Cefin Campbell AS, Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol
Mae ailgysylltu'r DU ag Erasmus+ o 2027 yn nodi pennod newydd bwysig ar gyfer dysgu rhyngwladol yng Nghymru. Bydd sefydliadau ledled Cymru unwaith eto yn gallu cymryd rhan yn un o raglenni mwyaf y byd ar gyfer addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon. Bydd hyn yn creu cyfleoedd i ddysgwyr, pobl ifanc a staff astudio, hyfforddi, gwirfoddoli ac adeiladu partneriaethau rhyngwladol.
Rwy'n croesawu'n fawr ddychweliad Cymru i Erasmus+ ac rwyf eisiau gweld sefydliadau ar draws pob rhan o Gymru yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y bydd yn eu darparu.
Mae rhaglen Erasmus+ 2027 bellach ar agor, gyda dros £400 miliwn o gyllid grant ar gael i sefydliadau yn y DU ym maes addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon. Rwy'n annog sefydliadau cymwys ledled Cymru i ddechrau paratoi eu ceisiadau.
Bydd dychweliad Erasmus+ yn newid cyd-destun Taith, rhaglen addysg ryngwladol Llywodraeth Cymru. Ers ei sefydlu yn 2022, mae Taith wedi bod yn bwysig wrth alluogi dysgwyr a staff ledled Cymru i ennill profiad rhyngwladol a chefnogi sefydliadau Cymreig i ddatblygu partneriaethau ledled y byd.
Gyda sefydliadau o Gymru unwaith eto yn gallu cael mynediad at Erasmus+, rwy'n cydnabod bod rôl bwysig o hyd ar gyfer cymorth wedi'i dargedu gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig i sefydliadau a allai wynebu rhwystrau i gael mynediad at gyfleoedd rhyngwladol ac ar gyfer gweithgareddau sy'n adlewyrchu blaenoriaethau Cymru ar gyfer ymgysylltu rhyngwladol.
Felly, rwy'n cadarnhau heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi ein rhaglen ryngwladol Taith o 2028-29, gyda'r bwriad o ategu yn hytrach na dyblygu darpariaeth Erasmus+.
Bydd y cynnig yn y dyfodol yn cynnwys dwy elfen gyflenwol: cymorth Erasmus+ wedi’i deilwra i Gymru a rhaglen grantiau bach wedi’i thargedu i feithrin gallu rhyngwladol sefydliadau a darparu llwybr tuag at gymryd rhan yn Erasmus+.
Bydd rhagor o fanylion am y cynnig Taith yn y dyfodol yn cael eu darparu wrth i'r rhaglen ddatblygu.
Gyda'i gilydd, mae Erasmus+ ynghyd â rôl fwy wedi'i thargedu ar gyfer Taith yn y dyfodol yn gyfle sylweddol i adeiladu ar draddodiad cryf Cymru o ddysgu rhyngwladol. Byddant yn helpu i sicrhau bod dysgwyr, pobl ifanc, staff a sefydliadau ledled Cymru yn parhau i elwa o brofiad a phartneriaethau rhyngwladol.
Yn y tymor byr, rwy'n annog sefydliadau ledled Cymru yn gryf i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd ar gael drwy Erasmus+.
