Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cefais drafodaeth heno 'ma gydag uwch swyddogion yn Airbus ynglŷn ag effaith ddramatig pandemig COVID-19 ac yn benodol effaith gostyngiad o 40% yn y galw, a hoffwn rannu'r manylion â'r Aelodau.

Fel yr ydych yn gwybod yn iawn, mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith ddybryd a chatastroffig ar y sector awyrofod a’r sector hedfan yn fyd-eang.

Dywedodd Airbus wrthyf heddiw fod nifer yr hediadau domestig yn fyd-eang, yn ôl IATA (International Air Transport Association), wedi gostwng 70% a bod y golled mewn refeniw teithwyr yn cyrraedd $314 biliwn. Mae meysydd awyr mwyaf Ewrop wedi rheoli 90% yn llai o hediadau ac mae'r dirwasgiad, ynghyd â risg ganfyddedig o ddal COVID-19 wrth deithio, yn niweidio hyder teithwyr. Nid yw Airbus yn disgwyl i draffig awyr gyrraedd y lefelau cyn yr argyfwng am 3 blynedd ar y gorau, 5 mlynedd o bosibl, ac mae hynny'n cymryd na fydd yna argyfwng yn sgil ail don. Hyd yma, mae oddeutu 57,000 o bobl wedi’u rhoi ar absenoldeb ffyrlo ac, yn anffodus, mae tua 33,500 wedi colli eu swyddi ar draws cwmnïau awyrennau, meysydd awyr a busnesau awyrofod.

O ganlyniad, bydd twf yn gyfyngedig iawn a bydd angen llai o awyrennau newydd. Yn fyd-eang (ar draws yr holl wneuthurwyr), mae'r galw am gynhyrchu awyrennau ar gyfer teithiau byr yn debygol o ostwng 15% (tua 1,500 yn llai o awyrennau o blith 10,000) a 30-65% ar gyfer awyrennau teithiau hir, erbyn diwedd 2025 (tua 600-1,300 yn llai o awyrennau o blith 2,000). 

Mae Airbus yn cyflogi tua 6,000 o bobl sydd â sgiliau uchel ac sy’n cael eu talu’n dda ym Mrychdyn ac roedd yn gonglfaen gweithgynhyrchu uchel ei werth yng Nghymru. Ar ddechrau’r flwyddyn hon, yn ôl pob golwg roedd 2020 yn argoeli’n dda iawn ar gyfer y cwmni. Roedd y cynhyrchu misol ar gyfer yr A320 ar fin cynyddu, ac roedd yr ôl-groniad o archebion yn 7,482 o awyrennau masnachol. Rhagwelwyd mai cynyddu’n unig y byddai’r galw. 

Serch hynny, yn gwbl groes i hynny, mae llyfr archebion Airbus wedi’i gwtogi wrth i’r galw am awyrennau newydd leihau a chyfraddau cynhyrchu ostwng 30%. Mae Airbus bellach yn ymladd i oroesi, ac mae wedi cyhoeddi cynlluniau i addasu ei weithlu byd-eang a newid maint ei weithgarwch awyrennau masnachol mewn ymateb i argyfwng COVID-19. Mae disgwyl i'r newidiadau hyn arwain at golli tua 15,000 o swyddi yn fyd-eang cyn haf 2021, gyda 1,700 o'r rhain yn y DU. Bydd yr ailstrwythuro hwn yn effeithio'n bennaf ar ddau safle'n unig – Brychdyn yng Nglannau Dyfrdwy a Filton ym Mryste.

Ni allaf bwysleisio ddigon yr argyfwng sy'n wynebu’r sector – un sy'n bygwth ei fodolaeth ac a allai arwain at ddifrod economaidd yn yr etholaethau hynny sydd o amgylch cyfleusterau Brychdyn a Glannau Dyfrdwy a’r ardaloedd cyfagos yng ngogledd-orllewin Lloegr. Hoffwn ichi hefyd fod yn ymwybodol ein bod wedi nodi 150 o gyflenwyr sy’n cyflogi tua 1,500 o staff y bydd y datganiad heddiw yn siŵr o effeithio arnynt.

Mae safle Brychdyn eisoes wedi rhoi hysbysiad diswyddo i ryw 500 o aelodau o staff asiantaeth Guidant, ac wedi rhoi tua 3,200 o aelodau o staff craidd ar absenoldeb ffyrlo. Mae Airbus wedi defnyddio’r Cynllun Cadw Swyddi yn helaeth ac mae tua 40% o’i weithwyr yn y DU yn yr is-adran Awyrennau Masnachol hefyd ar absenoldeb ffyrlo. Cefais wybod heddiw fod y broses wybodaeth ac ymgynghori â phartneriaid cymdeithasol eisoes wedi dechrau gyda golwg ar ddod i gytundebau i ddechrau gweithredu yn hydref 2020. 

Er na ellir diystyru camau gorfodol ar hyn o bryd, bydd Airbus yn gweithio gyda'i bartneriaid cymdeithasol i liniaru effaith y cynllun hwn drwy fanteisio ar yr holl fesurau cymdeithasol sydd ar gael, gan gynnwys gadael yn wirfoddol, ymddeol yn gynnar a chynlluniau diweithdra rhannol hirdymor pan fo'n briodol. 

