Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi ein bod wedi dyrannu dros £1 miliwn i Awdurdodau Lleol o'r Grant Rheoli Ansawdd Aer Lleol (LAQM). Gan ddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella ansawdd aer ledled Cymru, rydym wedi gallu gwneud dyraniadau y bydd 10 Awdurdod Lleol yn elwa arnynt, sef Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Sir y Fflint, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Powys, Caerdydd a'r Fro, Casnewydd ac Abertawe. Rwyf hefyd wedi ymestyn y cyfnod dyfarnu grant am hyd at dair blynedd, hyd at 2028, gan ganiatáu i Awdurdodau Lleol ymgymryd â phrosiectau tymor hwy sy'n rhychwantu sawl blwyddyn er mwyn sicrhau canlyniadau hyd yn oed mwy ystyrlon i'w cymunedau.
Mae'r Grant Rheoli Ansawdd Aer Lleol yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi Awdurdodau Lleol yn eu hymdrechion i fonitro, asesu a gwella ansawdd aer. Eleni cawsom y nifer fwyaf o geisiadau ers i'r grant gael ei gynnig yn 2021. Trwy ddarparu cyllideb flynyddol o £1 miliwn dros y tair blynedd nesaf, mae'r grant yn ei gwneud yn bosibl gweithredu mesurau effeithiol i leihau llygredd aer a diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd cyfleoedd pellach i Awdurdodau Lleol barhau i gyflwyno ceisiadau am y cyllid hwn yn y blynyddoedd dilynol.
Mae manteision y Grant Rheoli Ansawdd Aer Lleol i gymunedau lleol yn bellgyrhaeddol, gan gyfrannu at aer glanach, cymunedau iachach a gwell ansawdd bywyd i bob preswylydd. Bydd prosiectau a ariennir gan gyllid Rheoli Ansawdd Aer Lleol hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth ein helpu i gyflawni ein hymrwymiad i hyrwyddo ymwybyddiaeth o lygredd aer. Byddwn yn ymgynghori ar ein Cynllun Cyflawni drafft ar gyfer Hyrwyddo Ymwybyddiaeth o Lygredd Aer yr haf hwn.
Ar gyfer y cyfnod 2025-28, mae'r meini prawf ar gyfer y Grant Rheoli Ansawdd Aer Lleol yn cynnwys:
- Atal – camau gweithredu sy'n ceisio gwella ansawdd aer ac atal crynodiadau rhag mynd yn waeth a / neu fynd yn uwch na'r amcanion ansawdd aer.
- Lliniaru – camau gweithredu sy'n ceisio gwella ansawdd aer mewn Ardal Rheoli Ansawdd Aer.
- Arloesi – camau gweithredu sy'n defnyddio dulliau neu dechnolegau arloesol i wella ansawdd aer a / neu leihau cysylltiad â llygredd aer.
- Cydraddoldeb – camau gweithredu sy'n ceisio sicrhau bod prosiectau yn ystyried ac yn canolbwyntio ar wella problemau parhaus fel tlodi, nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, anghydraddoldebau iechyd a newid hinsawdd.
Bydd y cyllid hwn yn mynd yn bell i sicrhau bod ein hamcanion o ran ansawdd aer lleol a hyrwyddo ymwybyddiaeth yn cael eu cyflawni. Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn greu amgylchedd iachach a mwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at weld effeithiau cadarnhaol y prosiectau hyn yn ein cymunedau.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
