Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwy'n cyhoeddi ymgynghoriad ar ddarparu eithriadau rhag talu'r dreth gyngor ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal.

Yn ein rhaglen lywodraethu, Symud Cymru Ymlaen 2016-2021, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella tegwch y dreth gyngor.  Rwyf wedi ystyried yr amrywiol ffyrdd posibl o newid y system dreth gyngor er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni'r ymrwymiad hwn i aelwydydd yng Nghymru. Cyhoeddwyd diweddariad ar ein gwaith ar 24 Hydref. Mae un rhan o'r gwaith wedi bod yn edrych ar sut y gallwn wneud y dreth gyngor yn decach i aelwydydd sy'n agored i niwed.

Rwy'n awyddus i sicrhau bod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gwneud pob peth o fewn eu gallu i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal a'u cynorthwyo wrth iddynt dyfu'n oedolion a byw'n annibynnol.

Ym mis Mawrth 2017, gofynnais i'r cynghorau ystyried defnyddio'u pwerau disgresiwn i ganiatáu goddefeb llwyr rhag talu’r dreth gyngor i bob un sy'n gadael gofal, beth bynnag y bo'u hamgylchiadau unigol.

Ym mis Hydref 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i eithrio’r rhai sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor. Rwy'n falch iawn o weld yr hyn a gyflawnwyd gan y cynghorau hynny sydd bellach wedi cyflwyno eu cynlluniau eu hunain.

Fodd bynnag, mae cryn anghysondeb o ran y cymorth sydd ar gael i'r rhai sy'n gadael gofal ledled Cymru ac efallai na fydd pwerau disgresiwn yn darparu sail statudol ddibynadwy yn yr hirdymor ar gyfer y newid yr ydym yn dymuno ei weld. Felly, rwy'n credu bod angen deddfwriaeth i gywiro'r materion hyn.

Heddiw yw diwrnod cyntaf yr ymgynghoriad chwe wythnos, lle byddwn yn ymgynghori gydag awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol, trethdalwyr ac wrth gwrs y rhai hynny sy'n gadael gofal. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar fabwysiadu a gweithredu dull cyson o weithredu drwy gyflwyno eithriad statudol. Mae'n gyfle pwysig i sicrhau bod ein system dreth gyngor yn decach, ac rwy'n awyddus i glywed safbwyntiau pawb ac i weithio gyda rhanddeiliaid i wella ein dull o weithredu.

Yn ddarostyngedig i ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, fy nod yw dwyn deddfwriaeth ymlaen er mwyn eithrio'r rhai sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor o 1 Ebrill 2019 ymlaen.