Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n falch iawn o hysbysu yr Aelodau bod EIDCymru, y system newydd i gofnodi symudiadau defaid yng Nghymru wedi ei lansio yn ôl yr amserlen ddydd Llun 18 Ionawr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi’n sylweddol yn EIDCymru gyda £2.2 miliwn i sicrhau bod gan y diwydiant ffermio yng Nghymru system gofnodi symudiadau ac olrhain defaid fodern a dibynadwy.

Mae’r buddsoddiad hwn yn ffordd arall o ddiogelu yn erbyn clefydau ar raddfa mor fawr a difrifol ac a gawsom yn 2011, gyda’r achosion o glwy’r traed a’r genau. Mae EIDCymru hefyd yn galluogi ceidwaid i gofnodi symudiadau defaid a geifr yn effeithiol a bydd yn parhau i gyfrannu’n sylweddol at ddatblygiad pellach busnesau amaethyddol modern a phroffesiynol, gan gyflawni yr amcanion pwysig o Fframwaith Strategol Amaethyddiaeth yng Nghymru.

Rwyf wedi rhoi y system ar waith yng Nghymru mewn dull strategol, gam wrth gam.  Cafodd y newidiadau i’r opsiynau tagio i adnabod ŵyn sy’n cael eu lladd eu cyhoeddi yn ôl yn 2014, i ganiatáu amser digonol i ffermwyr baratoi a defnyddio eu stociau o dagiau lladd nad oedd yn electronig.  Mae’r newid yn cysoni’r trefniadau i lacio’r rheolau lladd sydd wedi’u sefydlu ledled Prydain, yn sail i’r system e-gofnodi, ac yn sicrhau mwy o gydymffurfio.  Ers mis Tachwedd 2015, bu EIDCymru ar gael i sefydliadau, i sicrhau y canlyniad gorau posib o’r cychwyn cyntaf. Rwy’n cydnabod pwysigrwydd masnachu traws-ffiniol ac wedi sicrhau y bydd ein system yn trosglwyddo a derbyn data systemau tebyg sy’n cael eu defnyddio nawr yn Lloegr a’r Alban.

Mae’n hollbwysig bod EIDCymru yn cynnig platfform sy’n hygyrch ac yn hawdd i ffermwyr ei defnyddio, a hefyd yn bodloni rheoliadau Ewropeaidd. Rwyf felly’n ddiolchgar i’r ffermwyr sydd wedi cyfrannu at ddatblygiad y system ac i’r Grŵp Cynghori ar Adnabod Da Byw, sydd wedi gweithio’n agos â’m swyddogion. Bydd eu cysylltiad positif a’u hawgrymiadau arloesol yn parhau i gael eu defnyddio i wella’r system wrth inni gyflwyno swyddogaethau pellach fel y cofrestr diadellau electronig, mynediad i asiantaethau a chysylltiadau â systemau meddalwedd rheoli ffermydd sy’n bodoli eisoes, er mwyn trosglwyddo data yn uniongyrchol ar EIDCymru.

Mae ceidwaid defaid yn defnyddio’r system electronig i gofnodi symudiadau eu hanifeiliaid, ond bydd rhai yn parhau i ddefnyddio trwydded symud bapur.  Mae cymorth ymarferol yn cael ei ddarparu gan EIDCymru gyda’r rhaglen Cyswllt Ffermio sy’n cynnwys canllawiau clir, cyfarfodydd lleol gyda’r nos a diwrnodau arddangos ble y bydd modd i ffermwyr gael mynediad i’r system newydd a derbyn hyfforddiant ymarferol. Bydd fy swyddogion hefyd yn parhau i gydweithio’n agos â rhanddeiliaid i sicrhau eu bod yn helpu ffermwyr i wneud y gorau o’r cyfleoedd sy’n codi o’r newid hwn i ragor o wasanaethau ar-lein.

Mae EIDCymru yn fyw bellach, a gyda chymorth y diwydiant amaethyddol yng Nghymru, cymorth gan wasanaeth EIDCymru a Chyswllt Ffermio, rwy’n awyddus i weld nifer y ffermwyr sy’n defnyddio’r system electronig yn cynyddu’n gyflym.

Mae manteision ehangach system electronig o ran rhedeg ffermydd yn effeithiol, gwell cysylltiadau o fewn y diwydiant a chymorth ehangach i Gig Oen Cymru yno i’w datblygu ac i fanteisio arnynt.  Dyma’n union sydd ei angen os ydym i wireddu ein gweledigaeth ar y cyd o ddiwydiant modern, proffesiynol, cynaliadwy a phroffidiol yma yng Nghymru.