Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi cyhoeddi adolygiad mewnol yn ddiweddar i hanes cyflogaeth un o’i gyflogeion, Kris Wade (KW), a'r ffordd y cafodd tri honiad ar wahân o ymosodiad rhywiol a wnaed yn ei erbyn gan dri cyn-glaf gwasanaeth anableddau dysgu'r bwrdd iechyd eu rheoli. Cyfeiriodd y bwrdd iechyd bob un o’r tri honiad at yr heddlu. Yn dilyn pob ymchwiliad, penderfynodd yr awdurdodau cyfiawnder troseddol beidio â mynd ar drywydd erlyniad.

Ym mis Mawrth 2016, tra bod KW wedi ei atal dros dro o'r gwaith yn aros i achos disgyblu ddod i ben, cafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac fe'i collfarnwyd yn ddiweddarach a'i ddedfrydu i'r carchar am oes. Wedi iddo gael ei gollfarnu a'i ddiswyddo, cytunodd y bwrdd fod angen adolygu effeithiolrwydd y prosesau a oedd ynghlwm wrth ei gyflogaeth a'r ffordd y cafodd honiadau a wnaed yn ei erbyn eu rheoli. Roedd hwn yn cynnwys penderfynu a fu unrhyw achos o wrthdaro buddiannau yn ystod yr amser hwn am mai tad KW oedd cyfarwyddwr y gwasanaeth anableddau dysgu ar y pryd.

Daeth yr adolygiad i'r casgliad na allai ymddygiad KW yn y dyfodol y tu allan i'w gyflogaeth fod wedi ei ragweld na’i atal. Fodd bynnag, mae wedi nodi nifer o faterion sylweddol o bryder a gwendidau’n ymwneud â llywodraethu, diogelu oedolion, recriwtio, diwylliant ac adrodd am ddigwyddiadau, gan ddod i'r casgliad fod sawl maes i ddysgu ohonynt ac i'w gwella. Mae cynllun gwella sy'n amlinellu'r camau sydd wedi eu cymryd hyd yma wedi ei gyhoeddi ar y cyd â'r adroddiad.

Mae'r adroddiad hwn yn ein hatgoffa o'r gwir angen i sicrhau bod y polisïau a'r gweithdrefnau sydd ar waith yn y maes hwn yn cael eu deall yn llawn gan bob aelod o staff a bod y dull o'u rheoli a'u gweithredu'n cael eu monitro'n rheolaidd. Mae'n amlwg yn hanfodol ein bod yn cymryd pob cam priodol i sicrhau bod pob un o sefydliadau’r GIG yn dysgu ohono.

Gofynnwyd i bob Prif Weithredwr yn y GIG adolygu canfyddiadau'r adroddiad hwn a rhoi sicrwydd bod dulliau llywodraethu da ar waith mewn perthynas ag arferion adrodd am ddigwyddiadau sy'n ymwneud â diogelwch cleifion, diogelu a chyflogaeth a bod pob canllaw priodol yn cael ei ddilyn i amddiffyn diogelwch cleifion, gan gynnwys eu diogelwch rhywiol. Gofynnwyd iddynt ddarparu'r cadarnhad hwnnw erbyn dydd Gwener 29 Medi.

O ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn benodol, rwyf am fod yn fodlon bod y bwrdd iechyd wedi nodi camau priodol a bod ei ymateb yn ddigon cadarn. Hoffwn hefyd gael sicrwydd bod trefniadau effeithiol ar waith ar draws y sefydliad i fonitro'r ffordd y mae unrhyw newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau yn cael eu gweithredu ac yn ymsefydlu.

Rwyf felly wedi gofyn i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) gynnal asesiad annibynnol er mwyn penderfynu:

  • a yw'r holl waith dysgu priodol wedi ei nodi o’r canfyddiadau yn yr adolygiad hwn
  • a yw'r camau sy'n cael eu cymryd yn ddigon eang eu cwmpas a chadarn
  • a oes trefniadau effeithiol ar waith i’r camau a gymerir gael eu monitro’n barhaus, gan sicrhau eu bod yn rhan o'r arferion ar draws y sefydliad
  • a oes unrhyw ddysgu pellach y dylid ei rannu ar draws y GIG yng Nghymru.

Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd adroddiad AGIC yn dod i law.

Desktop Review and Lessons Learned Report.pdf