Neidio i'r prif gynnwys

Llyr Gruffydd AS, Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi ein bod wedi sicrhau bod hyd at £1 miliwn ar gael i Awdurdodau Lleol o Gronfa Gymorth Rheoli Ansawdd Aer yn Lleol yn y flwyddyn ariannol hon, gan ddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella ansawdd aer ledled Cymru.  Bydd hyn o fudd i 13 Awdurdod Lleol: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Sir y Fflint, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Bro Morgannwg.

Mae'r Gronfa Gymorth Rheoli Ansawdd Aer yn Lleol yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ymdrechion Awdurdodau Lleol i fonitro, asesu a gwella ansawdd aer yn eu hardal leol. 

Mae manteision y Gronfa Gymorth Rheoli Ansawdd Aer yn Lleol i gymunedau lleol yn bellgyrhaeddol, gan gyfrannu at aer glanach, cymunedau iachach a gwell ansawdd bywyd i bob preswylydd. Mae prosiectau a ariennir gan gyllid Rheoli Ansawdd Aer yn Lleol hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth ein helpu i gyflawni ein hymrwymiad i godi ymwybyddiaeth o lygredd aer.

Mae'r prosiectau llwyddiannus hyn ar gyfer y cyfnod 2026-27 wedi bodloni un neu ragor o'r meini prawf canlynol:

  • Atal – Camau gweithredu sy'n gwella ansawdd aer mewn modd rhagweithiol. Mae'n atal cynnydd mewn crynodiadau o lygryddion aer a phroblemau cysylltiedig.
  • Lliniaru – Camau gweithredu sy'n gwella ansawdd aer mewn cymunedau lleol drwy fynd i'r afael â phroblemau hysbys.
  • Arloesi – Camau gweithredu sy'n defnyddio dulliau neu dechnolegau arloesol i wella ansawdd aer a/neu leihau cysylltiad â llygryddion aer.
  • Hybu ymwybyddiaeth – Camau gweithredu sy'n gwella dealltwriaeth o ansawdd aer ac yn cefnogi pobl i leihau eu cyfraniad at aer gwael a'r aer gwael maen nhw'n dod i gyswllt ag ef, nawr ac yn y dyfodol.

Mae prosiectau sy'n cael eu cefnogi drwy'r gronfa yn dangos ehangder y camau sy'n cael eu cymryd ledled Cymru i sicrhau aer glanach. O wella prosesau monitro ansawdd aer a chasglu tystiolaeth, i gefnogi mentrau newid ymddygiad mewn ysgolion, annog teithio llesol, datblygu strategaethau a chanllawiau cynllunio lleol, a mynd i'r afael ag allyriadau o feysydd cludiant a diwydiant, bydd y prosiectau hyn yn helpu awdurdodau lleol i gymryd camau wedi'u targedu i wella ansawdd aer a chreu amgylcheddau iachach i gymunedau.

Drwy gefnogi camau gweithredu lleol ymarferol a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth, bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i greu lleoedd glanach ac iachach i bobl fyw, gweithio a theithio ynddynt, gan annog gwell dealltwriaeth o faterion sy'n ymwneud ag ansawdd aer. Drwy weithio gyda'n gilydd, rydym yn helpu i greu amgylchedd iachach a mwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at weld effeithiau cadarnhaol y prosiectau hyn mewn cymunedau ledled Cymru.