Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 17 Hydref 2023, gwnaeth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ddatganiad llafar yn y Senedd ynghylch sefyllfa ariannol 2023/24 Llywodraeth Cymru. Yn y datganiad hwnnw, eglurodd y Gweinidog ganlyniad y gwaith a wnaed dros yr haf i fynd i'r afael ag effaith y ffaith bod cyllideb Llywodraeth Cymru yn werth tua £900 miliwn yn llai nag ydoedd pan gafodd ei gosod yn 2021.

Mae'r GIG yng Nghymru, fel systemau gofal iechyd eraill, yn wynebu'r pwysau ariannol mwyaf heriol ers sawl blwyddyn. Mae'r galw ar wasanaethau yn parhau i gynyddu, ac mae chwyddiant yn uchel o hyd gan effeithio ar gostau pethau fel ynni a meddyginiaethau ac arwain at bwysau ar gyflogau. Yn ogystal, mae'r pandemig a chostau parhaus sy'n gysylltiedig â COVID yn dal i gael effaith. Gan gydnabod yr heriau hyn, mae £425 miliwn ychwanegol wedi'i ddyrannu i gefnogi'r GIG y flwyddyn ariannol hon.

Rwyf wedi bod yn gweithio gyda Dirprwy Weinidogion a swyddogion i adolygu cyllidebau canolog ac ailgyfeirio cyllid tuag at sefydliadau'r GIG pan fo hynny'n bosibl. Er bod y cymorth ariannol ychwanegol hwn i'w groesawu ac yn hanfodol, bydd angen i Fyrddau Iechyd wneud penderfyniadau anodd o hyd i fantoli eu cyllidebau yn y flwyddyn ariannol hon a'r flwyddyn ariannol nesaf.

O ganlyniad i'r camau hyn, gallaf gadarnhau y bydd cyllid yn cael ei ddarparu i sefydliadau i gefnogi ymrwymiadau'r dyfarniadau cyflog y cytunwyd arnynt â'n partneriaid o'r undebau ac yr ymrwymwyd iddynt. Mae Byrddau Iechyd Lleol hefyd wedi cael gwybod am y dyraniadau ychwanegol sy'n cael eu gwneud i gydnabod yr heriau a wynebir, yn ogystal â chadarnhad ei bod yn ofynnol i bob Bwrdd Iechyd Lleol sicrhau bod diffygion sydd wedi'u cynllunio yn cael eu lleihau 10%.

Roedd y cynlluniau a gyflwynwyd gan Fyrddau Iechyd Lleol ar ddechrau'r flwyddyn ariannol hon yn dangos bod y diffyg cyfunol yn £648 miliwn. Felly, mae sicrhau bod y diffyg wedi'i gynllunio hwn yn lleihau 10% yn gyfwerth â £64.8 miliwn.

Yn ogystal â darparu cyllid i gefnogi dyfarniadau cyflog, bydd dyraniadau ychwanegol, gwerth cyfanswm o £460.2 miliwn, yn cael eu gwneud i Fyrddau Iechyd Lleol mewn modd cymesur ar sail y fformiwla sefydledig ar gyfer dyrannu adnoddau i Fyrddau Iechyd Lleol. Mae £336 miliwn o'r cyllid hwn yn gyllid rheolaidd ac yn cael ei ddarparu ar yr amod bod pob Bwrdd Iechyd Lleol unigol yn gwneud cynnydd tuag at y lefel o ddiffyg yr ydym wedi'i gosod iddyn nhw weithio tuag ati ('cyfansymiau rheoli targed') ac y byddwn yn ei hariannu o'r gyllideb Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ehangach. Mae hyn yn cynnwys £150 miliwn o gyllid i gefnogi diffygion sylfaenol sefydliadol ac effaith reolaidd pandemig COVID ar y sylfaen costau, a £186 miliwn o gymorth yn sgil pwysau chwyddiant, gan gynnwys mewn perthynas â rhagnodi, meddyginiaethau, a phecynnau gofal.

