Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 6 Ebrill, cyrhaeddodd Storm Kathleen Gymru gan ddod â gwyntoedd cryfion a glaw trwm – ar yr un adeg â'r gorllanw. Roedd yr amodau stormus yn effeithio'n arbennig ar rannau o orllewin a gogledd Cymru, gan gynnwys ar hyd yr arfordir. Yn ystod yr effeithiau gwaethaf ar 9 Ebrill, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) nifer o rybuddion llifogydd ar gyfer Llanfairfechan, Bae Penrhyn, Llanddulas, Promenâd Bae Cinmel a Sandy Cove, Prestatyn Beach Road, Ffryntiad Ffynnongroyw a chymuned Ffynnongroyw. 

Rwy'n gwybod y gall effeithiau llifogydd fod yn ddinistriol – ar gartrefi, bywoliaethau a bywydau – ac rwy'n cydymdeimlo â phawb yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd diweddar o ganlyniad i Storm Kathleen. Mae manylion llawn yr effeithiau ar gymunedau yng Nghymru yn dal i ddod i'r amlwg ac mae swyddogion mewn cysylltiad ag awdurdodau lleol ledled Cymru, fel sy'n arferol ar ôl digwyddiadau o'r fath. Ar ddydd Mawrth 16 Ebrill, roedd adroddiadau cyfredol gan awdurdodau lleol yn awgrymu bod 35 eiddo (33 eiddo preswyl a dau fusnes) wedi profi llifogydd mewnol ledled Conwy (20), Ceredigion (8) a Thorfaen (7).  Bydd swyddogion yn parhau i dderbyn rhagor o wybodaeth dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf. 

Serch hynny, er i sawl lleoliad gyrraedd lefelau rhybudd llifogydd, roedd ein rhwydwaith presennol o amddiffynfeydd rhag llifogydd yn atal llifogydd mewn sawl ardal. Er enghraifft, mae 73,000 eiddo ledled Cymru yn elwa o amddiffynfeydd llifogydd CNC yn barhaus. Mae ein blaenraglen waith bresennol hefyd yn targedu'r ardaloedd hynny yr effeithiwyd arnynt yr wythnos diwethaf. Rwy'n ddiolchgar i gydweithwyr yn CNC, awdurdodau lleol, y gwasanaethau brys a llawer eraill am eu hymdrechion yn ystod yr wythnos diwethaf i leihau'r effaith ar gymunedau lle bo hynny'n bosibl. Bu swyddogion a CNC hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda Fforymau Cydnerthedd Lleol. 

Unwaith eto mae'r gaeaf hwn yn dangos, oherwydd y newid yn yr hinsawdd, ein bod yn wynebu tywydd eithafol yn fwy rheolaidd. Rwy'n ailadrodd y pwyntiau a wnaed gan fy rhagflaenydd, y Gweinidog Newid Hinsawdd; Rydym yn gwybod ei bod yn amhosibl atal pob digwyddiad llifogydd, ond gallwn ac yn wir rydym yn cymryd camau i leihau'r canlyniadau a helpu i greu rhagor o gydnerthedd ledled Cymru. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn 2024-25, er gwaethaf pwysau aruthrol ar bwrs y cyhoedd, yn cynnal y lefelau uchaf erioed o gyllid ar gyfer rheoli perygl llifogydd, ac rydym unwaith eto wedi dyrannu £75 miliwn mewn cyllid Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) yng Nghymru. Rydym hefyd wedi gwneud dros £5 miliwn o'n prif raglen buddsoddi cyfalaf, a thros £800k o'n Grant Gwaith Graddfa Fach ar gael i gefnogi cynlluniau Cynghorau Conwy, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Gwynedd, gan leihau'r risg i fwy na 2,000 eiddo. 

Byddwn hefyd yn buddsoddi £14.1 miliwn ym Mae Cinmel, Conwy, £3.4 miliwn yng Ngerddi Traphont Abermaw, Gwynedd a £3.4 miliwn yn Llandudno, Conwy. Dylid nodi bod y rhain i gyd yn ardaloedd yr effeithiwyd arnynt yn dilyn Storm Kathleen. Ar ôl ei chwblhau, bydd y Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol wedi ariannu 15 cynllun ledled Cymru gwerth £240 miliwn, gyda dros 14,000 eiddo ar eu hennill. 

Mae ein rhaglen Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol hefyd yn cydnabod y rôl hanfodol y bydd atebion sy'n seiliedig ar natur yn ei chwarae wrth liniaru effeithiau llifogydd yn y dyfodol. Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus, lansiwyd Rhaglen Sbarduno Rheoli Llifogydd yn Naturiol (NFM) ym mis Hydref 2023, a bydd £4.6 miliwn arall yn cael ei fuddsoddi mewn atebion sy'n seiliedig ar natur ledled Cymru. Mae'r rhaglen yn dangos ein hymrwymiad i weithio gyda ffermwyr, perchnogion tir a sefydliadau trydydd sector ledled Cymru. Bydd y rhaglen yn gweithio gyda phrosesau naturiol i wella ein hamgylchedd naturiol, cynyddu nifer y cynefinoedd gwlyptir a choetir, a lleihau'r perygl o lifogydd i hyd at 2,000 eiddo. Bydd yn ariannu 23 o brosiectau ar draws ardaloedd wyth awdurdod gwahanol.

Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth hyrwyddo ymyriadau rheoli llifogydd yn naturiol (NFM) ledled Cymru. O waith a wnaed yn Nwyran, Ynys Môn, sydd wedi datblygu gwarchodfa natur wlyb/sych a fydd yn cynyddu capasiti storio ac yn cefnogi draenio gwell i leihau'r perygl o lifogydd i eiddo –  i waith yn Nhref-y-clawdd, Powys, sy'n gynllun peilot NFM cydweithredol enghreifftiol, gan weithio gyda thirfeddianwyr i nodi dulliau NFM sy'n addas ar gyfer eu tir. O dan y cynllun mae 11,850 o goed ifanc wedi cael eu plannu i fod yn goetir afonol ac i greu gwrychoedd/perthi newydd i amsugno dŵr o'r bryniau i Afon Tefeidiad a'i hisafonydd. Mae 250 o argaeau sy'n gollwng wedi cael eu hadeiladau ynghyd â 14 o byllau, pyllau tymhorol a byndiau i storio dŵr, ar hyd dros 10.8 cilomedr o nentydd.  

Yn ogystal, mae cynllun dalgylch Afon Wnion yng Ngwynedd yn enghraifft ardderchog o gydweithio rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Gwynedd (Cyngor Gwynedd). Mae'r prosiect hwn yn dangos sut mae camau rheoli tir cynaliadwy fel plannu coed, adfer gwlyptiroedd a mawndiroedd, plannu, sefydlogi glannau ac adfer afonydd, i gyd yn cyfrannu at leihau'r risg o lifogydd i eiddo yn nalgylch Afon Wnion ym mhentrefi Rhydymain a thref Dolgellau.

Rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau rheoli risg a hyrwyddo NFM ac, ar hyn o bryd, mae cynlluniau yn y camau datblygu sy'n cynnwys NFM o fewn atebion peirianneg traddodiadol, megis Lower Priory – Havens Head yn Sir Benfro, dalgylch Afon Gwyrfai yng Ngwynedd ac adfer mawnogydd a  phyllau arafu yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'n rhaid inni i gyd barhau i fod yn barod i ddelio â llifogydd mwy aml a difrifol. Mae bod yn barod yn hanfodol. Mae gan CNC ganllawiau ymarferol ar beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd sydd wedi cael eu rhannu ag Aelodau yn dilyn stormydd a enwyd blaenorol y gaeaf hwn. Rwy'n eich annog chi i gyd i ddefnyddio'r cymorth hwn.