Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyhoeddais ym mis Mai'r llynedd fod 40 o ysgolion uwchradd wedi'u pennu'n Ysgolion Llwybrau Llwyddiant. Byddai'r ysgolion hyn yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddatblygu Her Ysgolion Cymru.

Mae dros flwyddyn wedi mynd heibio ers hynny ac rwyf bellach mewn sefyllfa i gyhoeddi, yn unol â'm haddewid, y dyraniadau cyllid a fydd ynghlwm wrth y rhaglen. Mae'r tabl a amgaeir yn cynnwys manylion ynghylch y cyllid refeniw a'r cyllid cyfalaf a ddyrennir i Ysgolion Llwybrau Llwyddiant ar gyfer blwyddyn academaidd 2014/15. Mae hefyd yn pennu swm y cyllid refeniw a gaiff ei ddyrannu i Gonsortia Addysg Rhanbarthol at ddibenion adeiladu capasiti a darparu cefnogaeth ychwanegol i ysgolion, gan gynnwys cefnogaeth gan ein Cynghorwyr Her Ysgolion Cymru.

Mae'r cyllid a ddyrennir i gefnogi teithiau gwella unigol yr ysgolion Llwybrau Llwyddiant yn amrywio, ac mae hynny'n gwbl briodol. Crëwyd Her Ysgolion Cymru er mwyn gallu ymateb i gyfres unigryw o amgylchiadau ymhob un o'r Ysgolion Llwybrau Llwyddiant. Caiff cryfderau'r ysgolion hyn eu cydnabod a chaiff camau eu cymryd i adeiladu arnynt. Mae'r ysgolion hefyd yn derbyn cefnogaeth i ymateb i'w heriau. Derbyniodd pob ysgol gyllid ar gyfer cyflawni'r blaenoriaethau allweddol a nodir yn ei Chynllun Datblygu Ysgol unigol - sef map cynhwysfawr o'r cam nesaf ar hyd taith wella'r ysgol. Mae'r Cynllun Datblygu'n adlewyrchu cyd-destun unigryw a cham datblygiad yr ysgol. Bu Grŵp Hyrwyddwyr Her Ysgolion Cymru'n craffu ar y rhain er mwyn sicrhau cysondeb cyffredinol o safbwynt eu hansawdd, bod adnoddau wedi'u neilltuo mewn modd a fyddai'n sicrhau'r effaith fwyaf, a bod targedau'n sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng uchelgais a'r hyn a oedd yn bosibl.

Ar ôl cyfarfod yn bersonol ac yn rheolaidd â'r holl Ysgolion Llwybrau Llwyddiant a'u Cynghorwyr Her Ysgolion Cymru rwy'n teimlo'n gwbl hyderus fod llawer wedi'i gyflawni. Heb unrhyw amheuaeth, mae pob ysgol bellach ar y trywydd cywir er mwyn gwella. Mae perthnasau a threfniadau cydweithio wedi'u hatgyfnerthu, a hynny ar draws Clystyrau Her Ysgolion Cymru a hefyd ar draws gwahanol bartneriaid cymunedol. Mae camau pendant yn cael eu cymryd ac mae Bwrdd Gwella Carlam pob ysgol yn ysgogi cynnydd cyflym.

Diben y cyllid a ddyrannwyd yn uniongyrchol i'r Consortia oedd adeiladu capasiti ar gyfer gwella a hybu cydweithio o fewn y system. Ymysg y gweithgareddau sydd wedi'u hariannu mae buddsoddi mewn Canolfannau Gwella, datblygu partneriaethau rhwng ysgolion a chreu cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer arweinwyr ac ymarferwyr ar draws y wlad. Prif nod y buddsoddiad hwn yw sicrhau bod Her Ysgolion Cymru'n cael effaith bositif ar y system addysg ehangach, gan arwain at bwyslais ar allu ysgolion i wella eu hunain. Cafodd cyllid ychwanegol hefyd ei ddyrannu ar gyfer darparu cefnogaeth amrywiol ac o fath arall ar gyfer ysgolion a rhanbarthau, gan gynnwys: arbenigedd - drwy Gynghorwyr a Grŵp Hyrwyddwyr Her Ysgolion Cymru; dathlu, gwerthuso a rhannu arferion da; a phrosiectau a gweithgareddau sy'n ceisio ysgogi rhagor o gydweithredu a gwaith partneriaeth.

Er fy mod wedi datgan bod £20 miliwn ar gael ar gyfer Her Ysgolion Cymru yn 2014/15, roedd angen cyfanswm o £16.35 miliwn. Mae hyn yn adlewyrchu'r lefelau cefnogaeth a bennwyd gan Ysgolion Llwybrau Llwyddiant yn ystod blwyddyn gyntaf y rhaglen, gan eu helpu i ddechrau ar eu teithiau gwella a dechrau creu capasiti ar gyfer gwelliannau ehangach o fewn y system.