Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gamau sy’n cael eu cymryd yng Nghymru i gefnogi pobl sy’n teimlo effeithiau hirdymor COVID-19.

Mae haint COVID-19 nawr yn destun ymchwil ledled y byd, ac wrth i’r pandemig barhau, rydym yn dod i ddeall mwy am broses y clefyd a’i effaith fwy hirdymor ar iechyd y claf. Y gred i ddechrau oedd y gallai symptomau bara rai wythnosau ac y gallai’r unigolyn, ar ôl i’r symptomau gilio, fynd yn ôl at ei ffordd arferol o fyw, ond mae hi bellach yn dod i’r amlwg bod rhai pobl yn teimlo effeithiau llawer mwy hirdymor.

Mae GIG Cymru wedi datblygu a lansio ap Adferiad Covid/Covid Recovery sy’n cynnig cyngor, awgrymiadau a chamau i gleifion eu cymryd, er mwyn rheoli eu hadferiad eu hunain. Mae’r ap dwyieithog ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim. https://llyw.cymru/lansio-ap-yng-nghymru-i-helpu-i-gefnogi-pobl-sydd-symptomau-covid-hir

Mae tystiolaeth gynyddol o brofiadau pobl yn dangos bod nifer bach ond sylweddol o bobl sy’n dal COVID-19 yn araf i adfer o effeithiau’r feirws, yn aml fisoedd ar ôl iddynt ddechrau teimlo’n sâl. Mae rhai amcangyfrifon yn awgrymu y gallai tua 1 o bob 5 o bobl sydd wedi dal COVID-19 barhau i fod â rhai o’r symptomau dros dair wythnos ar ôl cael eu heintio; a gallai 1 o bob 10 o bobl deimlo effeithiau dri mis, neu fwy, ar ôl yr haint cychwynnol.

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) wedi llunio canllawiau clinigol, a gyhoeddwyd ar 18 Rhagfyr 2020 https://www.nice.org.uk/guidance/NG188.

Mae’r canllawiau hyn yn ymdrin â nodi, asesu a rheoli effeithiau hirdymor COVID-19, a elwir yn aml yn ‘COVID hir’. Mae’r canllawiau’n cynnwys argymhellion ynglŷn â gofal ym mhob lleoliad gofal iechyd ar gyfer oedolion, plant a phobl ifanc sy’n parhau i fod â symptomau, neu sydd â symptomau newydd, bedair wythnos neu ragor ar ôl dechrau COVID-19 acíwt.

Mae NICE yn defnyddio’r diffiniadau clinigol canlynol ar gyfer y salwch cychwynnol a COVID hir ar wahanol adegau:

  • COVID-19 acíwt: arwyddion o COVID-19 a symptomau am hyd at bedair wythnos.
  • COVID-19 symptomatig parhaus: arwyddion o COVID-19 a symptomau am bedair i 12 wythnos.
  • Syndrom ôl-COVID-19: arwyddion a symptomau, sy’n datblygu yn ystod neu ar ôl haint sy’n gyson â COVID-19, yn parhau am dros 12 wythnos ac nad ydynt yn cael eu hesbonio gan ddiagnosis arall.

Hyd yma, nid oes dealltwriaeth lawn o broffil syndrom ôl-COVID-19 – hynny yw, 12 wythnos neu fwy – o ran ystod a difrifoldeb y symptomau. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod pobl yn teimlo effeithiau tymor canol a hirdymor sylweddol. Mae’r effeithiau hyn yn amrywiol eu natur ac yn gallu effeithio ar unrhyw system yn y corff. Blinder, diffyg anadl, newidiadau yn hwyliau’r unigolyn, anallu i feddwl yn glir a newidiadau i’r synhwyrau yw rhai o’r pethau mwyaf cyffredin y mae pobl yn eu disgrifio. Bydd ar rai pobl angen cymorth i ailddechrau gwneud pethau pob dydd.

Yn unol â gweledigaeth Cymru Iachach, mae ein dull gweithredu wedi’i seilio ar osgoi niwed, hyrwyddo a chefnogi hunanreoli a gofal di-dor seiliedig ar werthoedd gan y gweithwyr iechyd proffesiynol neu’r gwasanaeth cywir, gartref neu mor agos â phosibl at gartref pobl, a chytuno ar ofal sydd wedi’i deilwra i anghenion penodol pob unigolyn.

Gan ddefnyddio’r dystiolaeth ddiweddaraf, mae pob bwrdd iechyd yn dod â meddygfeydd a gwasanaethau cymunedol amlbroffesiynol at ei gilydd er mwyn sefydlu systemau sy’n gwneud y defnydd gorau o arbenigedd gwahanol weithwyr iechyd proffesiynol ac adnoddau eraill, megis ap newydd GIG Cymru – Adferiad Covid/Covid Recovery – i nodi, asesu a chefnogi pobl yn eu hadferiad. Mae’n bosibl y bydd ar rai pobl sy’n teimlo effeithiau difrifol angen cyngor mwy arbenigol a ddarperir mewn lleoliadau ysbytai acíwt.

Er bod gwasanaethau a’r ffordd o’u defnyddio yn cael eu trefnu a’u hyrwyddo yn ôl anghenion ac amgylchiadau lleol, mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru wedi cydweithio ar Lwybr Cymunedol Cymru gyfan ar gyfer syndrom ôl-COVID-19 i helpu i sicrhau dull gweithredu cyson ar draws pob bwrdd iechyd yn unol â Cymru Iachach.

Mae sgiliau ein Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd wrth wraidd ein dull gweithredu, fel y mae cymorth hunanofal i bobl fel y gallant reoli eu hadferiad eu hunain. I helpu i lywio’r ymateb lleol i syndrom ôl-COVID-19, rydym wedi diweddaru ein Fframwaith Adsefydlu Cenedlaethol a chanllawiau cynllunio a senarios cleifion ar gyfer poblogaethau penodol, yn sgil canllawiau clinigol NICE a gwaith ymchwil arall.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi datblygu platfform digidol i greu un ‘dudalen lanio’ i’w gwneud yn hawdd cael gafael ar ystod eang o adnoddau i gefnogi gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol wrth iddynt roi cymorth a chyngor i bobl sy’n rheoli eu hadferiad eu hunain.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn creu Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru i ddadansoddi effaith y coronafeirws a defnyddio tystiolaeth seiliedig ar ymchwil i fynd i’r afael â heriau newydd o ganlyniad i’r pandemig byd-eang. Bydd y tîm penodedig yn y Ganolfan Dystiolaeth newydd yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru i ddarparu’r dystiolaeth angenrheidiol i wneud penderfyniadau effeithiol i gefnogi pobl yn eu hadferiad.

Yn ogystal ag ymchwil, bydd fy swyddogion yn gweithio gyda grwpiau cefnogi cleifion i glywed am eu profiadau yn uniongyrchol, trafod ein dull gweithredu yng Nghymru a nodi camau gweithredu angenrheidiol pellach.

Byddwn yn parhau i addasu ein hymateb wrth inni ddysgu mwy.