Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw  AC, Y Cwnsler Cyffredino

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod yr haf, rydym wedi gweld rhagor o longau yn cael eu herlyn yn llwyddiannus am droseddau’n ymwneud â physgota.  Y mis diwethaf, cafodd 3 o longau eu herlyn, gyda chyfuniad o ddirwyon a chostau o dros £26,000.  Rwy’n trin y troseddau hyn o ddifrif, ac mae’r camau hyn wedi eu cymeryd yn dilyn gwaith caled gan ein swyddogion Gorfodi Morol.    
Heb reoli ein pysgodfeydd yn ofalus, rydym mewn perygl o achosi difrod sylweddol i gynaliadwyedd ein hadnoddau naturiol a’n cymunedau pysgota gwerthfawr.  Mae rheoli ein pysgodfeydd yng Nghymru yn effeithiol ac yn broactif yn hanfodol ar gyfer dyfodol rhywogaethau a chynefinoedd dyfroedd Cymru.  

O dan ddeddfwriaeth pysgodfeydd, awdurdodais erlyniad mewn achosion ymchwilio diweddar sydd wedi eu herlyn yn llwyddiannus. 

Derbyniodd perchennog a meistr y llong bysgota The Gratitude gosbau a chostau o  £21,337 am dreillio am gregyn gleision yn anghyfreithlon o fewn dyfroedd caeëdig Bae Ceredigion.  Cafodd y llong bysgota The Celtic, llong sy’n targedu cregyn moch ei herlyn yn llwyddiannus am fethu â chyflwyno Llyfrau Cofnodi Statudol a Datganiadau Glanio.  Cafodd y ddau berchnnog gosbau a chostau cyfun o  £2,212. Nid oedd y Meistr yn bresennol yn y llys, a chyflwynwyd Gwarant, heb fechnïaeth, gan y llys.  Cafodd y llong bysgota The Carley Rose, sydd â rhwyd ddrysu, ei herlyn yn llwyddiannus am ddefnyddio rhwyd ddrifft yn anghyfreithlon ym Mae Ceredigion. Cafodd y Perchennog/Meistr gosbau a chostau oedd â chyfanswm o £3,242. 

Mae’r achosion hyn yn dilyn achos o erlyn tair llong cregyn bylchog yn diweddar a dderbyniodd gosbau oedd â chyfanswm o £62,000. Rwy’n ystyried gorfodi rheolau pysgota yn fater difrifol, ac rwy’n annog capten pob llong i wneud yn siŵr eu bod yn pysgota o fewn gofynion y gyfraith.