Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n defnyddio fy mhwerau o dan Erthygl 18 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 i ddynodi un o’r Swyddogion Canlyniadau ar gyfer yr etholaethau o fewn rhanbarth etholiadol y Senedd yn Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol ar gyfer y rhanbarth etholiadol hwnnw. Mae angen gwneud hyn ar gyfer Gogledd Cymru oherwydd ymddeoliad.

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi mai Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol y Senedd ar gyfer unrhyw etholiadau Senedd sydd i ddod bydd:  Gogledd Cymru – Ian Bancroft – Swyddog Canlyniadau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Yn y pedwar rhanbarth arall, bydd y Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol presennol yn parhau yn eu rolau.

Hoffwn ddiolch i’r swyddog sydd yn rhoi’r gorau i’r rôl, Iwan Davies, am ei wasanaeth.

Y mae’r Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol yn gyfrifol am gydlynu'r trefniadau ar gyfer y bleidlais ranbarthol yn eu rhanbarth etholiadol perthnasol yn etholiadau’r Senedd. 

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.