Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid yn cael ei gadw ym Mhrif Grŵp Gwariant (MEG) Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i wneud yn iawn am y diffyg yn y sefydliadau hynny. Mae’r ddau sefydliad yn cael eu rheoli drwy fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrraeth Llywodraeth Cymru, a disgwylir iddynt gyflawni yn unol â’u cynlluniau gweithredol y cytunwyd arnynt.

Byddaf yn dyrannu £68.4 miliwn yn ychwanegol o refeniw i’r portffolio Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Bydd y cyllid hwn yn mynd i’r afael â’r gorwariant y mae Byrddau Iechyd Betsi Cadwaladr a Hywel Dda yn ei ragweld yn y flwyddyn ariannol bresennol.

Roedd ein Cyllideb Atodol gyntaf, a gafodd ei chymeradwyo ar 12 Gorffennaf, yn gwneud ychydig iawn o ddyraniadau o’n cronfeydd wrth gefn. Ar ôl adolygu ein sefyllfa ariannol, gallaf gadarnhau’r trosglwyddiad pellach cyntaf o’r cronfeydd hynny.