Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Heddiw, mae'n bleser gennyf ddatgan cyhoeddi Llawlyfr ar Eiddo Gwag yng Nghymru.
Mae cartrefi gwag yn bla ac yn niwsans yn ein cymunedau. Maent yn denu ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn peri problemau o ran iechyd yr amgylchedd ac yn cyfrannu at ddirywiad cyffredinol yn eu cymdogaethau, ond maent hefyd yn wastraff o adnoddau. Mae dod â chymaint o eiddo gwag yn ôl i ddefnydd â phosibl yn bwysig er mwyn helpu i ddiwallu anghenion ein grwpiau mwyaf agored i niwed, yn enwedig wrth helpu i sicrhau y gallwn symud y rhai sydd mewn llety dros dro ar hyn o bryd i gartrefi parhaol yn gyflym. Gall eiddo gwag hefyd gynnig cyfle i'r rhai sy'n dymuno bod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain.
Mae'r llawlyfr hwn yn adnodd ymarferol i awdurdodau lleol, perchnogion eiddo, grwpiau cymunedol, a phawb sy'n ymwneud â mynd i'r afael ag eiddo gwag. Mae'n cynnig canllawiau ar nodi, mynd i'r afael â hwy a dod ag eiddo gwag preswyl a masnachol yn ôl i ddefnydd buddiol.
Trwy gefnogi ymdrechion i adfywio cymunedau, diwallu anghenion tai, a gwneud y gorau o'r adeiladau presennol, nod y llawlyfr yw troi eiddo gwag yn asedau gwerthfawr. Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb yn y maes hwn i wneud defnydd llawn o'r adnodd hwn ac i weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r her o eiddo gwag ledled Cymru.
Ar ben hynny, rwy'n falch o gadarnhau estyniad i’r cyfnod ymgeisio am Grant Cartrefi Gwag tan fis Medi 2026, ochr yn ochr â chynllun peilot o ddileu'r gofyniad i awdurdodau lleol ddarparu cyfraniad o 10% i gymryd rhan yn y cynllun yn 2026-27. Mae'r cynllun peilot hwn yn ymateb i un o'r problemau a ddaeth i'r amlwg yn y gwerthusiad annibynnol o'r grant a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
