Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwy’n cyhoeddi fy mhenderfyniad ar ddyrannu cronfeydd i gefnogi’r Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol yn 2012-13.

Yn dilyn cymeradwyo’r pedwar Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ym mis Rhagfyr 2009, a’r dyraniadau cyllid ym mlynyddoedd ariannol 2010-11 a 2011-12, mae’r Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol wedi cyflwyno cylch arall o gynigion er mwyn gwireddu’r dyheadau a nodir yn eu Cynlluniau ym mlwyddyn ariannol 2012-13, gan gynnwys cynigion i wella Diogelwch ar y Ffyrdd.

Rwy’n falch o gyhoeddi y caiff y Grant o £25 miliwn ar gyfer y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol ei ddosrannu fel a ganlyn:

  • Sewta £10.631 miliwn
  • SWWITCH £5.657 miliwn
  • Taith £5.618 miliwn
  • TraCC £3.094 miliwn

Bydd yr arian yn sicrhau cynlluniau i gefnogi’r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol, ac i wella Diogelwch ar y Ffyrdd yng Nghymru.