Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw rwy’n lansio ymgynghoriad ar ganllawiau statudol drafft ar Ddysgu 14 i 16 yn y Cwricwlwm i Gymru

O fis Medi 2024, bydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei addysgu ym mhob ysgol gynradd ac ym mlynyddoedd 7, 8 a 9, gyda'r camau cyflwyno nesaf i flynyddoedd 10 ac 11 yn digwydd ym mis Medi 2025 a 2026 yn y drefn honno. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw blynyddoedd 10 ac 11 yn addysg dysgwyr, a sut mae eu dewisiadau a'u cyflawniadau yn dylanwadu ar eu llwybrau yn y dyfodol. Mae'r canllawiau felly yn nodi polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu ac addysgu ym mlynyddoedd 10 ac 11, ochr yn ochr â'r gofynion cyfreithiol ar gyfer ysgolion, a byddant yn rhan o ganllawiau fframwaith y Cwricwlwm i Gymru. Mae ysgolion eisoes yn darparu llawer o hyn, ac mae'r canllawiau'n nodi disgwyliadau cenedlaethol clir i helpu i ddarparu tegwch a chysondeb yn y cwricwlwm a brofir gan ddysgwyr ledled Cymru, gyda phob ysgol yn gwerthfawrogi'r un pethau sy'n cyfrannu at gynnydd dysgwr ac at bontio ymlaen llwyddiannus. 

Mae'r canllawiau yn cyflwyno'r Hawl i Ddysgu 14 i 16: y dysgu y bydd pob dysgwr ym mlwyddyn 10 ac 11 yn elwa arno o fewn y Cwricwlwm i Gymru. Mae hyn yn adeiladu ar y Cymwysterau 14 i 16 Cenedlaethol diwygiedig gan Cymwysterau Cymru; y dysgu a'r profiadau ehangach sy'n ofynnol o fewn y Cwricwlwm i Gymru; ac yn pwysleisio pwysigrwydd amser penodol ar gyfer myfyrio a chynllunio ôl-16 i gefnogi dysgwyr i wneud dewisiadau cytbwys ac ystyriol wrth iddynt ymgymryd â'u camau nesaf a'u cyfnodau pontio ôl-16.   

I'n pobl ifanc, rwy'n cydnabod mai dysgu 14 i 16 yw cam cyntaf eu llwybr 14 i 19 hirach tuag at fyd oedolion, addysg bellach ac addysg uwch, a chyflogaeth. Mae'r canllawiau'n mynd i'r afael â rhai o ganfyddiadau ac argymhellion adroddiad 'Pontio i Fyd Gwaith' Hefin David a'r Adolygiad o Gymwysterau Galwedigaethol. Mae fy swyddogion wedi ymgysylltu'n eang ag ysgolion, colegau a chyflogwyr dros y misoedd diwethaf.

Er mwyn cefnogi ysgolion ymhellach wrth iddynt gynllunio ar gyfer mis Medi 2025 ac ar gyfer addysgu dysgwyr blwyddyn 10 o dan y cwricwlwm newydd am y tro cyntaf, rydym yn bwriadu darparu deunyddiau ategol ochr yn ochr â chwblhau'r canllawiau. Byddwn hefyd yn arwain y gwaith o ddatblygu dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr i ategu'r amserlen a ddatblygwyd gan CBAC ar gyfer cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru. Mae hyn yn cynnwys cynllun cenedlaethol digynsail, lle bydd clystyrau o ysgolion yn cau ar gyfer HMS a ddarperir gan CBAC ar ddiwrnod dynodedig rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2025.

Yn ogystal â darparu strwythur ar gyfer cynllunio cwricwlwm ym mlynyddoedd 10 ac 11, dylai'r Hawl i Ddysgu 14 i 16 hefyd weithredu fel fframwaith ar gyfer ysgolion i'w defnyddio i hunanwerthuso a myfyrio ar ddysgu, cynnydd a chyflawniadau eu dysgwyr yn y blynyddoedd hyn, ac i gynllunio ar gyfer gwelliannau pellach. Yn yr un modd, ar lefel genedlaethol, drwy fynegi'r hyn yr ydym yn ei werthfawrogi mewn dysgu 14 i 16, bydd yn llywio ein cynigion ar yr hyn y dylid ei gynnwys yn yr ecosystem wybodaeth newydd. Mae hyn yn cynnwys y gofynion gwybodaeth a fydd yn disodli'r mesurau perfformiad (capio 9) dros dro. Yn olaf, bydd yn helpu i lunio'r disgwyliadau y bydd Estyn yn eu defnyddio i arolygu ysgolion uwchradd o fis Medi 2025 ymlaen.