Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 11 Mawrth 2025, cyhoeddodd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru enwau a ffiniau'r 16 o etholaethau'r Senedd ar gyfer etholiadau'r Senedd 2026. Fel sy'n ofynnol gan Atodlen 2 i Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), rwyf bellach wedi gwneud Gorchymyn sy'n rhoi effaith i'r penderfyniadau hynny, a heddiw rwyf wedi gosod y Gorchymyn hwnnw gerbron y Senedd. Bydd y Gorchymyn yn dod i rym ar 18 Gorffennaf, ac mae'n garreg filltir bwysig yn ein taith i ddiwygio'r Senedd. 

Yn amodol ar y Senedd yn cymeradwyo Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (y Gorchymyn Cynnal Etholiadau) ar 8 Gorffennaf, byddaf yn defnyddio fy mhwerau o dan Erthygl 18 o'r Gorchymyn hwnnw i ddynodi'r 16 Swyddog Canlyniadau Etholaethol yn ffurfiol cyn etholiadau'r Senedd 2026. Mae'n angenrheidiol gwneud hyn gan fod mwy nag un Swyddog Canlyniadau ym mhob etholaeth newydd.

Felly, mae'n bleser gennyf gyhoeddi, mewn egwyddor, y Swyddogion Canlyniadau Etholaethol sydd newydd gael eu penodi i weinyddu etholiadau'r Senedd 2026 yn yr 16 o etholaethau'r Senedd: 

Bangor Conwy MônRhun ap Gareth – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Clwyd Neal Cockerton – Cyngor Sir y Fflint
Fflint WrecsamAlwyn Jones – Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 
Gwynedd MaldwynDafydd Gibbard – Cyngor Gwynedd
Ceredigion PenfroEifion Evans – Cyngor Sir Ceredigion
Sir GaerfyrddinWendy Walters – Cyngor Sir Caerfyrddin
Gŵyr AbertaweMartin Nicholls – Cyngor Abertawe
Brycheiniog Tawe NeddEmma Palmer – Cyngor Sir Powys
Afan Ogwr RhonddaFrances O'Brien – Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Pontypridd Cynon MerthyrAndy Wilkins — Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Blaenau Gwent Caerffili RhymniEd Edmunds – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Syr Fynwy TorfaenPaul Matthews – Cyngor Sir Fynwy
Casnewydd IslwynBeverly Owen – Cyngor Dinas Casnewydd
Caerdydd PenarthPaul Orders – Cyngor Caerdydd
Caerdydd Ffynnon TafPaul Orders – Cyngor Caerdydd
Pen-y-bont Bro MorgannwgRob Thomas – Cyngor Bro Morgannwg

Byddaf yn gwneud y dynodiadau hyn yn ffurfiol os caiff y Gorchymyn Cynnal Etholiadau ei gymeradwyo gan y Senedd, a phan fydd wedi dod i rym.

Rhaid i Swyddogion Canlyniadau Etholaethol dynodedig sicrhau bod yr etholiad yn cael ei weinyddu'n effeithiol, a byddant yn cael eu cynorthwyo gan Swyddogion Canlyniadau o'r Awdurdodau Lleol eraill yn etholaethau newydd y Senedd. Hoffwn ddiolch i'r holl Swyddogion Canlyniadau ymlaen llaw am eu cymorth a'u cydweithrediad, sy'n helpu i sicrhau bod yr etholiadau'n gweithredu mor esmwyth â phosibl.

Oherwydd ymddeoliad sydd ar fin digwydd, rwy'n bwriadu defnyddio fy mhwerau o dan Erthygl 18 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 i ddynodi Swyddog Canlyniadau ar gyfer rhanbarth etholiadol Gorllewin De Cymru. 

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi mai Martin Nicholls o Gyngor Abertawe fydd Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol y Senedd. Yn y rhanbarthau eraill, bydd y Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol presennol yn parhau yn eu rolau. Hoffwn ddiolch i Mark Shephard, y swyddog sy'n gadael, am ei wasanaeth.

Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol sy'n gyfrifol am gydgysylltu trefniadau ar gyfer y bleidlais ranbarthol, pan fydd swydd wag yn codi, yn eu rhanbarth etholiadol Seneddol priodol. Bydd hon wrth gwrs yn swydd dros dro tan fis Mai 2026, pan na fydd angen Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol mwyach o dan y trefniadau newydd ar gyfer etholiadau'r Senedd.