Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n dyrannu gwerth £30.780 miliwn o grantiau trafnidiaeth i awdurdodau lleol ar draws Cymru ar gyfer cynlluniau sy’n cefnogi fy mlaenoriaethau economaidd ar gyfer swyddi a thwf, sy’n hyrwyddo gweithgarwch economaidd drwy fynediad gwell at gyflogaeth, sy’n hybu teithio egnïol a chynaliadwy, ac yn cysylltu cymunedau. Gwahoddwyd yr holl awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau am gyllid, a daeth dros 62 o geisiadau i law.

Bydd y Gronfa Trafnidiaeth Leol, sy’n werth £22.7 miliwn, yn cefnogi 22 o gynlluniau ar draws 15 o awdurdodau lleol, bydd Metro’r Gogledd, sy’n werth £3.531 miliwn, yn cefnogi 10 cynllun ar draws pedwar awdurdod lleol, a bydd y Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol, sy’n werth £4.1 miliwn, yn cynnig cymorth i 17 o gynlluniau ar draws 13 o awdurdodau lleol.

Mae’r grantiau’n cynnwys dros £20 miliwn i wella trafnidiaeth gyhoeddus integredig. Mae’n bleser cael cyhoeddi bod hyn yn cynnwys £3.6 miliwn i ddechrau adeiladu’r gyfnewidfa bysiau newydd ym Merthyr Tudful. Yn y Gogledd, rwy’n buddsoddi dros £2.2 filiwn i wella amserau teithio ar fysiau a chyfleusterau ar gyfer teithwyr yn Sir y Fflint,  a £380,000 yn rhagor yn ardal Cyngor Conwy. Rwy’n dyrannu mwy na £3 miliwn i awdurdodau lleol ar draws y Canolbarth a’r Gorllewin i wella coridorau a chyfnewidfeydd trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’r grantiau’n fuddsoddiad sylweddol i gefnogi twf economaidd cynaliadwy yn lleol ac i helpu i adfer yr economi yn sgil  Covid-19, i wella cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus, i greu a gwella llwybrau a fydd yn annog rhagor o bobl Cymru i gerdded a beicio.

Rwy’n dyrannu hefyd gwerth £1.9 miliwn o grantiau i awdurdodau lleol o’r gronfa trawsnewid cerbydau allyriadau isel iawn, ar gyfer cynlluniau sy’n cefnogi fy mlaenoriaethau ar gyfer datgarboneiddio trafnidiaeth yng Nghymru. Rwyf wedi gofyn hefyd i swyddogion weithio gyda’r awdurdodau lleol i ddatblygu mwy ar y cynlluniau hynny sy’n werth dros £6 miliwn ac y mae angen eu mireinio cyn inni fedru dyrannu cyllid. Gwahoddwyd yr holl awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau a daeth 29 o geisiadau i law.

Mae’r grantiau’n helpu drwy roi cyllid ar gyfer hyb gwefru cerbydau trydan yn Sir Gâr, ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb ar byrth solar yng Ngwynedd, darpariaeth gwefru mewn maes parcio a theithio ar Ynys Môn, a mannau gwefru ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Y grantiau hyn yw’r buddsoddiadau cyntaf o dan y gronfa trawsnewid cerbydau allyriadau isel iawn, sy’n werth £29 miliwn. Mae rhagor o fuddsoddiadau i gefnogi’n huchelgais ar gyfer bysiau, tacsis a cherbydau hurio preifat heb allyriadau, ac i ddarparu rhagor o fannau gwefru ar gyfer cerbydau trydan, wrthi’n cael eu datblygu. 

Caiff rhestr lawn o’r cynlluniau llwyddiannus ym mhob awdurdod lleol eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Y gronfa trafnidiaeth leol: grantiau a ddyfarnwyd yn 2020 i 2021

Gronfa trawsnewid cerbydau allyriadau isel iawn: grantiau a ddyfarnwyd yn 2020 i 2021