Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yng nghyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd gwelwyd y stormydd diweddaraf i gael eu henwi yn cael effaith ar Gymru a'r DU yn ehangach y gaeaf hwn; Storm Gerrit (27-28 Rhagfyr) a Storm Henk (1-2 Ionawr).  Yn ystod Storm Gerrit cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybuddion melyn am law trwm a gwyntoedd cryfion dros ran helaeth o Gymru, a rhybuddion Melyn pellach am wyntoedd cryfion a glaw trwm ar 30 Rhagfyr. Yn y cyfamser effeithiodd Storm Henk ar rannau helaeth o Gymru yn yr un modd, yn enwedig De a Chanolbarth Cymru gyda glaw trwm dros dir sydd eisoes yn dirlawn. Roedd gwasanaethau darogan a rhybuddio Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer prif afonydd a'r môr hefyd yn weithredol drwy gydol cyfnod yr ŵyl. Yn ystod Storm Henk cyhoeddodd CNC 1 Rhybudd Llifogydd Difrifol ar gyfer Afon Ritec yn Kiln Park Dinbych-y-pysgod, a chyfanswm o 30 Rhybudd am Lifogydd a 40 Rhybudd Llifogydd ledled Cymru.

Arweiniodd y stormydd hefyd at rywfaint o darfu ar drafnidiaeth oherwydd llifogydd dŵr wyneb, gyda Traffig Cymru yn gweithredu ei gynllun cyfathrebu strategaeth tywydd garw. Roedd ei asiantau cefnffyrdd hefyd yn patrolio ac yn sicrhau bod gwyriadau lleol yn cael eu harwyddo lle roedd llifogydd ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol (A483 yn Llanfair-ym-Muallt a'r A4042 yn Llanellen ger Y Fenni).

Rwy'n dal i fod yn ymwybodol o effaith ddinistriol posibl llifogydd - ar gartrefi, bywoliaeth a bywydau. Rwy'n cydymdeimlo'n fawr â'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd diweddar yn dilyn stormydd Gerrit a Henk. Mae manylion llawn yr effeithiau ar gymunedau yng Nghymru yn dal i ddod i'r amlwg ac mae swyddogion mewn cysylltiad ag Awdurdodau Lleol ledled Cymru am y ddwy storm, fel sy'n arferol ar ôl digwyddiadau o'r fath. O 9 Ionawr, mae'r arwyddion presennol gan awdurdodau lleol yn awgrymu bod 37 eiddo wedi dioddef llifogydd mewnol, yng Nghaerffili (4), Sir Gaerfyrddin (23, yn bennaf yng Nglanyfferi a Llansteffan ynghyd ag 1 eiddo busnes), Sir Fynwy (2), Sir Benfro (3), Powys (1), Rhondda Cynon Taf (1) a Thorfaen (2). Bydd swyddogion yn parhau i dderbyn rhagor o wybodaeth dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf. 

Yn y cyfamser, er i sawl afon gyrraedd lefelau rhybudd am lifogydd a bod llawer o gyrsiau dŵr y tu hwnt i'w glannau, mae CNC wedi nodi bod ei rwydwaith o amddiffynfeydd rhag llifogydd yn atal llifogydd mewn sawl ardal, gyda 73,000 eiddo yn elwa o'r amddiffynfeydd hyn. Rwy'n ddiolchgar i gydweithwyr yn CNC, awdurdodau lleol, y gwasanaethau brys a llawer o rai eraill a weithiodd yn ddiflino dros gyfnod y Nadolig i leihau'r effaith ar gymunedau lle bo hynny'n bosibl. Drwy gydol y ddwy storm, bu swyddogion a CNC hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda Fforymau Lleol Cymru Gydnerth a chymheiriaid yn Llywodraeth y DU i sicrhau ymateb cydgysylltiedig. 

Mae tymor y gaeaf hwn eto yn dangos, gyda'r newid yn yr hinsawdd, ein bod yn wynebu pyliau hirach o law yn rheolaidd. Rydym yn gwybod nad yw'n bosibl atal neu rwystro llifogydd, ond gallwn ac yn wir rydym ar hyn o bryd yn cymryd camau i leihau'r canlyniadau a helpu i greu cymunedau mwy gwydn ledled Cymru. Eleni rydym wedi dyrannu dros £75m i Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru, y gwariant blynyddol uchaf erioed ar reoli perygl llifogydd yng Nghymru hyd yma.

Mae'n rhaid i ni i gyd fod yn barod i ddelio â llifogydd mwy aml a difrifol. Mae'n hanfodol i fod yn barod am hyn. Mae gan CNC ganllawiau ymarferol ar beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd a rannais yn ddiweddar ym mis Tachwedd yn dilyn Stormydd Babet a Ciarán. Rwy'n parhau i'ch annog chi a'ch etholwyr i ddefnyddio'r gefnogaeth hon.