Yn ogystal, yn dilyn yr adolygiad o gyllidebau canolog, bydd £124.2 miliwn pellach yn cael ei ddarparu i Fyrddau Iechyd Lleol ar sail nad yw’n rheolaidd. O'r cyllid hwn, bydd £75 miliwn yn gymorth pellach yn sgil pwysau chwyddiant, a bydd £49.2 miliwn yn cefnogi costau ychwanegol ynni sy'n uwch na lefelau sylfaenol hanesyddol.

Yn dilyn y dyraniadau hyn a'r disgwyliadau o ran lleihau diffygion, mae cyfansymiau rheoli targed diwygiedig wedi'u gosod ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol. Ar draws y saith Bwrdd, mae hyn yn golygu mai £123 miliwn yw cyfanswm y diffyg. Diffygion targed yw'r rhain i Fyrddau Iechyd Lleol weithio tuag at eu cyflawni a chânt eu gwrthbwyso gan gyllid o fewn cyllidebau canolog.

Mae'r holl Awdurdodau Iechyd Strategol ac Ymddiriedolaethau'r GIG yn rhag-weld y byddant yn sicrhau cydbwysedd ariannol a phan fo cyfleoedd i wella'r sefyllfa ariannol y tu hwnt i'r sefyllfaoedd hynny, rwyf wedi gofyn i'm swyddogion sicrhau bod y cyfleoedd hynny'n cael eu gwireddu i helpu i gyflawni'r amcan cyffredinol hwn.

Rwyf hefyd wedi gofyn i'm swyddogion, gyda chymorth Gweithrediaeth y GIG, fonitro cynnydd yn erbyn y cyfansymiau rheoli targed a nodwyd, ynghyd â rhoi camau gweithredu ar waith gyda phob sefydliad fel rhan o'r fframwaith uwchgyfeirio. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda sefydliadau i helpu i wireddu arbedion y mae byrddau iechyd wedi'u nodi o fewn cynlluniau a rhoi prosesau ar waith i gryfhau camau gweithredu ar sail genedlaethol gyson i helpu i wireddu arbedion lleol.

Bydd cyrraedd y targed a nodir yn heriol, ond rwy'n disgwyl i Fyrddau Iechyd Lleol wneud cynnydd tuag at gyflawni'r cyfansymiau rheoli targed a osodir fesul sefydliad. Dylem ei gwneud yn glir nad toriadau i gyllidebau Byrddau Iechyd Lleol yw'r rhain, ond yn hytrach bydd angen i Fyrddau Iechyd gymryd camau i leihau gwariant a rheoli'r diffygion targed yr ydym wedi'u nodi. Bydd hon yn broses barhaus a bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda holl sefydliadau GIG Cymru i fynd ati i gyflawni'r targedau sydd wedi'u nodi ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol hon.

Atodiad

Dyraniadau a Chyfansymiau Rheoli yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol

 

         

Rheolaidd dan Amod

Ddim yn Rheolaidd

   

Bwrdd Iechyd

Cyfran Fformiwla Gofal Iechyd a Gwasanaethau Ysbyty 23-24

Diffyg wedi'i Gynllunio

Gostyngiad o 10%

Diffyg wedi'i Addasu

Cyfraniad at Ddiffyg Sylfaenol / gwaddol COVID

Taliad yn sgil Chwyddiant

Taliad yn sgil Chwyddiant

Ynni

Cyfanswm y dyraniadau

Cyfanswm Rheoli

Aneurin Bevan

19.2%

112.9

-11.29

101.61

28.8

35.7

14.4

9.50

88.3

13

Betsi Cadwaladr

22.2%

134.1

-13.41

120.69

33.3

41.3

16.7

9.80

101.1

20

Caerdydd a'r Fro

13.5%

88.4

-8.84

79.56

20.3

25.1

10.1

7.60

63.1

16

Cwm Taf Morgannwg

15.2%

79.6

-7.96

71.64

22.8

28.3

11.4

9.40

71.9

0

Hywel Dda

12.8%

112.9

-11.29

101.61

19.2

23.8

9.6

4.20

56.8

45

Powys

4.2%

33.5

-3.35

30.15

6.3

7.9

3.2

0.90

18.3

12

Bae Abertawe

12.9%

86.6

-8.66

77.94

19.3

24.0

9.7

7.80

60.7

17

   

648.0

-64.8

583.2

150.0

186.0

75.0

49.2

460.2

123

Pob ffigur £M