Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy'n dymuno diweddaru Aelodau'r Cynulliad ynghylch gwaith i hyrwyddo Egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer Gweithio gyda Chymunedau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y llu o dermau a ddefnyddir i ddisgrifio gwaith gyda chymunedau, mae wedi cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru fod yn glir ynghylch ei disgwyliadau ac mae wedi trafod y diddordeb sydd yna ar hyn o bryd, y tu mewn a'r tu allan i Lywodraeth Cymru, mewn “cymunedau gweithredol”. O ystyried amrywiaeth y theori a'r ymarfer sy'n ymwneud â'r maes hwn ar hyn o bryd, ni fyddai o unrhyw gymorth pe bai Llywodraeth Cymru yn ceisio hyrwyddo un model penodol o weithio.  Felly, mae wedi nodi'r egwyddorion, y mae'n credu, a ddylai fod yn sail i waith gyda chymunedau.

Mae'r egwyddorion yn cydnabod na fydd modelau blaenorol a thraddodiadol, yn ogystal â lefelau gwasanaeth yn bosibl yn y dyfodol. Ymhellach, maent yn cydnabod pwerau Llywodraeth Cymru a'u cyfyngiadau, yr angen i rymuso cymunedau a datblygu perthynas newydd i gyflawni'r hyn sydd ei angen yn y dyfodol, ac i gyfrannu at saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015..

O safbwynt Llywodraeth Cymru, mae egwyddorion gweithio gyda chymunedau yn golygu:

  • cynnwys cymunedau, defnyddwyr gwasanaeth a sefydliadau wrth ddiffinio problemau ac wrth nodi, cynllunio, cyflwyno a gwerthuso dulliau newydd,
  • cydnabod y dylid rhannu cyfrifoldeb i wella gwasanaethau cyhoeddus gan ganolbwyntio ar ganlyniadau ac anghenion pobl,
  • parch tuag at gyfraniadau gwahanol bartneriaid yn y broses o gynllunio a darparu gwasanaethau a gwella canlyniadau, gan gydnabod y bydd rolau yn amrywio,
  • gwerthfawrogi amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb,
  • prosesau y bwriedir iddynt gydnabod bod yna adnoddau, galluoedd ac asedau nid yn unig o fewn gwasanaethau cyhoeddus, ond mewn cymunedau hefyd, ac y dylid dod o hyd i ffyrdd i ryddhau'r rhain a gwireddu eu potensial i gynyddu lles. 
  • parodrwydd i fabwysiadu a buddsoddi mewn ffyrdd newydd o weithio o ran polisi a chyflawni,
  • tryloywder ynglŷn â sut  y bydd penderfyniadau yn cael eu cymryd a chan bwy.

Nid yw'r Egwyddorion i fod i gymryd lle egwyddorion ac arferion sydd wedi'u hen sefydlu a ddefnyddir gan grwpiau cymunedol a sefydliadau'r sector cyhoeddus fel ei gilydd, er enghraifft, Yr Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd. Yr 'Egwyddorion ar gyfer Gweithio gyda Chymunedau' yw Egwyddorion Llywodraeth Cymru a dyma'r dull y bydd yn ei ddefnyddio wrth weithio gyda chymunedau.

Mae mathau eraill o gydweithio a gweithio mewn partneriaeth yn parhau i fod yn werthfawr a gallant fod yn fwy priodol lle nad yw'n bosibl nac yn ddymunol mabwysiadu'r dull gweithredu a nodir gan yr Egwyddorion uchod.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio hyrwyddo a dylanwadu ar arferion gorau ac yn annog cyrff eraill sy'n gweithio gyda chymunedau i fabwysiadu'r Egwyddorion hyn.

Mae cadarnhau'r 'Egwyddorion ar gyfer Gweithio gyda Chymunedau' gan Lywodraeth Cymru yn arwydd o fwriad i harneisio sgiliau a phrofiad  grwpiau cymunedol a defnyddwyr gwasanaethau ochr yn ochr â gwasanaethau cyhoeddus. Mae Egwyddorion Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfle i adeiladu ymddiriedaeth, grymuso cymunedau a datblygu newid mewn diwylliant, o fewn sefydliadau a chymunedau. Bydd yr Egwyddorion a'r dull hwn yn helpu i ddatblygu cymunedau gwydn, meithrin lles cymunedol a chefnogi'r agenda ar gyfer bod yn weithredol yn y gymuned gan helpu i gyfuno gweithgareddau cymunedol gyda chryfhau'r modd y darperir gwasanaeth cyhoeddus, ar gyfer cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol.

Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o ysgogiadau a ddefnyddir i gyhoeddi a hyrwyddo'r Egwyddorion, gan gynnwys Datganiadau Gweinidogol ac Arweiniad, deddfwriaeth, caffael nwyddau a gwasanaethau a datblygu strwythurau megis fforymau cymunedol, paneli dinasyddion a gweithgorau.  Mae’r Egwyddorion yn cysylltu â’r pum ffordd o weithio y mae angen i gyrff cyhoeddus eu hystyried yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.  Mae hyn yn cynnwys pwysigrwydd cynnwys pobl a chydweithio gydag unrhyw berson arall.  

Rwyf fi wedi ysgrifennu at gyd-Weinidogion i ofyn am eu cefnogaeth i hyrwyddo'r Egwyddorion yr ydym wedi cytuno arnynt ac annog cyfranogiad ystyrlon cymunedau a'r Trydydd Sector yn y gwaith o ailgynllunio a darparu gwasanaethau. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion nodi cyfleoedd pellach i hybu Egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer Gweithio gyda Chymunedau gan fy mod yn credu bod ganddynt rôl allweddol i'w chwarae fel sail i agenda cymunedau gweithgar Llywodraeth Cymru.