Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Storm Babet ar 20 Hydref oedd y storm gyntaf a enwid i effeithio ar Gymru y gaeaf hwn. Roedd y glaw trwm ar draws rhannau helaeth o Gymru yn golygu bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd llifogydd difrifol i'r Hafren, a nifer o rybuddion llifogydd ar draws gogledd a chanolbarth Cymru. Yn yr un modd, daeth glaw trwm ar draws de-orllewin Cymru yn y dyddiau cyn Storm Ciarán ac yn ystod y storm ar 1 a 2 Tachwedd â gwyntoedd cryfion a glaw pellach, gan arwain at rybudd llifogydd difrifol ar gyfer Afon Ritec yn Ninbych-y-Pysgod, rhybudd llifogydd ar gyfer Afon Solfach, a sawl rhybudd llifogydd ar draws Gorllewin Cymru.

Rwy'n gwybod pa mor ddinistriol y gall effeithiau llifogydd fod - hoffwn gynnig fy nghydymdeimlad i anwyliaid yr unigolion a gollodd eu bywydau ar draws y DU yn ystod Storm Babet, a hefyd fy nghydymdeimlad dwys â'r bobl hynny yr effeithiwyd ar eu heiddo yn ystod Storm Babet a Storm Ciarán.

Rwyf wedi derbyn diweddariadau rheolaidd gan awdurdodau lleol ac ar 17 Tachwedd 2023, y diweddariad am lifogydd mewnol i eiddo yw:

  • Storm Babet: 163 eiddo yng Nghonwy (17), Sir y Fflint (103), Wrecsam (20) Powys (23)
  • 23 Hydref (rhwng y stormydd): Rhybudd tywydd melyn am law trwm i dde-orllewin Cymru. 26 eiddo yn Sir Gaerfyrddin.
  • Storm Ciarán: 7 eiddo yn Sir Benfro (2), Sir Gaerfyrddin (2) a Chastell-nedd Port Talbot (2) Wrecsam (1). 

Rwy'n ddiolchgar i'n gwasanaethau brys, Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol a llawer o rai eraill a weithiodd yn ddiflino yn ystod a rhwng y ddwy storm i leihau'r effeithiau ar gymunedau lle bo hynny'n bosibl. Hoffwn hefyd gydnabod y gefnogaeth ehangach gan gwmnïau yswiriant wrth gefnogi cwsmeriaid r effeithiwyd arnynt. Gweithiodd fy swyddogion a Cyfoeth Naturiol Cymru yn agos gyda chymheiriaid yn Llywodraethau'r DU a'r Alban i sicrhau dull cydgysylltiedig, gan gynnwys trwy Fforymau Lleol Cymru Gydnerth a ddefnyddiwyd fel rhan o'r ymateb. Mae cydweithwyr yn cynnal ymarfer gwerthuso rheolaidd i ystyried yr hyn a weithiodd yn dda, a'r hyn y gellid ei wneud yn well yn ystod stormydd a enwir yn y dyfodol.

Gyda'r hinsawdd yn newid, rydym yn wynebu llifogydd amlach a difrifol, mae lefel y môr yn codi a chyfraddau erydu arfordirol yn cyflymu. Mae'n rhaid i ni fod yn barod i ddelio â phyliau hirach o law yn rheolaidd.  Mae digwyddiadau fel Stormydd Babet a Ciarán yn dod yn llai 'eithriadol' a mwy 'arferol'.

Rydym yn gwybod nad yw'n bosibl atal neu rwystro llifogydd, ond gallwn ac yn wir rydym ar hyn o bryd yn cymryd camau i leihau'r canlyniadau a helpu i greu cymunedau mwy gwydn ledled Cymru. Eleni rydym wedi dyrannu dros £75m i Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru, y gwariant blynyddol uchaf erioed ar reoli perygl llifogydd yng Nghymru hyd yma. Fel rhan o'r pecyn £75 miliwn hwn, rydym yn darparu £34 miliwn o gyllid cyfalaf i'n Hawdurdodau Rheoli Risg (RMAs). Mater i RMAs yw cyflwyno cynlluniau arfaethedig ar gyfer cyllid cyfalaf ac rwy'n annog awdurdodau lleol i barhau i fod yn rhan o'r broses hon. Rydym yn gwybod bod buddsoddi yn gweithio - er enghraifft, mae CNC yn amcangyfrif na wnaeth dros 1000 eiddo orlifo yn y stormydd oherwydd y buddsoddiad maen nhw wedi ei wneud.

Fodd bynnag, nid yw rheoli perygl llifogydd yn gysylltiedig ag adeiladu amddiffynfeydd cadarn yn unig. Mae cyllid refeniw hefyd yn galluogi RMAs i barhau â'u gwaith ar godi ymwybyddiaeth, ymchwiliadau llifogydd a rhybuddio a hysbysu. Y llynedd, bu bron i ni ddyblu ein cyllid refeniw ar gyfer awdurdodau lleol i £225,000 yr un, ac rwy'n falch ein bod yn gallu cynnig yr un lefel o fuddsoddiad eto eleni. Yn y cyfamser, mae CNC yn darparu cymorth a chyngor drwy sesiynau trafod i wella gwytnwch mewn cymunedau sydd mewn perygl. Mae cyngor a chymorth ynghylch sut i ymuno â grŵp llifogydd cymunedol, ynghyd â rhestr o sefydliadau sy'n darparu cefnogaeth i grwpiau llifogydd, fel y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol a Fforymau Lleol Cymru  Gydnerth, ar gael ar wefan CNC. Mae cynlluniau llifogydd cymunedol yn eiddo i aelodau neu grwpiau cymunedol, ac o fis Ebrill 2023, roedd 71 o gynlluniau llifogydd cymunedol ledled Cymru.  Mae hynny'n 34 cymuned yn Ne Cymru, 14 yng Nghanolbarth Cymru, a 23 yng Ngogledd Cymru yn cymryd camau i ddeall, paratoi a rheoli risgiau llifogydd posibl yn eu hardal.

Mae'n debygol y byddwn yn wynebu stormydd pellach fel Storm Babet a Ciarán gydol y gaeaf hwn. Mae bod yn barod yn hollbwysig. Mae gan CNC ganllawiau ymarferol ar beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd a  byddwn yn eich annog chi a'ch etholwyr i ddefnyddio'r cymorth hwn.