Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n cyhoeddi adroddiad heddiw ar effaith y cynnydd yn y defnydd o brofion gama ar nifer y gwartheg sy’n cael eu difa oherwydd TB Gwartheg.  Mae’r clefyd yn cael effaith ariannol a chymdeithasol fawr ar fusnesau fferm a’r economi wledig ehangach a dyna pam y gwnaethom ni sefydlu’r rhaglen dileu TB. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cynnydd wedi’i wneud at daro’r nod o ddileu TB Gwartheg, gyda nifer yr achosion newydd yn cwympo 47% ers ei anterth yn 2009 ac mae cyfran y buchesi sydd â TB yn dal i ostwng.  Rhwng 2009 a 2015, gwelwyd cwymp hefyd o 31% yn y gwartheg a gafodd eu lladd, er ers hynny, mae’r duedd wedi bod am i fyny er bod nifer yr achosion newydd yn parhau i gwympo.  Mae’r gwahaniaeth hwn yn anarferol gan fod y duedd yn nifer yr anifeiliaid a laddwyd wedi tueddu i ddilyn y duedd yn yr achosion newydd, ond nid yw’n golygu bod y clefyd ar gynnydd.

Y rheswm pennaf dros y cynnydd yn nifer y gwartheg sy’n cael eu lladd yw’r cynnydd yn y defnydd o’r prawf interferon-gamma.  Mae’r prawf gamma yn fwy sensitif, gan ddatgelu mwy o wartheg sy’n adweithio na’r prawf croen safonol.  Y prawf yw un o’r arfau gorau sydd gennym i ddileu’r clefyd mewn buchesi heintiedig oherwydd, o’i ddefnyddio ar y cyd â’r prawf croen, mae gwartheg heintiedig yn fwy tebygol o gael eu darganfod. Hefyd, mae’n gallu synhwyro’r haint yn gynt sy’n golygu y gall ein helpu i gael gafael ar wartheg heintiedig cyn iddyn nhw ddechrau heintio gwartheg eraill.  Mae’r cynnydd mewn profion gamma wedi arwain at gynnydd dramatig yn nifer y gwartheg sy’n adweithio’n bositif, gan gyfrannu’n fawr at y cynnydd yn y nifer sy’n cael eu lladd.  

Mae’r adroddiad yn ymchwilio i hyn yn fanylach ac yn disgrifio sut mae ein prawf gamma, a’r defnydd strategol ohono, wedi cyfrannu at helpu i glirio heintiau mewn buchesi sy’n diodde’n gyson o TB, ac i rwystro’r clefyd rhag cydio mewn ardaloedd lle mae TB yn brinnach.
Fy amcan yw torri nifer y gwartheg sy’n cael eu lladd oherwydd TB i’r lleiafswm angenrheidiol ond gan ddileu’r clefyd mewn buchesi cyn gynted â phosib i’w rwystro rhag lledaenu i wartheg eraill, anifeiliaid gwyllt a phobl.  Mae’r mesurau a gymerwyd hyd heddiw i’w gweld wedi cael effaith bositif.  Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r profion gamma mewn ffordd strategol lle gall y defnydd gorau ohono ategu ein mesurau eraill.  Mae sefyllfa’r clefyd yn gymhleth ac mae ein dangosfwrdd TB yn dangos cyfres o fesuriadau pwysig mewn ffordd weledol a hawdd ei deall.  Mae’r fersiwn ddiweddaraf, sydd wedi cael ei hailddylunio i gynnwys nodweddion llywio rhyngweithiol a ffigurau rhanbarthol, ar gael ichi ei gweld ar www.gov.wales/topics/environmentcountryside/ahw/disease/bovinetuberculosis/bovinetberadication/tb-dashboard

ac fe welwch yr adroddiad ar effaith profion gamma yn: http://gov.wales/topics/environmentcountryside/ahw/disease/bovinetuberculosis/cattlecontrols/testing/?skip=1&lang=cy