Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Pan gyhoeddais y Cynllun Gweithredu ar yr Economi ym mis Rhagfyr y llynedd gwnes nodi’n glir ein hymrwymiad i gyflawni seilwaith modern a chysylltiedig ar draws Cymru a allai gefnogi blaenoriaethau ehangach y Llywodraeth. Roedd hynny’n golygu sicrhau system drafnidiaeth sy’n ddiogel, yn amlfoddol a system sy’n gwella ansawdd y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Heddiw, rwy’n rhoi £25.9 miliwn i awdurdodau lleol ar draws Cymru ar gyfer cynlluniau a fydd yn helpu i gyflawni’r uchelgais yma - i wella diogelwch, i greu twf economaidd cynhwysol ac i hyrwyddo teithio llesol. Gwahoddwyd holl awdurdodau lleol Cymru i gyflwyno ceisiadau ar gyfer eu prif gynlluniau. Daeth 190 o geisiadau i law.

Bydd y Gronfa Trafnidiaeth Leol o £6.15 miliwn yn galluogi 13 o awdurdodau lleol i barhau i weithio ar brosiectau hir dymor o dan 18 cynllun. Rhoddwyd £5 miliwn ychwanegol i alluogi awdurdodau lleol i ariannu’r gwaith o ddatblygu cynlluniau teithio llesol.

Bydd y Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol o £4 miliwn yn sicrhau bod 4 cynllun cyfredol yn gallu parhau a bod 9 cynllun newydd yn gallu dechrau ar draws 13 o awdurdodau lleol.

Bydd Grant Cyfalaf Diogelwch ar y Ffyrdd o bron £4 miliwn yn ariannu 18 cynllun gan gyfrannu at leihau nifer y damweiniau ar y ffyrdd mewn 11 o awdurdodau lleol.

Nod y grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, sy’n werth £5 miliwn, yw canolbwyntio ar 26 o gynlluniau i wella llwybrau cerdded a beicio i’r ysgol mewn 18 awdurdod lleol.

Yn ogystal, bydd £1.75 miliwn yn cael ei neilltuo i’r holl awdurdodau lleol ddarparu rhaglenni addysgu a hyfforddi diogelwch ar y ffyrdd, yn benodol i bobl sy’n agored i niwed a phobl uchel eu risg megis plant, pobl ifanc, gyrwyr hŷn a beicwyr modur.

Mae’r grantiau’n fuddsoddiad sylweddol i gefnogi twf economaidd lleol a chynaliadwy, gwella diogelwch ar y ffyrdd, gwella cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus a darparu mwy o lwybrau a rhai gwell a fydd yn galluogi mwy o bobl yng Nghymru i gerdded a beicio’n ddiogel.

Caiff rhestr lawn o’r cynlluniau llwyddiannus, yn ôl awdurdod lleol, ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.