Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyhoeddais fwriad dro yn ôl i sefydlu system electronig ar gyfer cofnodi symudiadau defaid yng Nghymru ac mae’n dda gennyf allu rhoi gwybod i’r Aelodau heddiw bod y bwriad hwnnw ar fin cael ei droi’n realiti.  Bydd y system symudiadau defaid newydd Cymru, EIDCymru, yn dechrau ym mis Ionawr 2015.

Mae’r hyn sy’n ofynnol ar gyfer system olrhain electronig yn cael ei ddisgrifio yn rheoliad Ewropeaidd 21/2004 sy’n seiliedig ar yr ymateb i’r Clwy Traed a’r Genau yn 2001.  Bydd EIDCymru yn system olrhain newydd a chryf ar gyfer delio’n gyflym ac effeithiol ag achosion o glefyd ac mae’n ymateb hefyd i argymhelliad 37 yn adroddiad Gareth Williams ar ‘Hwyluso’r Drefn’.

Bydd EIDCymru yn fwy na system olrhain gref a fydd yn dod â budd mawr i’r diwydiant.  Bydd ffermwyr a phroseswyr yn gallu defnyddio manylder yr olrhain i ddatblygu’u busnes a hefyd o bosibl i wneud mwy o elw. Caiff ffermwyr a chynhyrchwyr, os dyna’u dymuniad, feithrin perthynas waith â’i gilydd gan ddefnyddio rhifau adnabod anifeiliaid unigol y bydd EIDCymru yn eu sefydlu i gyfnewid gwybodaeth ac i roi adborth ar anifeiliaid unigol.

Bydd EIDCymru yn dod â buddiannau ehangach i’r diwydiant ffermio trwy helpu i farchnata a brandio Cig Oen Cymru mewn marchnadoedd hen a newydd.

Wrth ddatblygu EIDCymru, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n glos â Llywodraeth yr Alban a bydd yn manteisio ar gynnig yr Alban i ddefnyddio ScotEID fel sail ar gyfer datblygu’r system Gymreig.  Hoffwn ddiolch i Lywodraeth yr Alban am ddangos ScotEID i ni ac am yr holl gyngor rydym wedi’i gael ganddynt yn ei gylch dros y misoedd diwethaf.

Dyma enghraifft wych yn fy marn i o lywodraethau’n gweithio gyda’i gilydd i gefnogi’r diwydiant ffermio, i ehangu ar y buddsoddi sydd eisoes wedi’i wneud a chyfnewid gwybodaeth a phrofiad.  Rwy’n siŵr y gallwn ddatblygu’r berthynas hon ymhellach  wrth i’r ddwy system ddatblygu a chynyddu’r buddsoddiad er lles y diwydiant amaeth.

Yn ogystal â’n gwaith llwyddiannus â Llywodraeth yr Alban, mae fy swyddogion wedi bod yn cynnal trafodaethau helaeth â Defra i wneud yn siŵr bod y cytundeb a wnaed ar lefel Gweinidogion yn arwain at sicrhau bod ein systemau electronig yn gallu cyfnewid gwybodaeth am symudiadau dros ffiniau.

Rwy’n cyhoeddi heddiw yr arian sy’n cael ei neilltuo i EIDCymru ac yn benodol y dechnoleg i gynnal system newydd i gofnodi symudiadau defaid yng Nghymru.  Gan edrych tua’r dyfodol, bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio’n glos â Hybu Cig Cymru (HCC) i gryfhau’r trefniadau ar gyfer darparu EIDCymru yng Nghymru.  Dros yr wythnosau a misoedd nesaf, bydd fy swyddogion, gyda chymorth HCC, yn cydweithio â’u partneriaid, rhanddeiliaid a ffermwyr unigol i ddatblygu’r rheolau a’r arweiniad ar gyfer y system newydd. 
 
I’r perwyl hwn, byddaf yn lansio ymgynghoriad cyn hir ynghylch gweithredu EIDCymru.  Bydd yr ymgynghoriad yn ymgorffori’r ymgynghoriad ar lacio’r rheolau lladd (opsiynau tagio) er mwyn i ymatebwyr allu ystyried y materion hyn yn eu cyd-destun ac yn fanwl.

Law yn llaw â’r gwaith ar ddatblygu EIDCymru, bydd fy swyddogion a HCC, yn parhau i ymwneud â’r diwydiant ac â ffermwyr unigol i wneud yn siŵr bod defnyddwyr y system newydd yn deall sut y bydd y newidiadau’n effeithio arnyn nhw ac yn dod â budd iddyn nhw.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny