Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer methu â  mynychu'r ysgol yn rheolaidd a chymryd gwyliau yn ystod y tymor ysgol yn fater sydd wedi cynhyrfu emosiynau ymhlith rhieni ac mewn ysgolion. Rwy'n teimlo, felly, fod angen imi bwysleisio unwaith yn rhagor farn Llywodraeth Cymru ar y mater hwn.
Mae presenoldeb da yn yr ysgol yn allweddol i helpu plant i gael y cychwyn gorau posibl mewn bywyd ac i elwa i'r eithaf ar eu potensial, o ran eu cyflawniad academaidd a'u cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol. Ceir tystiolaeth glir o’r cysylltiad rhwng presenoldeb a chyflawniad academaidd.  
Nid oes gan rieni hawl awtomatig i dynnu disgyblion o'r ysgol i gymryd gwyliau yn ystod y tymor ysgol. Ar y llaw arall, gallai fod amgylchiadau sy'n gwarantu caniatáu i ddisgybl gymryd amser i ffwrdd o'r ysgol yn ystod y tymor ysgol. Penaethiaid, felly, sydd yn y sefyllfa orau i wneud y penderfyniad. Mae Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 yn datgan bod gan benaethiaid bŵer disgresiwn i roi caniatâd i ddisgybl fynd ar wyliau teuluol yn ystod y tymor pan fo rhieni yn gofyn am gael gwneud hynny. Ar wahân i amgylchiadau eithriadol, ni ddylid caniatáu mwy na 10 diwrnod o absenoldeb at y diben hwn.  
Dylai penaethiaid ystyried amgylchiadau unigol fesul achos. Bydd amryw o agweddau yn cael eu hystyried, gan gynnwys: pa adeg o'r flwyddyn y gofynnir am wyliau; am ba gyfnod y gofynnir am wyliau ac at ba ddiben; yr effaith a gaiff cymryd gwyliau ar barhad y dysgu, ar amseru arholiadau neu brofion; amgylchiadau'r teulu a dymuniadau'r rhieni; yn ogystal â phresenoldeb cyffredinol a chyflawniad y disgybl.  
Os bydd pennaeth yn penderfynu peidio â chytuno i gais gan riant i fynd â'i blentyn ar wyliau yn ystod y tymor ysgol, a'r rhiant yn penderfynu mynd â'i blentyn er gwaethaf hynny, caiff hyn ei ystyried yn absenoldeb 'anawdurdodedig'.
Mae Rheoliadau (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2013 yn datgan bod hysbysiadau cosb yn cael eu rhoi ar gyfer methu â mynychu ysgol yn rheolaidd, hynny yw, absenoldeb 'anawdurdodedig' rheolaidd.
Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar rieni i sicrhau bod eu plentyn/plant yn cael addysg beth bynnag y bo eu cefndir economaidd-gymdeithasol. Wedi dweud hynny, mae rheidrwydd cymdeithasol a moesol ar awdurdodau lleol i weithio gydag anghenion teuluoedd unigol, ac i ddeall yr anghenion hynny, er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i'r plentyn. Mae ymyriadau wedi'u targedu ac ymgysylltu effeithiol â theuluoedd yn chwarae rôl hanfodol i ddatrys presenoldeb isel yn yr ysgol.  Pan fo absenoldebau anawdurdodedig yn digwydd yn rheolaidd, mae gan ysgolion ac awdurdodau lleol amryw o opsiynau i'w helpu i sicrhau bod disgyblion yn mynychu'r ysgol. Un o'r opsiynau hynny sydd ar gael iddynt yw hysbysiadau cosb benodedig. 
Bydd meini prawf awdurdodau lleol ar gyfer rhoi hysbysiadau cosb, a allai amrywio o'r naill awdurdod lleol i'r llall, yn cael eu hamlinellu yn eu codau ymddygiad. Rhaid bod gan bob awdurdod lleol god ymddygiad cyn cyhoeddi hysbysiad cosb benodedig. Mae'r cod yn amlinellu sut y mae'r system hysbysiadau cosb benodedig yn gweithio a'r mesurau sy'n eu lle i sicrhau cysondeb, tegwch a thryloywder yn y ffordd y cânt eu cymhwyso. Dylai'r cod fod ar gael i rieni ac ar gael i'w weld ar wefan yr awdurdod lleol.