Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn 2012, cynhaliais ymgynghoriad ar ddyfodol hawliau pysgota hanesyddol (Hawliau Tadcu fel y'u gelwir) yn nyfroedd Cymru, hyd at 6 milltir forol o'r arfordir. Rwyf bellach wedi ystyried y materion cymhleth hynny a'r ymateb i'm datganiadau blaenorol y byddwn o blaid symud at gyfeiriad dileu'r hawliau hynny. Mae fy swyddogion a finnau wedi ystyried ac edrych o'r newydd ar y materion hyn, gan gynnwys yr ymatebion a ddaeth i law i'r ymgynghoriad, sylwadau rhanddeiliaid a'r dystiolaeth berthnasol sydd ym meddiant Llywodraeth Cymru.  

Rwy'n cydnabod pwysigrwydd y mater hwn i nifer fawr o bysgotwyr a rhanddeiliaid eraill ac rwyf am wneud yn siŵr fod gennyf y ffeithiau perthnasol i gyd cyn gwneud penderfyniad terfynol. I mi allu cael y darlun llawnaf posibl o'r materion dan sylw, rwyf wedi penderfynu cynnal ymgynghoriad llawn arall.

Fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, mae fy swyddogion wedi nodi'r dystiolaeth berthnasol sydd ar gael.  Byddaf yn gofyn i randdeiliaid roi unrhyw dystiolaeth, gwybodaeth neu farn berthnasol pellach i wneud yn siŵr bod gennyf sylfaen dystiolaeth cyn gyflawned â phosibl i mi allu seilio fy mhenderfyniad arni.  Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ddiwedd mis Awst ac yn para 3 mis. Byddaf yn penderfynu ar y mater yn gynnar yn y flwyddyn newydd ac yn gwneud datganiad arall bryd hynny.