Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Rwy’n cyhoeddi fy mhenderfyniad ar ddyrannu cronfeydd i gyrff sydd yn hybu ac yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ar gyfer 2013 -14 ac i bapurau bro am gyfnod o dair blynedd o 2013 hyd at 2016.

Ym mis Ebrill 2012 trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am hybu’r defnydd o’r Gymraeg ac o weinyddu grant i gefnogi’r iaith o Fwrdd yr Iaith Gymraeg i Lywodraeth Cymru.  Prif ffocws y cynllun grantiau yw ariannu  gweithgareddau sy’n arwain at gyflawni meysydd strategol 1 i 3 ein strategaeth iaith, Iaith fyw: iaith byw sef: y teulu, plant a phobl ifanc, a’r gymuned. Yn ogystal roedd modd i ni ystyried ceisiadau am weithgareddau sy’n cyfrannu tuag at gyflawni meysydd strategol 4 i 6 sef; y gweithle, gwasanaethau Cymraeg, a’r seilwaith.

Rwy’n falch o gyhoeddi y caiff £3,557,347, sydd yn gynnydd o £89,703 ar gyllideb 2012/13, wedi ei ddyrannu fel a ganlyn:

  • Yr Urdd - £852,184 
  • Menter Môn - £89,132 
  • Menter Iaith Fflint - £72,043 
  • Menter Merthyr - £58,400 
  • Eisteddfod Genedlaethol - £543,000 
  • Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot - £77,415 
  • Menter Iaith Maldwyn - £72,591 
  • Hunaniaeth - £83,715 
  • Menter Iaith Conwy - £97,678 
  • Mentrau Iaith Cymru - £61,500 
  • Merched y Wawr - £84,205 
  • Menter Iaith Maelor - £36,540 
  • Menter Bro Dinefwr - £93,000 
  • Menter iaith Rhondda Cynon Taf - £107,768 
  • Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru - £89,719 
  • Menter Brycheiniog - £28,451 
  • Partneriaeth Aman Tawe - Castell-nedd - £38,000 
  • Partneriaeth Aman Tawe - Dinefwr - £38,000 
  • Menter Iaith Casnewydd - £47,250 
  • Menter Bro Ogwr - £59,435 
  • Menter Caerdydd - £84,591 
  • Menter Iaith CERED - £103,068 
  • Menter Iaith Abertawe - £102,145 
  • Menter Iaith Caerffili - £95,552 
  • Menter Iaith Sir Ddinbych - £81,583 
  • Menter Iaith Sir Benfro - £90,279 
  • Menter Gorllewin Sir Gar - £66,921 
  • Cymdeithas Eisteddfodau Cymru - £46,036 
  • Duke of Edinburgh Award - £20,300 
  • Gwallgofiaid - £23,000 
  • Menter Iaith Cwm Gwendraeth - £87,791 
  • RHAG - £35,140 
  • Sefydliad Cerddoriaeth Cymreig - £12,165 
  • Dyffryn Nantlle 20/20 - £3,000 
  • Menter Iaith Blaenau Gwent - £42,750 
  • Plant yng Nghymru - £3,000

Mae’r £3,557,347 yn cynnwys £30,000 sydd wedi ei glustnodi ar gyfer gweithio yn ardal Bro Morgannwg er mwyn datblygu ffordd newydd o cynnig darpariaeth fydd yn cynnig cyfleoedd i deuluoedd, plant, pobl ifanc, a dysgwyr yr ardal i ddefnyddio’u Cymraeg.  Byddwn yn gweithio’n agos gyda Mentrau Iaith Cymru i ddatblygu’r ddarpariaeth newydd hwn yn ardal Bro Morgannwg.  

Yn ogystal rwy’n cyhoeddi fy mhenderfyniad i ddyrannu £85,310 y flwyddyn  i 50 papur bro a fydd yn derbyn rhwng £800 a £1,870 yr un y flwyddyn am y tair blynedd nesaf, mae’r cyfanswm a ddyrannwyd yn adlewyrchu'r nifer o rifynnau y maent yn ei gyhoeddi. Mae hyn yn gynnydd o £11,237 y flwyddyn o’i gymharu â chyllideb 2012/13. Dyrannwyd y grant i’r papurau canlynol:

Cyfraniad Blynyddol 2013/14, 2014/15, 2015/16

  • Y Gloran - £1,700
  • Glo Man - £1,700
  • Clonc - £1,700
  • Yr Angor (L) - £1,700
  • Pethe Penllyn - £1,700
  • Y Rhwyd - £1,700
  • Yr Arwydd - £1,700
  • Tafod Elai - £1,700
  • Clochdar - £1,700
  • Yr Odyn - £1,870
  • Dail Dysynni - £1,700
  • Seren Hafren - £1,870
  • Y Tincer - £1,700
  • Y Pentan - £1,870
  • Lleu - £1,870
  • Wilia - £1,700
  • Y Gambo - £1,700
  • Nene - £1,700
  • Y Glorian - £1,700
  • Yr Angor (A) - £1,700
  • Y Cardi Bach - £1,700
  • Yr Ysgub - £1,870
  • Y Dinesydd - £1,700
  • Llais - £1,700
  • Papur Pawb - £1,700
  • Llais Aeron - £1,700
  • Llais Ardudwy - £1,870
  • Y Ffynnon - £1,870
  • Papur Menai - £1,700
  • Y Ddolen - £1,870
  • Y Bigwn - £1,700
  • Y Glannau - £1,700
  • Dan y Landsker - £1,200
  • Y Garthen - £1,700
  • Cwlwm - £1,700
  • Y Lloffwr - £1,700
  • Papur y Cwm - £1,700
  • Y Clawdd - £1,200
  • Eco'r Wyddfa - £1,870
  • Y Barcud - £1,700
  • Y Fan a'r Lle - £800
  • Llais Ogwen - £1,870
  • Clebran - £1,870
  • Goriad - £1,700
  • Papur Dre £1,700
  • Yr Hogwr - £1,700
  • Yr Wylan - £1,870
  • Papur Fama - £1,700
  • Plu'r Gweinydd - £1,870
  • Tua'r Goleuni  - £1,700