyaf cyffredin am yr anawsterau hyn oedd diffyg diddordeb yn y gwaith dan sylw, ac roedd hynny'n ffactor mewn tri o bob pum sefydliad a oedd yn cael trafferth cadw staff.
  • yng Nghymru, roedd 59 sefydliad wedi darparu hyfforddiant mewn swydd neu hyfforddiant arall ar gyfer rhai o'u staff neu ar gyfer eu holl staff yn y 12 mis cyn yr arolwg. Mae sefydliadau Cymru yn darparu cyfwerth â 4.2 diwrnod y gweithiwr y flwyddyn a 7.5 diwrnod am bob person a hyfforddir, sy'n debyg iawn i Loegr a'r Deyrnas Unedig gyfan, ond yn uwch na Gogledd Iwerddon.
  • mae cyfran ychydig yn uwch o staff yn cael eu hyfforddi yng Nghymru na'r DU gyfan, ond mae'r gwariant ar bob hyfforddai (£2,600 am bob person a hyfforddir) yn is yng Nghymru nag yn Lloegr (£3,325 am bob person a hyfforddir).
  • y rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd gan gyflogwyr Cymru dros beidio â hyfforddi eu staff yw eu bod o'r farn fod eu staff yn gwbl fedrus a/neu nad oedd angen hyfforddiant ar eu staff (crybwyllwyd hyn gan 65 y cant o'r rhai nad oedd yn hyfforddi).  Ychydig iawn o'r ymatebwyr a soniodd am fethiannau yn y cyflenwad o hyfforddiant fel rheswm dros beidio â hyfforddi.

Rwy'n credu fod canfyddiadau'r ddau arolwg hyn yn eithriadol bwysig i Gymru.  Ar y naill law, maent yn rhoi anogaeth wirioneddol, er enghraifft, ystyrir bod y bobl hynny sy'n gadael byd addysg wedi'u paratoi'n dda ar gyfer eu swyddi cyntaf.  Ar y llaw arall, mae ynddynt hefyd her wirioneddol.  Er enghraifft, bernir mai rhan o'r rheswm fod cyfran uwch o fylchau sgiliau yng Nghymru yw problemau sy'n gysylltiedig â llythrennedd a rhifedd o gymharu â gweddill y DU. Mae Adolygiad o Gymwysterau ac Adolygiad o’r Cwricwlwm ar y gweill a bydd y rhain yn arwyddocaol wrth i ni fynd ati i fynd i'r afael â'r materion hyn.

Byddaf yn parhau i ddefnyddio'r wybodaeth a gasglwyd yn yr adroddiadau hyn ac adroddiadau eraill fel tystiolaeth a fydd yn sail i'n polisïau.  Drwy'r Prosiect Gwybodaeth am y Farchnad Lafur a symbylwyd gennyf y llynedd, rydym yn annog darparwyr Addysg Bellach i ddefnyddio'r data ar gyfer cynllunio a darparu.  Hefyd, mae amcanestyniadau o Dyfodol Gwaith a data o arolygon wedi cael eu defnyddio fel rhan o'r System Gynllunio ac Ariannu Genedlaethol, yr Adolygiad o Gymwysterau ac mewn perthynas â'r polisi ar gyfer dyrannu prentisiaethau.  Hefyd, mae swyddogion o'r adran yn gweithio gyda'r Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i sicrhau fod unrhyw fylchau o ran dysgu, datblygu ac addysg yn cael eu clustnodi gan y Paneli Sector ac y telir sylw i'r rhain wrth ystyried anghenion hyfforddiant y dyfodol, gan gynnwys Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, Cymwysterau a Phrentisiaethau.

Fy mlaenoriaeth yn y dyddiau anodd hyn yw creu swyddi a hybu twf.  Mae'r rhaglen Camau at Waith, a gyflwynwyd ar 1 Awst 2011 ac a gynigir ledled Cymru, yn rhoi cyfle i oedolion nad ydynt yn gyflogedig, fagu hyder, gwella'u sgiliau a chael profiad gwaith gyda golwg ar gael gwaith parhaol.

Rydym hefyd yn ymrwymedig i helpu pobl ifanc Cymru i gael gwaith cyflogedig ac mae nifer o fentrau ar waith gennym i gefnogi hyn.  Mae ein rhaglen Twf Swyddi Cymru newydd greu ei phedair milfed cyfle am swydd.  Hefyd, o dan y rhaglen Hyfforddeiaethau ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed darperir i bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael gwaith neu i symud i ddysgu pellach ar lefel uwch, fel prentisiaeth neu addysg bellach.  Rwyf hefyd wedi cyhoeddi £5 miliwn yn ddiweddar ar gyfer rhagor o leoedd prentisiaeth ar gyfer pobl ifanc 16-24 sydd newydd eu recriwtio.  Bydd pob un o'r rhaglenni hyn, a mwy, yn helpu i fynd i'r afael â'r canfyddiadau yn Dyfodol Gwaith, 2010-2020: Adroddiad Cryno ar gyfer Cymru, a'r Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2011: Adroddiad Cymru.

Gellir gweld y naill adroddiad a'r llall yn www.ukces.org.uk/publications a cheir rhagor o wybodaeth gan y tîm prosiect Gwybodaeth am y Farchnad Lafur ar LMI@cymru.gsi.gov.uk.