Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n cyhoeddi y bydd grantiau gwerth £38m yn cael eu dyrannu i awdurdodau lleol ar gyfer cynlluniau teithio llesol a diogelwch ar y ffyrdd.

Ym mis Mai gwnaethom hysbysu awdurdodau lleol am eu cynlluniau llwyddiannus o dan y Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a’r Grant Diogelwch Ffyrdd, a bydd y grantiau hyn yn cael eu hategu gan y Gronfa Teithio Llesol yr wyf yn ei chyhoeddi heddiw.

Ynghyd â’r cyllid gwerth £15.4m a gafodd ei ryddhau ar 19 Mehefin i ailddyrannu lle ar y ffyrdd a chreu amodau diogel ar gyfer pobl sy’n cerdded, beicio ac yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus mewn ymateb i COVID-19, y grantiau hyn yw’r buddsoddiad mwyaf erioed mewn gwella rhwydweithiau teithio llesol lleol yng Nghymru.

Mae’r Gronfa Teithio Llesol yn darparu £20m i ariannu yn uniongyrchol ar gyfer 25 cynllun mwy a phecynnau o gynlluniau mewn 14 awdurdod lleol. Yn ogystal, mae’n darparu £9m i’w rannu rhwng pob awdurdod lleol i wella ei rwydweithiau teithio llesol ac i baratoi cynlluniau mwy i’w cyflwyno.   

Bydd y Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau gwerth £4.14m yn cefnogi 22 cynllun, gan ganolbwyntio’n benodol ar greu llwybrau cerdded a beicio diogel i ysgolion ar draws 17 awdurdod lleol.

Bydd y Grant Cyfalaf Diogelwch Ffyrdd gwerth £3.88m yn cefnogi 18 cynllun ar draws 12 awdurdod lleol. Dyfarnwyd rhan o £950,000 o refeniw i bob awdurdod ar gyfer mentrau hyfforddi.

Yn ystod y misoedd diwethaf, yn ystod y cyfyngiadau symud, rydym wedi gweld llawer mwy o bobl yn cerdded neu feicio i wneud teithiau pob dydd.

Gyda'i gilydd, bydd yr arian yr ydym yn ei ddarparu yn creu llwybrau a chysylltiadau mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru er mwyn rhoi hyder i bobl barhau i gerdded a beicio.

Mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu cryn adnoddau i ddarparu cynlluniau teithio llesol. Rydym nawr yn disgwyl gweld awdurdodau lleol yn ymrwymo i weithio gyda'u cymunedau i gyflwyno llif o gynlluniau yn y dyfodol a fydd yn annog mwy o bobl i gerdded a beicio ar gyfer teithiau lleol bob dydd. Mae angen i hyn ddilyn y cyngor dylunio arfer gorau yr ydym yn ymgynghori arno.

Mae hon yn agenda tymor hir i newid ein harferion teithio mewn ffyrdd sydd o fudd i iechyd pobl a'r amgylchedd. Nid yw'r dull gweithredu hyd yma wedi cyflawni'r newid mewn ymddygiad Rydym am ei weld ac rydym yn disgwyl i bob partner godi ei gêm i gyfateb i'r adnoddau ychwanegol yr ydym yn eu neilltuo.

Bydd llawer o'r cynlluniau a gefnogir trwy'r cyllid hwn yn galluogi pobl i fynd  i ganol trefi a dinasoedd ledled Cymru ac yn ategu ein hymdrechion ehangach i ailfywiogi canol ein trefi ledled Cymru trwy'r rhaglen Trawsnewid Trefi.

Bydd rhestr lawn o'r cynlluniau llwyddiannus a gefnogir gan bob un o'r grantiau yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan yn: https://llyw.cymru/cynlluniau-teithio-llesol-grantiau-llwybrau-diogel-mewn-cymunedau-diogelwch-ar-y-ffyrdd-dyraniadau

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.