Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n defnyddio fy mhwerau o dan Erthygl 18 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 i ddynodi tri o'r Swyddogion Canlyniadau ar gyfer etholaethau sy'n dod o fewn rhanbarth etholiadol y Senedd yn Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol ar gyfer y rhanbarth etholiadol hwnnw. 

Rwy'n falch o gyhoeddi mai Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol y Senedd ar gyfer unrhyw is-etholiad Senedd i ddod tan Mai 2026 fydd:  

  • Gogledd Cymru – Neal Cockerton – Cyngor Sir y Fflint
  • Dwyrain De Cymru – Beverly Owen – Cyngor Dinas Casnewydd
  • Gorllewin De Cymru – Mark Shephard – Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Yn y rhanbarthau eraill, bydd y Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol presennol yn parhau yn eu rolau.

Hoffwn ddiolch i’r swyddogion sy’n rhoi’r gorau i’w rolau am eu gwasanaeth. 

Mae'r Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol yn gyfrifol am gydlynu trefniadau ar gyfer y bleidlais ranbarthol yn eu rhanbarth etholiadol Seneddol priodol. Bydd hon yn swydd dros dro tan fis Mai 2026, pan na fydd angen Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol mwyach ar gyfer trefniadau newydd etholiadau'r Senedd.