Dywedodd Airbus y bydd y cynllun prentisiaeth yn y DU yn parhau fel y bwriadwyd ond mae dyddiadau dechrau wedi'u gwasgaru er mwyn lleihau maint dosbarthiadau. Diolchodd Airbus i Lywodraeth Cymru am ein cymorth ar gyfer eu prentisiaethau. Mae sefyllfa graddedigion sydd yn y cynllun yn ddiogel am oes y cynllun. Mae'r cwmni eisoes wedi lleihau neu gyhoeddi gostyngiadau o dros 700 o weithwyr dros dro ac is-gontractwyr yn y safleoedd masnachol yn y DU. 

Rwyf hefyd wedi siarad â Gweinidogion yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) heddiw gan bwysleisio bod yn rhaid i bob llywodraeth weithio gyda'i gilydd, gan ddechrau gydag uwchgynhadledd gweithgynhyrchu uchel ei werth i gefnogi'r sector hwn a sectorau strategol bwysig eraill. Yn benodol, rwyf wedi trafod cymorth strategol diwydiannol i helpu'r cwmni a'r sector ehangach gan gynnwys cronfa cadwyn gyflenwi, oriau hyblyg (wythnos waith fyrrach), cynllun sgrapio awyrennau i gael gwared ag awyrennau hŷn, llai ecogyfeillgar a chymorth ymchwil a thechnoleg. Rwyf hefyd wedi trafod â nhw syniadau arloesol megis dileu’r Doll Teithwyr Awyr dros dro, hybu teithiau hedfan mewnol, rhoi cymhelliant i gwmnïau yn y DU gyflawni eu gwaith cynnal a chadw, adfer ac atgyweirio (MRO) yn y DU, rhoi llawer mwy o gymorth i fentrau ymchwil a buddsoddi ‘gwyrdd’ ac, yn olaf, datblygu strategaethau amddiffyn ac awyrofod sy’n pwyso o blaid dyfodol y sector hediadau.

Mae llywodraethau Ewropeaidd canolog eraill wedi symud yn gyflym i ddiogelu dyfodol diwydiannau strategol bwysig megis awyrofod ac rwy’n bryderus y gallai Llywodraeth y DU eisoes fod yn rhy hwyr i atal niwed anadferadwy wrth i gwmnïau gyhoeddi toriadau. Bydd difrifoldeb y toriadau hyn yn bygwth hyfywedd gweithredoedd yn y DU yn y dyfodol ac yn bygwth colli sicrwydd gwaith i wledydd eraill. 

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad heddiw, mae'n glir bod angen inni weithredu ar unwaith i ddiogelu sefyllfa a lles gweithlu a chadwyn gyflenwi Airbus. Mae hefyd angen inni ganolbwyntio ar wneud popeth y gallwn ni i sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r sectorau awyrofod a gweithgynhyrchu uchel ei werth.

Diolch i'r berthynas weithio agos iawn sydd gan Lywodraeth Cymru â phartneriaid yn y Gogledd ac yn ardal ehangach y Mersi a'r Ddyfrdwy, bydd cydweithio wrth wraidd ein dull gweithredu. Yn y tymor byr iawn, rwyf wedi gofyn i'm huwch swyddogion fynd ati ar unwaith i ffurfio grŵp ac ymdrech ymateb cyflym, amlasiantaeth ar gyfer ardal y Gogledd/Mersi a'r Ddyfrdwy. Bydd y grŵp hwn yn gweithio gydag Airbus, y gadwyn gyflenwi, undebau llafur a'r holl asiantaethau allweddol i sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu'n gyflym ac yn effeithiol i unigolion a'r gadwyn gyflenwi. 

Ar y cyd â hyn, mae gwaith eisoes wedi dechrau rhwng fforymau diwydiant, partneriaid yn ardal y Mersi a'r Ddyfrdwy a'm swyddogion, i ddeall anghenion penodol cwmnïau o fewn y gadwyn gyflenwi awyrofod. Rwyf wedi gofyn i'r gwaith hwn gael ei gyflymu a hefyd ei efelychu ar gyfer y diwydiant modurol – fy nod yw sicrhau dealltwriaeth mor gyflawn â phosibl o anghenion a chyfleoedd fel y bydd unrhyw gymorth a ddarperir wedi'i dargedu ac yn cael yr effaith fwyaf yn y tymor byr, canolig a'r hirdymor.

Yn fwy hirdymor, byddaf yn galw uwchgynhadledd lefel uchel, o fewn y 3 wythnos nesaf, i drafod dyfodol y sectorau awyrofod a modurol a'r sector uchel ei werth yn ehangach yng nghyd-destun Brexit a charbon sero-net. Rhaid i'r uwchgynhadledd ganolbwyntio ar wedd y sectorau hyn yn y dyfodol, gan ystyried datblygiadau ehangach megis rhai ym maes ynni carbon isel a datblygiadau adeiladu. Hefyd, rhaid i'r uwchgynhadledd fod yn gyfrwng i ddiffinio map ffordd clir sy'n nodi camau ac ymyriadau ar y cyd i gyrraedd y nod. 

Dyna pam y byddaf yn pwyso ar i Lywodraeth y DU fod yn rhan o'r uwchgynhadledd hon.

Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn yr wythnosau nesaf.