Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy'n dyrannu grantiau trafnidiaeth gwerth dros £31.4 miliwn i awdurdodau lleol ledled Cymru ar gyfer cynlluniau i wella diogelwch, creu twf economaidd a hyrwyddo teithio llesol. Ym mis Rhagfyr a mis Ionawr gwahoddwyd awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau ar gyfer eu cynlluniau â blaenoriaeth. Cafwyd cyfanswm o 159 o geisiadau ar gyfer yr holl grantiau.

Bydd y Gronfa Trafnidiaeth Leol gwerth £20 miliwn yn caniatáu i 47 cynllun gychwyn, neu barhau â gwaith ar brosiectau aml flwyddyn, ar draws 20 awdurdod lleol.

Mae pwysigrwydd y grant hwn i wneud gwelliannau trafnidiaeth yn amlwg a bydd hynny’n cael ei ystyried wrth benderfynu sut y caiff y grant ei reoli ar ôl mis Mawrth 2018, ac ‘rydym yn bwriadu adolygu sut y bydd y grant yma yn cael ei ddyrannu yn y blynyddoedd i ddod.

Bydd Grant Cyfalaf Diogelwch ar y Ffyrdd gwerth bron £4 miliwn yn ariannu 31 o gynlluniau gan helpu i leihau nifer yr anafiadau mewn 16 o awdurdodau lleol.

Mae'r Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau gwerth £5.5 miliwn yn canolbwyntio ar 32 o gynlluniau sy'n gwella llwybrau cerdded a beicio i ysgolion mewn 19 o awdurdodau lleol.

Yn ogystal, bydd bron £2 miliwn yn cael ei ryddhau i bob awdurdod lleol ar gyfer rhaglenni addysg a hyfforddi diogelwch ar y ffyrdd, yn enwedig ymysg grwpiau risg uchel a grwpiau sy'n agored i niwed, fel plant, pobl ifanc, gyrwyr hŷn a gyrwyr beiciau modur.

Mae'r grantiau'n fuddsoddiad mawr i gynnal twf economaidd lleol, gwella diogelwch ar y ffyrdd a darparu llwybrau gwell a mwy ohonynt, er mwyn galluogi pobl yng Nghymru i gerdded a beicio, ac i wneud hynny'n ddiogel.

Bydd rhestr lawn o gynlluniau llwyddiannus yn cael ei chyhoeddi yn ôl awdurdod ar wefan Llywodraeth Cymru.
http://gov.wales/topics/transport/planning-strategies/local-transport/local-transport-fund/?skip=1&lang=cy